Peiriannydd benywaidd yn addasu darn mawr o beiriant gweithgynhyrchu dur mewn ffatri.

Wrth i Ganolfan Ragoriaeth ASTUTE newydd gael ei sefydlu yn lle prosiect ASTUTE 2020+, mae llwyddiannau ASTUTE 2020+ yn fwy trawiadol byth trwy ei chyfraniad sylweddol sy'n werth £541 miliwn at economi Cymru trwy gydweithredu rhwng Diwydiant a'r byd academaidd yn y sector gweithgynhyrchu.

Wedi'i ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a phartneriaid diwydiannol a sefydliadau addysg uwch, darparodd Astute 2020+ gymorth i dros 540 o fentrau yng Nghymru gan greu a diogelu dros 1020 o swyddi ar draws Cymru ers iddo ddechrau yn 2010.

Gan ddilyn y galw gan ddiwydiant, mae ASTUTE 2020+ yn cydweithio â chwmnïau, gan ddarparu mynediad unigryw at arbenigwyr academaidd o’r radd flaenaf, ymchwilwyr uchel eu cymwysterau, technoleg, a chyfleusterau ymchwil, gan annog sbarduno syniadau a hwyluso mabwysiadu newid trwy ymchwil, datblygiad, ac arloesedd (RD&I). Mae’n ysgogi twf yn Niwydiant Gweithgynhyrchu Cymru trwy gymhwyso technolegau peirianneg lefel uwch i heriau gweithgynhyrchu mewn tri maes arbenigol allweddol:

  • Technoleg Deunyddiau Lefel Uwch
  • Modelu Peirianneg Gyfrifiadurol
  • Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu

Dan arweiniad Prifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a Phrifysgol De Cymru, mae’r ymchwil gydweithredol a wnaed gan ASTUTE 2020+ a’u partneriaid ym myd diwydiant wedi gwella dros 640 o gynnyrch, prosesau a gwasanaethau newydd i’r farchnad a newydd i’r cwmni. Adroddodd mentrau yng Nghymru am gynnydd yn eu refeniw a’r buddsoddiad dilynol o ganlyniad i’w hymgysylltu ag ASTUTE 2020+, gydag un cwmni yn rhagweld cynnydd o hyd at 12 miliwn mewn refeniwF. Sicrhawyd dros £28 miliwn o fuddsoddiadau mewnol dilynol mewn RD&I ac £18 miliwn1 o gyllid ychwanegol allanol gan gydweithwyr diwydiannol ASTUTE.

Bydd Ymchwil, Datblygiad ac Arloesedd (RD&I) yn chwarae rhan hanfodol wrth i Gymru a’r byd ymdrechu i gyflawni targedau Sero Net a symud at fodelau economaidd mwy gwyrdd a chynaliadwy. Mae cyfuno profiad diwydiant a gwybodaeth academaidd yn cyflymu arloesedd wrth i arbenigwyr amlddisgyblaeth weithio ar y cyd i gael hyd i atebion i heriau cymhleth.

Mae ASTUTE 2020+ yn darparu llawer o enghreifftiau tebyg o bŵer cydweithio rhwng diwydiant ac academia, gan gynnwys trefniant cydweithio gyda Vernacare Ltd. a WRAP Cymru, a arweiniodd at ymgorffori hyd at 20% o gynnwys wedi’i ailgylchu yng nghynwysyddion nodwyddau gwastraff meddygol y cwmni. Llwyddodd Vernacare hefyd i sicrhau cyllid ychwanegol i brynu offer cyfalaf a chyflenwadau oedd yn eu galluogi i uwchraddio’r cynhyrchu yn sylweddol – a dyfarnwyd rhan o hyn gan Gronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru, a gyflwynwyd gan WRAP Cymru.

Ymhlith y llwyddiannau eraill tebyg roedd Brother Industries (UK) Ltd., a gefnogwyd gan ASTUTE i gynhyrchu cetris lliwydd cyntaf Brother a weithgynhyrchwyd o ddeunydd wedi’i ailgylchu, a adenillwyd o gynnyrch diwedd oes, a chwmni awyrofod a fu’n elwa o arbedion deunyddiau hyd at £1 filiwn y flwyddyn yn sgîl mabwysiadu alwminiwm cost is ac addasu eu templedi drilio gyda chefnogaeth arbenigwyr deunyddiau lefel uwch ASTUTE.

Drwy weithio ar draws amrywiaeth o sectorau megis awyrofod, moduron, a meddygol, mae ASTUTE 2020+ yn amlygu’r gwerth unigryw y gall cydweithio rhwng Sefydliadau Addysg Uwch a’r sector gweithgynhyrchu ei greu. Mae hyn yn tystio i’r effaith gadarnhaol a gafodd cronfeydd Ewrop ar economi Cymru a’i ffyniant i’r dyfodol, yn ogystal â bywydau pobl Cymru.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog Economi Cymru:  

“Rwyf wrth fy modd yn gweld y prosiect cydweithredol hwn rhwng y llywodraeth, academia a busnes yn llwyddo. Cefnogwyd ASTUTE â mwy na £32 miliwn o gronfeydd yr UE ers 2010, ac mae’n enghraifft flaenllaw o raglen ymchwil a datblygu sy’n cydweithio â diwydiant.

Mae Llywodraeth Cymru yn dal yn ymroddedig i dyfu ymchwil ac arloesedd yng Nghymru, gyda chyfatebiaeth agos â’r farchnad ac anghenion diwydiant, busnes a chymdeithas.”

Dywedodd yr Athro Johann Sienz, Cyfarwyddwr Rhaglen ASTUTE 2020+:

“Mae gweithio ar y cyd trwy bartneriaethau diwydiant ac academia wedi golygu ein bod nid yn unig wedi gweld llawer o brosiectau hanfodol, gwerthfawr yn cael eu datblygu a’u cyflwyno, ond hefyd wedi gweld perthnasoedd allweddol yn cael eu ffurfio, a fydd yn parhau i ffynnu a datblygu’n llewyrchus er budd i ranbarth Cymru y tu hwnt i gwmpas rhaglen ASTUTE 2020+.

Hoffwn ddiolch i dîm ASTUTE am eu gwaith caled a’u hymroddiad dros y blynyddoedd, a hoffwn ddiolch hefyd i’n fforymau diwydiant – Diwydiant Cymru, Fforwm Moduron Cymru, a MAKE UK, i enwi rhai yn unig – sydd wedi hyrwyddo ASTUTE 2020+, gan atgyfnerthu’r bont rhwng academia a diwydiant a chynyddu cyfleoedd economaidd a ffyniant ledled Cymru.”

Bydd cyllid ERDF ASTUTE 2020+ yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2022 pan na fydd bellach yn gweithredu yn ei fformat Cymru gyfan presennol. Bydd y rhaglen yn parhau i gefnogi busnesau o bob maint yn y Deyrnas Unedig ar ffurf Canolfan Ragoriaeth ASTUTE, partner cyflwyno ar gyfer y rhaglen Dadansoddi i Arloeswyr (A4I) a ariannir gan Innovate UK – UKRI.

Rhagor o wybodaeth 

Rhannu'r stori