GWEITHIO GYDA'N GILYDD I LEIHAU, AILDDEFNYDDIO AC AILGYLCHU EIN GWASTRAFF

Mae cynhyrchu lai o wastraff, ailddefnyddio a didoli mwy o wastraff ar gyfer ailgylchu dolen gaeedig yn cefnogi'r economi gylchol.Mae lleihau gwastraff a chynyddu effeithlonrwydd adnoddau'n un o ffocysau gweithredol allweddol Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd 2021-2025 y Brifysgol.

Mae ein hymrwymiadau gwastraff wedi ein galluogi i gyflawni Safon yr Ymddiriedolaeth Garbon am leihau gwastraff flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan arwain at ostyngiad o 15% yng nghyfanswm y gwastraff rhwng 2017 a 2020, gan gyflawni sgôr gyffredinol o 75% am ein harferion rheoli gwastraff.

Carbon Trust Waste Standard Logo - a blue arrow creating a circle shape against a white background with the words Carbon Trust Standard Reducing Waste Year on Year.

Cynhyrchu ystod eang o wastraff nad yw'n beryglus a gwastraff peryglus a reolir sy'n golygu ein bod yn rheoli ein gwastraff yn unol â’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff ac yn gweithredu o fewn gofynion yr holl ddeddfwriaeth gwastraff berthnasol ac o fewn cylch gorchwyl yr Hierarchaeth Wastraff.