Mae'r llyfr newydd, sef “ResearcHER”, yn dangos gwir amrywiaeth ysgolheictod, a'r menywod sy'n arwain y ffordd. Chwith: Dr Jennifer Rudd

Mae'r llyfr newydd, sef “ResearcHER”, yn dangos gwir amrywiaeth ysgolheictod, a'r menywod sy'n arwain y ffordd.  De: Dr Jennifer Rudd

Mae llyfr newydd sy'n dangos amrywiaeth ymchwil ac ymchwilwyr i ddisgyblion ysgol yn cynnwys pennod gan arbenigwraig mewn cemeg ac addysg am newid yn yr hinsawdd o Abertawe sydd wedi darganfod ei bod yn awtistig. 

Bu Dr Jennifer Rudd yn ymchwilio i atebion technolegol i newid yn yr hinsawdd am ddegawd cyn newid cyfeiriad i roi pwyslais gwyddor gymdeithasol ar y ffordd orau o gyfathrebu â chynulleidfa eang am yr argyfwng hinsawdd. Mae'n gweithio yn Ysgol Reolaeth y Brifysgol, gan siarad yn rheolaidd am faterion sy'n ymwneud â'r hinsawdd yn y cyfryngau.

Mae'r llyfr newydd, sef “ResearcHER”, yn dangos gwir amrywiaeth ysgolheictod, a'r menywod sy'n arwain y ffordd. Mae'n cynnig gwybodaeth am ymchwil ac ymchwilwyr o bedwar ban byd, gan archwilio pwy yw ymchwilwyr a beth maent yn ei wneud mewn gwirionedd, gan ddathlu ysgolheictod menywod ar yr un pryd.

Mae pob pennod yn cynnig dealltwriaeth o ymchwilydd go iawn, ei gefndir a'i lwybr i yrfa ymchwil, yr hyn y mae'n ymchwilio iddo ar hyn o bryd, ei gyngor gorau i ddarpar ymchwilwyr, a ffeithiau a gweithgareddau difyr.

Mae pennod Dr Rudd yn canolbwyntio ar ei gwaith ar ffiniau rhyngddisgyblaethol addysg am newid yn yr hinsawdd, ei phrofiadau fel menyw yn y gwyddorau cemegol, ei phriodoleddau awtistig a'i gwaith ar addysg am newid yn yr hinsawdd.

Meddai Dr Jennifer Rudd o Brifysgol Abertawe:

“Nod y llyfr hwn yw helpu disgyblion ysgol uwchradd i ddeall ystyr ymchwil academaidd, a dangos nad yw pob dyn a menyw sy'n ymgymryd â hi'n gwisgo cot labordy neu'n gaeth i swyddfa ddiflas.

“Mae'n dangos bod ymchwilwyr yn amrywiol iawn: menywod o bob cefndir, o ardaloedd amrywiol, pobl ag anabledd neu heb anabledd, a phobl drawsryweddol, anneuaidd, cwiar. Y neges i ddisgyblion yw bod ymchwilwyr yn union fel chi, a gallech chi fod yn ymchwilydd hefyd.”

Mae’r astudiaethau achos eraill yn y llyfr yn cynnwys: Maria McLennan (sy'n byw yn yr Alban), sy’n gemydd fforensig arobryn ac yn aelod o'r gymuned LQBTQIA+ ac sy'n llawn tatŵs o'i chorun i'w sawdl; Alison Upshaw (sy'n byw yn Alabama), sy’n adroddwr straeon ac yn gantores opera sydd wedi cael ei hyfforddi'n broffesiynol; Jessica Korte (sy'n byw yn Awstralia), sy'n ymchwilio i ddylunio cyfranogol gyda phlant byddar; a Fatima A. Junaid (sy'n byw yn Seland Newydd), sy'n hanu o dalaith fwyaf ceidwadol Pacistan ac sydd wedi gwrthwynebu anghyfiawnderau sefydliadol.

Meddai'r Athro Tara Brabazon, Athro Astudiaethau Diwylliannol, Prifysgol Flinders, Awstralia, ac Athro Addysg Uwch, Prifysgol Massey, Seland Newydd:

“Yn aml iawn – yn rhy aml – mae menywod yn anweledig. Yn ymylol. Yn cael eu cyfyngu i'r ymylon ... Mae ResearcHER yn ailysgrifennu'r stori rydyn ni wedi ei chlywed drwy gydol ein bywydau. Yn ogystal â chyflwyno grŵp o ymchwilwyr benywaidd rhyngwladol anhygoel, mae'r llyfr pwerus hwn yn datgelu pŵer eu hamrywiaeth.”

Cyhoeddir y llyfr gan y Women in Academia Support Network, sydd â'r nod o ddarparu man mwy diogel i bob menyw yn y byd academaidd ar bob lefel gefnogi ei gilydd, meithrin rhwydweithiau a rhannu gwybodaeth.

Rhagor o wybodaeth am ResearcHER

Rhannu'r stori