Roedd y digwyddiad yn gyfle pwysig i fyfyrwyr gwrdd â'i gilydd, er mwyn helpu i sefydlu rhwydwaith ar gyfer myfyrwyr o Wcráin ar y campws. Roedd academyddion yn ogystal â staff o wasanaethau cymorth y Brifysgol hefyd yn bresennol

Roedd y digwyddiad yn gyfle pwysig i fyfyrwyr gwrdd â'i gilydd, er mwyn helpu i sefydlu rhwydwaith ar gyfer myfyrwyr o Wcráin ar y campws. Roedd academyddion yn ogystal â staff o wasanaethau cymorth y Brifysgol hefyd yn bresennol

Cafodd myfyrwyr o Wcráin eu croesawu'n swyddogol i Abertawe yn ystod derbyniad yn y Brifysgol, lle y cawsant gyfle i gwrdd â'i gilydd a chael rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael iddynt yn ystod eu hastudiaethau.

Y digwyddiad yw'r enghraifft ddiweddaraf o gefnogaeth barhaus y Brifysgol i'r wlad yn sgîl yr ymosodiad ar ei thir gan luoedd Rwsia ym mis Chwefror.

Mae rhai o'r myfyrwyr eisoes wedi cofrestru ar gyrsiau yn Abertawe, o lefel israddedig i PhD, mewn pynciau megis nyrsio, geneteg feddygol, peirianneg, y gyfraith, cemeg, cyfrifiadureg ac Eifftoleg.

Yn ogystal, mae myfyrwyr wedi cyrraedd o Wcráin yn ddiweddar i dreulio semester yn Abertawe. Maent yn hanu o Brifysgol Genedlaethol Môr Du Petro Mohyla yn ninas Mykolaiv yn ne Wcráin, sef prifysgol bartner Abertawe yn y wlad.

Mae'r gefnogaeth a gynigir i'r myfyrwyr o Wcráin yn cyd-fynd â'r datganiad gan yr Is-ganghellor, a gyhoeddwyd ar ddechrau'r ymosodiad, sy'n tanlinellu bod y Brifysgol “yn cefnogi pobl Wcráin wrth amddiffyn eu sofraniaeth, eu hannibyniaeth a'u rhyddid democrataidd.”

Roedd y digwyddiad yn gyfle pwysig i fyfyrwyr gwrdd â'i gilydd, er mwyn helpu i sefydlu rhwydwaith ar gyfer myfyrwyr o Wcráin ar y campws. Roedd academyddion yn ogystal â staff o wasanaethau cymorth y Brifysgol hefyd yn bresennol yn y digwyddiad, a roddodd gyfle i fyfyrwyr gael rhagor o wybodaeth am Abertawe a'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt.

Meddai Mariia, o Brifysgol Genedlaethol Môr Du Petro Mohyla (PMBSNU), sy'n astudio meddygaeth:

“Rwy'n teimlo mor gartrefol. Rwyf wrth fy modd i astudio ym Mhrifysgol Abertawe.”

Bydd partneriaeth gynyddol Abertawe â PMBSNU yn paratoi'r ffordd ar gyfer cydweithrediadau ymchwil, rhannu deunyddiau dysgu ac addysgu ar-lein, yn ogystal â chyfleoedd i fyfyrwyr a staff o Wcráin ymweld ag Abertawe. Dyma'r ddiweddaraf mewn cyfres o bartneriaethau rhwng prifysgolion o'r DU ac Wcráin, a sefydlwyd gan gorff ambarél, Universities UK International, a'r Cormack Consultancy Group i gefnogi'r wlad.

Bwriad y partneriaethau hyn yw rhannu adnoddau a chefnogaeth mewn arwydd torfol o undod a dwyochredd i helpu sefydliadau, staff a myfyrwyr o Wcráin.

Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn archwilio ffyrdd o gefnogi myfyrwyr ac aelodau staff o brifysgolion eraill yn Wcráin.

Mae aelodau staff yn Abertawe hefyd yn cymryd rhan mewn mentrau cymunedol i gefnogi Wcráin. Er enghraifft, Dr Dmitri Finkelshtein, Athro Cysylltiol Mathemateg, yw cadeirydd Sunflowers Wales, grŵp cymunedol nid-er-elw a drefnwyd gan wirfoddolwyr o Wcráin yng Nghymru i gefnogi Wcreiniaid y mae ymosodiad Rwsia wedi effeithio arnynt. Mae'r grŵp yn anfon cyflenwadau meddygol, dillad a chymorth dyngarol ddwywaith y mis i Wcráin. Croesewir cefnogaeth naill ai drwy gyfraniadau ariannol neu drwy brynu eitemau o'r rhestr hon ar Amazon.

Meddai'r Athro Lisa Wallace, Deon Cysylltiol (Rhyngwladol) y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd:

“Mae Prifysgol Abertawe'n cefnogi pobl Wcráin, a thanlinellwyd hynny gan yr Is-ganghellor. Gwnaethon ni drefnu'r digwyddiad er mwyn dangos i'n myfyrwyr o Wcráin eu bod yn rhan werthfawr iawn o gymuned ein Prifysgol, yn ogystal ag amlygu'r gefnogaeth ymarferol sydd ar gael iddynt.

“Rydyn ni'n falch o fod yn brifysgol ryngwladol. Mae ein myfyrwyr o Wcráin yn ychwanegu at gyfoeth ac amrywiaeth ein cymuned ar y campws. Rydyn ni'n ffodus eu bod nhw gyda ni.”

Pifysgol yn dangos cefnogaeth barhaus i Wcráin wrth iddi ddathlu Diwrnod Cenedlaethol

Rhannu'r stori