Alpha Evans

Cafodd Alpha Evans o Brifysgol Abertawe ei choroni'n enillydd Gwobr Merêd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ym mis Awst.

Mae Gwobr Merêd, a sefydlwyd yn 2015 er cof am Dr Meredydd Evans, yn cydnabod cyfraniad myfyriwr sy'n aelod presennol o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol at yr iaith Gymraeg a'i diwylliant.

Graddiodd Alpha, sy'n hanu o Gribyn ger Llanbedr Pont Steffan, o Brifysgol Abertawe gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Cymraeg yn 2021. Mae bellach yn gweithio ar astudiaeth ddoeuthurol ryngddisgyblaethol mewn Cymraeg, Hanes a'r Gyfraith yn Abertawe, ac mae'n un o ddeiliaid Ysgoloriaeth Ymchwil y Coleg Cymraeg, yn ogystal ag Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi Edwards Prifysgol Abertawe.

Drwy gydol ei hamser yn Abertawe, mae wedi gweithio fel llysgennad i'r Brifysgol a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol – gan weithio yn ystod diwrnodau agored, creu cynnwys ar sianelau cyfryngau cymdeithasol corfforaethol y Brifysgol, trefnu digwyddiadau i'r Gymdeithas Gymraeg a llawer mwy.

Yn ystod 2021, roedd hefyd yn aelod allweddol o’r tîm o fyfyrwyr a luniodd Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2021 yr Urdd, a ganolbwyntiodd ar gydraddoldeb i fenywod. Hi oedd llais ac wyneb cyhoeddus y neges wrth iddi gymryd rhan mewn cyfweliadau yn y cyfryngau er mwyn rhannu ei phrofiadau ei hun a chynyddu ymwybyddiaeth o'r neges. Cyrhaeddodd y neges fideo fwy na 5.2 filiwn o bobl ledled y byd a hon oedd y neges fwyaf llwyddiannus yn hanes can mlynedd yr Urdd.

Wrth dderbyn Gwobr Mered, meddai Alpha: “Roedd yn fraint fawr ennill Gwobr Merêd 2022, sy'n cydnabod cyfraniad at fywyd a diwylliant y Gymraeg mewn prifysgol. Mae hi hyd yn oed yn fwy arbennig i mi ennill yn Nhregaron, yn yr ardal lle ces i fy magu. Bydd yr Eisteddfod hon yn fythgofiadwy i mi!”

Er mwyn dathlu deng mlynedd ers sefydlu'r Coleg Cymraeg, cydweithredodd myfyrwyr o Brifysgol Abertawe â Kizzy Crawford, cantores jazz-pop o Gymru, i gyfansoddi cân arbennig. Ysgrifennodd Alpha eiriau 10’, a chyfrannodd Elen Jones, myfyrwraig o Brifysgol Abertawe, yn lleisiol yn ystod perfformiad yn yr Eisteddfod. 

Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg: “Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un bwysig a phrysur i'r Coleg wrth i ni ddathlu deng mlynedd ers i ni gael ein sefydlu. Roeddwn i'n falch o ddychwelyd i'r Eisteddfod eleni i barhau â'n dathliadau a gwobrwyo enillwyr Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan a Gwobr Merêd.

“Mae'r enillwyr heddiw'n haeddu pob clod a chydnabyddiaeth am eu gwaith, yn ogystal ag am annog a chefnogi eu cyfoedion a'u cydweithwyr mewn prifysgolion a gweithleoedd i godi proffil y Gymraeg yn y sefydliadau.”

Rhannu'r stori