Grŵp o bobl yn sefyll mewn ystafell o flaen efelychydd hedfan

Mae un o gyfleusterau mwyaf cyffrous Prifysgol Abertawe wedi cael ei ymestyn i gynnig amgylchedd dysgu gwell i'w fyfyrwyr.

Bellach mae'r ystafell efelychu hedfan yn yr Adran Peirianneg Awyrofod yn cynnwys cyfarpar newydd a osodwyd gan Merlin Flight Simulation Group a chafodd ei ddadorchuddio mewn digwyddiad arbennig lle roedd staff a myfyrwyr yn bresennol. 

Meddai Dr Ben Evans, Pennaeth Awyrofod: “Rydym wrth ein boddau ein bod wedi derbyn ein hefelychydd mudiant chwe echel newydd gan Merlin sydd, ynghyd â'r efelychydd pen desg ychwanegol, yn dyblu capasiti ein labordy efelychu hedfan yma yn Abertawe.  

"Bydd hwn yn fudd gwych i'n holl fyfyrwyr awyrofod yn Abertawe y mae cael mynediad at ystafell efelychydd hedfan Merlin yn rhan bwysig o'u profiad dysgu.” 

Mae efelychwyr hedfan ymysg y systemau meddalwedd mwyaf soffistigedig mewn bodolaeth. Mae efelychydd hedfan yn ail-greu hediad awyren a'r amgylchedd y mae'n hedfan ynddo mewn ffordd artiffisial. Mae'r cyfleuster gwych hwn yn berffaith ar gyfer dylunio a datblygu awyren, yn ogystal â chynnal ymchwil i nodweddion awyren a phriodoleddau rheoli a thrafod. 

Wrth osod yr efelychydd newydd, gwnaeth Merlin osod system MP500-1 arall, gan roi cyfanswm o bum efelychydd yn y labordy ar Gampws y Bae'r Brifysgol. Gall yr ystafell hon o efelychwyr atgynhyrchu amrywiaeth o amodau, gan gynnwys hafaliadau sy'n rheoli sut mae'r awyren yn hedfan, sut mae’n ymateb i systemau rheoli hedfan, effeithiau awyrennau eraill, a sut mae'r awyren yn ymateb i ffactorau allanol megis dwysedd aer, tyrfedd, croesrymoedd gwynt, cymylau a glaw. 

Mae'r gallu i ddylunio amrywiaeth o awyrennau gwahanol yn ogystal ag atmosfferau gwahanol, megis Mawrth, yn galluogi ein myfyrwyr i fod ar flaen y gad o ran technolegau newydd. 

Drwy gydweithrediad y Brifysgol â Merlin, bydd yn cynnal cystadleuaeth IT FLIES UK ym mis Mehefin 2023 ar ôl dwy flynedd o ddigwyddiadau rhithwir. 

Ychwanegodd Dr Evans: "Rydym hefyd yn gyffrous am gynnal y gystadleuaeth a chroesawu timau o fyfyrwyr o bedwar ban byd i ddefnyddio ein cyfleuster o'r radd flaenaf.” 

Rhagor o wybodaeth am Beirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe

 

Rhannu'r stori