Yr Athro Tom Crick

Mae'r IET (Institution of Engineering and Technology) wedi dyfarnu Medal Cyflawniad i'r Athro Tom Crick MBE o Brifysgol Abertawe.

Roedd yr Athro Crick yn un o 11 o weithwyr proffesiynol mwyaf blaenllaw'r byd ym meysydd peirianneg a thechnoleg a anrhydeddwyd am wasanaethau i'r byd academaidd a diwydiant yn y seremoni ddiweddar i wobrwyo cyflawniadau.

Nod Medalau Cyflawniad yr IET yw cydnabod unigolion o bedwar ban byd sydd wedi gwneud cyfraniadau eithriadol at ddatblygu peirianneg, technoleg a gwyddoniaeth mewn unrhyw sector. Gall hyn ddeillio o waith ymchwil a datblygu yn eu maes technegol perthnasol neu drwy arwain menter.

Cydnabyddir yr Athro Crick, Athro Materion Digidol a Pholisi a Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer Cenhadaeth Ddinesig Prifysgol Abertawe, yn rhyngwladol am arwain y broses o ddatblygu cwricwlwm gwyddoniaeth a thechnoleg newydd arloesol ar gyfer ysgolion yng Nghymru, ochr yn ochr ag arwain polisi digidol, peirianneg a thechnoleg y DU yn ehangach drwy gadeirio sawl adolygiad uchel ei broffil i Lywodraeth Cymru. Drwy ei waith ymchwil, polisi ac ymarfer mae ef wedi gwneud cyfraniad clodfawr sydd wedi cael effaith fawr ar addysg, sgiliau, yr economi ddigidol a'r isadeiledd cenedlaethol.

Yn 2017, cafodd yr Athro Crick ei benodi'n MBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am ei wasanaethau i gyfrifiadureg a hyrwyddo addysg cyfrifiadureg. Yn 2020, derbyniodd wobr unigol BERA (Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain) am Ymgysylltiad Cyhoeddus ac Effaith am “Arwain Dyfodol Addysg Gwyddoniaeth a Thechnoleg yng Nghymru”. Yn gynharach eleni, cafodd ei enwi'n Gymrawd gan Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol.

Wrth dderbyn Medal Cyflawniad yr IET, meddai'r Athro Crick: “Rwy'n falch o dderbyn y dyfarniad clodfawr hwn gan yr IET, sy'n cydnabod ymgysylltiad ac effaith tymor hir ar draws ymchwil, polisi ac ymarfer addysg STEM er mwyn meithrin dealltwriaeth well o bwysigrwydd gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg i ddinasyddion, ein cymdeithas a'r economi, ac amlygu'r pwysigrwydd hwnnw. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i’r diwygiadau mawr parhaus i bolisïau yng Nghymru, ac yn benodol y cwricwlwm newydd i Gymru a ddechreuodd ym mis Medi 2022.”

Meddai Bob Cryan, Llywydd yr IET: “Mae'n fraint i ni gyflwyno ein gwobrau cyflawniad i'r unigolion talentog hyn. Maen nhw i gyd wedi rhagori yn eu proffesiynau a gwneud cyfraniad anferth wrth arloesi mewn meysydd pwysig yn y diwydiannau peirianneg a thechnoleg. Mae'r rhai sydd wedi ennill ein medalau heddiw'n arloeswyr ac maen nhw i gyd wedi gwneud gwahaniaeth i'r byd rydyn ni'n byw ynddo.”

Rhannu'r stori