Y Brifysgol yn taflu goleuni ar bwysigrwydd ailgylchu

Dangosodd Prifysgol Abertawe ei hymrwymiad i gynaliadwyedd drwy droi'n wyrdd i ddathlu Diwrnod Ailgylchu Byd-eang.

Cafodd Tŷ Fulton yng nghanol Campws Parc Singleton ei oleuo'n wyrdd gan oleuadau i ddathlu ailgylchu a chynyddu ymwybyddiaeth ohono a sut gall pawb wneud eu rhan. 

Meddai Fiona Wheatley, Swyddog Gwastraff ac Ailgylchu'r Brifysgol: “Fel cymuned Brifysgol â mwy na 24,000 o fyfyrwyr a staff, mae ein gweithredoedd ailgylchu ar y campws a chartref yn gallu cael effaith fawr iawn. 

“Rydyn ni'n ymrwymedig i wneud popeth y gallwn, ond roedd Diwrnod Ailgylchu Byd-eang yn gyfle perffaith i atgoffa pawb y gallan nhw wneud eu rhan hefyd.” 

Mae'r Brifysgol yn darparu cyfleusterau i ddidoli eitemau gwastraff ar y campws er mwyn sicrhau y caiff eitemau eu hailgylchu'n fwy effeithlon. Yn ystod blwyddyn academaidd 2019-20, gwnaeth ddargyfeirio 64% o'r holl wastraff ar y campws i ffwrdd o safleoedd tirlenwi ac adfer ynni, drwy ailddefnyddio eitemau, ailgylchu, ac anfon gwastraff bwyd i gael ei droi'n fio-nwy ac yn fio-gwrtaith.

Ychwanegodd Teifion Maddocks, Rheolwr Cynaliadwyedd y Brifysgol: “Mae lleihau gwastraff, cynyddu ailddefnyddio a didoli gwastraff ar gyfer ailgylchu dolen gaeedig yn cefnogi'r economi gylchol ac yn ein helpu i weld gwastraff fel adnodd.

"Felly, mae lleihau gwastraff a defnyddio adnoddau’n effeithlon ymysg ffocysau gweithredol allweddol Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd y Brifysgol ar gyfer 2021-2025, gan gefnogi gwaith Nodau Datblygu Cynaliadwy 2030 y Cenhedloedd Unedig: lleihau gwastraff yn sylweddol drwy atal, lleihau, ailgylchu ac ailddefnyddio.”

Mae mentrau ailgylchu eraill yn y Brifysgol yn cynnwys:

  • Gweithio gyda Warp It, y rhwydwaith ailddosbarthu adnoddau, i ailgylchredeg celfi diangen o gwmpas y Brifysgol er mwyn prynu llai o gelfi newydd a chreu diwylliant ailddefnyddio;
  • Gweithio gyda'r YMCA a’r British Heart Foundation er mwyn sicrhau bod y Brifysgol a'r myfyrwyr yn rhoi eitemau dieisiau, gan sicrhau y caiff eitemau eu hailddefnyddio ac y caiff llai o wastraff ei anfon i safleoedd tirlenwi, a chreu incwm i ymchwil ac elusennau;
  • Datblygu gwasanaethau ailgylchu plastig mewn labordai er mwyn cynyddu cynaliadwyedd arferion labordy; a
  • Chyflawni Safon Gwastraff yr Ymddiriedolaeth Garbon a derbyn sgôr o 75% ar gyfer ei harferion rheoli gwastraff.

Mae'r Brifysgol yn gobeithio y bydd ei gweithredoedd yn:

  • Cynyddu cyfraddau ailddefnyddio ac ailgylchu yn y Brifysgol;
  • Cynyddu ymwybyddiaeth staff a myfyrwyr o bwysigrwydd gweld gwastraff fel adnodd; ac yn
  • Hyrwyddo cyfleusterau ailgylchu yn y Brifysgol er mwyn cynyddu defnydd a dealltwriaeth.

Sefydlwyd Diwrnod Ailgylchu Byd-eang yn 2018 er mwyn helpu i nodi a dathlu pwysigrwydd ailgylchu wrth ddiogelu adnoddau crai a diogelu dyfodol y blaned. 

Ond nid ar Ddiwrnod Ailgylchu Byd-eang yn unig y gall pawb wneud eu rhan. Mae'r Brifysgol yn cynnig awgrymiadau i helpu myfyrwyr a staff i osgoi a lleihau gwastraff ac i ailgylchu ar ei champysau.

Rhannu'r stori