Tîm Gwyddoniaeth i Ysgolion (S4) Prifysgol Abertawe gyda gwobr STEM Cymru

Cafodd Cynllun Gwyddoniaeth i Ysgolion (S4) Prifysgol Abertawe ei enwi'n Rhaglen Addysg STEM y Flwyddyn yng nghategori'r Sector Cyhoeddus yng Ngwobrau STEM Cymru eleni.

Enillodd tîm S4 y wobr i gydnabod gwaith y cynllun wrth ddarparu allgymorth STEM i bobl ifanc yn ne Cymru sy'n cael effaith fawr. Mae'r tîm yn gweithio gyda chymunedau na chaiff eu gwasanaethu na'u cynrychioli'n ddigonol, a phlant o deuluoedd incwm isel yn benodol, mewn ardaloedd lle ceir lefel uchel o ddiweithdra hirdymor a lefel isel o gyfranogiad mewn addysg uwch.

Mae Gwobrau STEM Cymru'n dathlu'r gwaith STEM arloesol sy'n cael ei wneud yng Nghymru i fynd i'r afael â'r bwlch amrywiaeth a'r prinder sgiliau ac i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf. Yn y seremoni, cystadlodd y rhai a gyrhaeddodd y rhestrau byr am 12 o wobrau mewn amrywiaeth o gategorïau, gan amrywio o Fusnes Newydd STEM y Flwyddyn i Arloesi mewn STEM.

Meddai Dr Will Bryan o S4:

“Mae tîm S4 yn falch iawn bod ein gweithgareddau wedi cael eu cydnabod gan Wobrau STEM Cymru 2022, yn enwedig mewn categori a oedd, yn ôl y beirniaid, yn hynod gystadleuol. Rydyn ni'n gweithio gyda phobl ifanc o'r ysgolion mwyaf difreintiedig o safbwynt cymdeithasol-economaidd, gan gyfrannu at genhadaeth ddinesig Cymru ac addysg uwch. Mae derbyn gwobr o'r fath gan gorff allanol yn bwysig iawn i bawb sy'n cymryd rhan yn y prosiect hwn ac mae hi wedi cael ei chroesawu'n wresog gan bartneriaid a rhanddeiliaid y prosiect.

“Mae S4 wedi ennyn brwdfrydedd mewn STEM ar ran sefydliadau ac mae wedi cydweithredu â sefydliadau sy'n cynnwys: Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Skills Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Fforwm Coed Abertawe, Coed Cadw, y Sefydliad Ffiseg yng Nghymru a mwy na 50 o ysgolion yn y rhanbarth.

"Mae'r wobr hon yn cydnabod ein gweithgareddau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, wrth i ni newid o gyflwyno ein digwyddiadau a'n gweithgareddau o bell i'w cyflwyno wyneb yn wyneb eto. Un enghraifft o hyn oedd croesawu 1,300 o ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 lleol i Theatr Taliesin ym mis Hydref 2022.”

Meddai'r Athro Mary Gagen:

“Ers 2012, mae S4 wedi sicrhau cyllid gwerth mwy na £3m (Academi Wyddoniaeth Genedlaethol Cymru 2012, 2013, 2015, Cronfa Gymdeithasol Ewrop/Llywodraeth Cymru 2018). Ar hyn o bryd, rydyn ni'n cael ein hariannu drwy Trio Sci Cymru, rhaglen sy'n gweithredu ledled Cymru. Aeth cyfranogwyr i weithdai STEM ar y campws (cyn y pandemig), gan feithrin dealltwriaeth o fywyd prifysgol sydd, yn ôl ein hysgolion, yn hollbwysig er mwyn ehangu mynediad at STEM ac addysg uwch. Datblygodd S4 fframwaith ymgysylltu â'r cyhoedd o ran STEM ar sail ein model o fagu ‘hyder mewn gwyddoniaeth’. O ran manteision busnes, mae ein gwaith ymgysylltu â'r cyhoedd yn arddangos ymchwil wyddonol yng Nghymru i gynulleidfaoedd mawr ac amrywiol, ac mae ein cyfranogwyr yn cael profiad o fod yn wyddonwyr y dyfodol yng Nghymru.”

Rhannu'r stori