Baner Wcráin: Kyiv, Wcráin

Baner Wcráin: Kyiv, Wcráin

Wrth i Wcráin ddathlu ei diwrnod cenedlaethol ar 24 Awst, mae Prifysgol Abertawe a'i staff yn parhau i wneud ymdrechion i gefnogi'r wlad a'i phobl, yn dilyn yr ymosodiad ar ei thir gan luoedd Rwsia ym mis Chwefror.

Mae'r gefnogaeth gan Abertawe yn cyd-fynd â'r datganiad gan yr Is-ganghellor, a gyhoeddwyd ar ddechrau'r ymosodiad, sy'n tanlinellu bod y Brifysgol “yn cefnogi pobl Wcráin wrth amddiffyn eu sofraniaeth, eu hannibyniaeth a'u rhyddid democrataidd”.

Mae Diwrnod Cenedlaethol Wcráin yn dathlu datganiad annibyniaeth y wlad ym 1991, ar ôl i’r hen Undeb Sofietaidd ymrannu.

Un agwedd ar gefnogaeth y Brifysgol yw cytundeb gefeillio y mae wrthi'n ei gadarnhau â phrifysgol o Wcráin, a fydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer partneriaethau ymchwil, rhannu deunyddiau dysgu ac addysgu ar-lein, a chyfleoedd i fyfyrwyr a staff o Wcráin ymweld ag Abertawe.

Dyma'r ddiweddaraf mewn cyfres o bartneriaethau rhwng prifysgolion o'r DU ac Wcráin, a sefydlwyd gan gorff ambarél, Universities UK International, a'r Cormack Consultancy Group i gefnogi'r wlad.

Bwriad y partneriaethau hyn yw rhannu adnoddau a chefnogaeth mewn arwydd torfol o undod a dwyochredd i helpu sefydliadau, staff a myfyrwyr o Wcráin.

Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn archwilio ffyrdd o gefnogi myfyrwyr ac aelodau staff o brifysgolion eraill yn Wcráin.

Mae aelodau staff yn Abertawe hefyd yn cymryd rhan mewn mentrau cymunedol i gefnogi Wcráin. Er enghraifft, Dr Dmitri Finkelshtein, Athro Cysylltiol Mathemateg, yw cadeirydd Sunflowers Wales, grŵp cymunedol nid-er-elw a drefnwyd gan wirfoddolwyr o Wcráin yng Nghymru i gefnogi Wcreiniaid y mae ymosodiad Rwsia wedi effeithio arnynt.

Mae Sunflowers Wales yn dathlu Diwrnod Cenedlaethol Wcráin gyda digwyddiad yn Adain y Celfyddydau, Theatr y Grand Abertawe, mewn partneriaeth â Chanolfan Amlddiwylliannol y Grand. Bydd stondinau, cynnyrch a bwyd yn rhoi blas ar ddiwylliant Wcreinaidd i gyfranogwyr. Bydd y digwyddiad yn dechrau am 3.30pm (mynediad am ddim). Gwerthwyd pob tocyn eisoes ar gyfer cyngerdd yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw.

Rhannu'r stori