Eisteddfod

Mae Prifysgol Abertawe yn falch o noddi'r Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst 2022.

Ymhlith y digwyddiadau a drefnir gan y Brifysgol, mae:

  • Hiwmor Tri Chardi Llengar – Yr Athro Geraint H Jenkins yn trafod Moc Rogers, Tegwyn Jones a Hywel Teifi. Dydd Llun 1 Awst | 11.15am | Y Babell Lên
  • Dau Lew Mewn Un Ffau – Trafodaeth am Henry Lewis a Saunders Lewis yn Adran y Gymraeg Abertawe. Dydd Mawrth 2 Awst | 11.15am | Y Babell Lên
  • Cymunedau Arloesi yng Nghymru – Dr Gary Walpole ac Elen Elis fydd yn trafod symud i'r economi gylchol a gostwng ôl-troed carbon ein sefydliadau, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol. Dydd Mawrth | 2 Awst | 2.30pm | Cymdeithasau 2
  • Darlith Goffa Hywel Teifi - Catrin Stevens fydd yn traddodi’r ddarlith eleni, gan sôn am ‘Ewyllys Unol Merched yn erbyn Rhyfel, Apêl Merched Cymru at Ferched America 1923-24’. Dydd Mercher 3 Awst | 11.15am | Y Babell Lên
  • Awtopsi Byw – Yn rhan o ddathliadau 60 mlynedd Coleg Brenhinol y Patholegwyr, bydd Dr Emyr Benbow o Brifysgol Manceinion yn cynnal awtopsi byw gan ein harwain drwy’r broses o gynnal archwiliad ar gorff a pham mae angen gwneud hynny. Dydd Mercher 3 Awst | 2.30pm | Cymdeithasau 2
  • Safbwyntiau’r Dyfodol – Yr Athro Daniel Williams fydd yn arwain trafodaeth ar ddylanwad cyfres bwysig Gwasg Prifysgol Cymru a chynnwys y gyfrol ddiweddaraf ar y ddrama Gymraeg yng nghwmni Ian Rowlands, Sharon Morgan a Dr Hannah Sams. Dydd Iau 4 Awst | 10am | Y Babell Lên
  • Wythnos yng Nghefn Gwlad Fydd – Trafodaeth am ffuglen wyddonol Gymraeg rhwng Dr Miriam Elin Jones, Llŷr Titus a Caryl Lewis. Dydd Gwener 5 Awst |10am | Y Babell Lên

Yn ogystal â digwyddiadau’r Babell Lên, cynhelir derbyniad arbennig i gyn-fyfyrwyr a chyfeillion y Brifysgol yng nghwmni’r Athro Paul Boyle, yr Is-ganghellor, a’r Athro Jean Thomas, y Canghellor, ym mwyty Platiad am 12pm ddydd Mercher 3 Awst.  

Bydd cyfle hefyd i weld staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn serennu mewn sesiynau eraill ar hyd y Maes drwy gydol yr wythnos.

Ddydd Gwener 5 Awst, bydd Syr Robin Williams, a fu gynt yn Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yn derbyn Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol am ei gyfraniad hyd oes at wyddoniaeth. Cyflwynir y Fedal mewn seremoni arbennig yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg am 2pm.

Porwch amserlenni’r Eisteddfod.

Rhannu'r stori