Bydd tîm QUERCUS yn archwilio samplau o dderw hynafol hanesyddol a byw dros y 4,500 o flynyddoedd diwethaf. Llun: UK Oak Project

Bydd tîm QUERCUS yn archwilio samplau o dderw hynafol hanesyddol a byw dros y 4,500 o flynyddoedd diwethaf.  Llun:  UK Oak Project

Bydd ymchwilwyr cyn bo hir yn gallu ail-lunio hinsawdd gogledd-orllewin Ewrop, gan gynnwys y DU, dros y 4,500 o flynyddoedd diwethaf, a dyddio adeiladau a gwrthrychau pren mewn modd mwy cywir, drwy ddadansoddi cemeg hen dderw. Gwneir hyn drwy brosiect newydd a arweinir gan Abertawe sydd newydd gael ei ddewis i dderbyn cyllid Ewropeaidd gwerth €3m.

Mae dadansoddi cylchoedd coed – a adwaenir fel dendrocronoleg – yn dechneg wyddonol sefydledig ar gyfer deall y gorffennol. Gellir archwilio cylchoedd mewn coed byw neu farw, neu mewn gwrthrychau pren, o drawstiau tŷ i estyll llong.

Mae lled y cylchoedd yn awgrymu faint o'r coed a dyfodd mewn blwyddyn benodol, gan ddweud wrthym am hinsawdd y gorffennol, yn ogystal â'n galluogi i ddyddio adeileddau a gwrthrychau pren hynafol mewn modd anhygoel o fanwl gywir.

Fodd bynnag, nid yw'r ymagwedd hon bob amser yn gweithio'n dda mewn ardaloedd megis y DU a gogledd-orllewin Ewrop lle mae'r hinsawdd yn gymedrol ac nid yw’n cyfyngu ar dwf coed. O ganlyniad i hyn, mae dyddio'r coed yn broses heriol sy'n ein gwneud yn llai hyderus y gallwn ddefnyddio mesuriadau o gylchoedd coed i astudio hinsawdd y gorffennol.

Bydd y prosiect newydd, sef QUERCUS (“derwen” yn Lladin), yn gwneud gwahaniaeth yn hyn o beth.

Bydd tîm QUERCUS yn archwilio samplau o dderw hynafol, hanesyddol a byw dros y 4,500 o flynyddoedd diwethaf. Mae derw'n arbennig o ddefnyddiol gan eu bod yn gyffredin ledled ardal yr astudiaeth, gan eu bod yn byw am gyfnod hir a chan fod cofnod archeolegol o'u holion yn aml.

Y dechneg arloesol allweddol yw y bydd y tîm yn dadansoddi cemeg y coed yn hytrach na lled y cylchoedd yn unig. Byddant yn archwilio isotopau sefydlog (heb fod yn ymbelydrol) yr elfennau sylfaenol: carbon, ocsigen a hydrogen.

Mae'r isotopau carbon mewn coed yn dangos newidiadau wrth gymhathu carbon ar gyfer blwyddyn benodol, sydd yn y DU yn ymwneud â swm yr haul yn ystod yr haf. Mae'r isotopau ocsigen a hydrogen yn cofnodi gwybodaeth am y dŵr a ddefnyddiwyd gan y goeden, sy'n dangos swm y glaw yn ystod yr haf a newidiadau mewn cylchrediad atmosfferig ar raddfa fawr.

Bydd y dystiolaeth hon o arwyddiant cemegol y coed yn galluogi ymchwilwyr i ddyddio'r gorffennol ac ail-lunio hinsawdd yr haf dros amser.

Yn hollbwysig, yn wahanol i led cylchoedd, mae arwyddion yr isotopau hyn yr un mor ddibynadwy mewn coed o ardaloedd lle nad yw'r hinsawdd yn cyfyngu'n sylweddol ar dwf. Bydd y prosiect hwn yn defnyddio'r dulliau hyn i ateb cwestiynau archeolegol hirsefydlog am hinsawdd a chronoleg ledled y byd.

Mae aelodau'r tîm, a arweinir gan yr Athro Neil Loader o Adran Ddaearyddiaeth Abertawe, yn cynnwys gwyddonwyr o Ysgol Archaeoleg Prifysgol Rhydychen. Byddant yn gweithio mewn partneriaeth agos â thîm rhyngddisgyblaethol o arbenigwyr, gan gynnwys cynrychiolwyr grwpiau Brodorol o Ewrop, Aotearoa/Seland Newydd ac Unol Daleithiau America.

Meddai'r Athro Neil Loader o Brifysgol Abertawe, sy'n arwain prosiect QUERCUS:

“Mae isotopau sefydlog mewn cylchoedd coed yn cynnwys arwyddion hinsoddol cryf a gellir eu defnyddio i ail-lunio hinsawdd y gorffennol, hyd yn oed pan nad oedd y coed yn tyfu dan bwysau amgylcheddol.

Gan ddefnyddio'r dechneg newydd hon, bydd prosiect QUERCUS yn datblygu'r cronolegau isotopig blynyddol cyntaf ar gyfer cylchoedd coed yn y DU a gogledd-orllewin Ewrop, gan estyn yn ôl 4,500 o flynyddoedd i'r Oes Efydd.

Ein nod yw deall hinsawdd y gorffennol yn well, ac at y diben hwn mae angen cronoleg well arnom ynghylch pryd digwyddodd pethau. Bydd y prosiect hwn yn gwella'n sylweddol ein gallu i ddyddio arteffactau pren a choed hynafol. At ei gilydd, rydyn ni'n gobeithio y bydd y datblygiadau hyn yn trawsnewid ein gwybodaeth am hinsawdd y gorffennol a'r broses o ddyddio arteffactau ac adeileddau pren.”

Mae'r cyllid ar gyfer prosiect QUERCUS wedi cael ei gymeradwyo gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd. Wedi'i sefydlu gan yr Undeb Ewropeaidd, mae'r Cyngor yn ariannu ymchwilwyr o'r radd flaenaf o unrhyw genedligrwydd.

Adran Daearyddiaeth Prifysgol Abertawe 

Rhannu'r stori