Merched ifanc mewn ystafell ddosbarth

Mae addysg am y gylchred fislifol yn ysgolion y DU yn anghyson ac yn annigonol, ac mae athrawon yn teimlo bod ganddynt ddiffyg amser, hyder a gwybodaeth am y pwnc, yn ôl ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe.

Cynhaliodd ymchwilwyr arolwg o 789 o athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd yn y DU ac roedd 88% ohonynt o'r farn bod mislifoedd yn effeithio ar bresenoldeb disgyblion a'u cyfranogiad mewn ymarfer corff, yn ogystal â'u hymddygiad a'u hyder.

Canfu'r astudiaeth fod 53% yn unig o athrawon ysgolion uwchradd wedi nodi bod gwersi am y gylchred fislifol yn cael eu haddysgu yn eu hysgol. O'r athrawon a oedd yn ymwybodol o faes llafur cylchred fislifol eu hysgol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, nododd 144 ohonynt fod dwy wers ar y mwyaf yn cael eu darparu mewn un flwyddyn academaidd.

Roedd 90% o'r athrawon a ymatebodd i'r arolwg yn fenywod a nododd bron un o bob pedair ohonynt (23%) eu bod yn anghyfforddus wrth addysgu am y gylchred fislifol. Roedd llawer ohonynt yn defnyddio eu profiadau eu hunain, ac roedd llai na hanner ohonynt yn hyderus am eu gwybodaeth.

Wedi’i hariannu gan Chwaraeon Cymru, yr astudiaeth ‘Teachers’ perceptions and experiences of menstrual cycle education and support in UK schools’ yw cam diweddaraf yr ymchwil i effaith y gylchred fislifol ar gyfranogiad menywod mewn chwaraeon.  

Dyma sylwadau'r prif ymchwilydd, Dr Natalie Brown o Brifysgol Abertawe, am ganfyddiadau'r astudiaeth: “Rwy'n credu bod gennym lawer o waith i'w wneud o ran addysg am fislifoedd ledled y DU. Rydyn ni'n wynebu'r perygl o roi merched dan anfantais drwy fethu â'u helpu i baratoi ar gyfer symptomau corfforol ac emosiynol, a'u rheoli a'u deall, wrth gael mislif.

“Mae'n hanfodol ein bod ni'n helpu i wella hyder a gwybodaeth athrawon ynghylch y gylchred fislifol fel y bydd pobl ifanc – sef bechgyn a merched – yn gallu siarad yn hyderus am hyn wrth dyfu i fyny. Ni ddylai fod yn bwnc tabŵ mwyach. Mae angen i ni ail-lunio'r naratif a normaleiddio sgyrsiau am fislifoedd. Mae angen i hyn ddigwydd ymhlith athrawon, pobl ifanc a'u rhieni.”

Mae'r astudiaeth yn galw am welliannau i addysg am y gylchred fislifol ar gyfer bechgyn a merched ledled y DU, gan gynnwys:

  • Sicrhau bod amser ar gael i addysgu pobl ifanc, yn enwedig eu haddysgu'n fwy rheolaidd a dechrau eu haddysgu o oed iau.
  • Darparu adnoddau fel y gall athrawon gyflwyno gwybodaeth am agweddau emosiynol, cymdeithasol a chorfforol y gylchred fislifol.
  • Hyfforddi athrawon, gan ddisgwyl iddynt ymgymryd â datblygiad proffesiynol ar-lein drwy e-ddysgu a/neu weminar fel gofyniad sylfaenol.

Mae Dr Brown yn rhybuddio bod angen i ysgolion ymdrin ar frys â'r ffaith bod llawer o ddisgyblion wedi colli'r cyfle i ddysgu am fislifoedd o ganlyniad i bandemig Covid-19: “Mae amseru'r adroddiad hwn yn golygu bod yn rhaid i ni hefyd amlygu effaith Covid-19. Ar ôl iddynt gael eu haddysgu gartref yn orfodol yn ystod cyfnodau clo cenedlaethol, mae grŵp o bobl ifanc wedi cael llawer llai o addysg am fislifoedd nag yn y gorffennol.” 

Darllenwch yr adroddiad Menstrual Cycle Education and Support in UK Schools.

Rhannu'r stori