Bwrdd du â'r acronym ADHD wedi'i ysgrifennu arno mewn sialc.

Mae plant iau yn y flwyddyn ysgol yn fwy tebygol o gael eu trin am ADHD, sy'n awgrymu y gall anaeddfedrwydd ddylanwadu ar ddiagnosis.

Mae plant iau yn y flwyddyn ysgol yn fwy tebygol o gael eu trin am Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), sy'n awgrymu y gall anaeddfedrwydd ddylanwadu ar ddiagnosis, yn ôl astudiaeth newydd a arweinir gan ymchwilwyr yn yr Adran Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe ac ym Mhrifysgol Glasgow.

Nod yr astudiaeth oedd ymchwilio i'r cysylltiad rhwng oedran ac ADHD, felly aeth yr ymchwilwyr ati i gysylltu data am iechyd ac addysg o'r Alban (poblogaeth 5.4 miliwn) ac o Gymru (poblogaeth 3.1 miliwn). 

Astudiaeth yn cynnwys 1,063,256 o blant ysgol

Roedd y tîm ymchwil am archwilio effaith cadw plant yn ôl flwyddyn a chanfod a yw hyblygrwydd o ran dyddiadau dechrau'r ysgol yn cuddio’r effaith sy’n deillio o’r gwahaniaeth mewn oedran neu yn ei lleihau.

Cafodd cofnodion addysg ac iechyd 1,063,256 o blant ysgolion cynradd ac uwchradd yn yr Alban (2009-2013) ac yng Nghymru (2009-2016) eu cysylltu'n ddienw - er mwyn galluogi'r tîm ymchwil i archwilio'r cysylltiadau rhwng oedran yn y flwyddyn ysgol a thriniaeth am ADHD. Roedd yr ymchwil yn ystyried plant a gadwyd yn ôl yn yr Alban ac yng Nghymru, lle mai 1 Mawrth ac 1 Medi, yn y drefn honno, yw'r dyddiadau cau ar gyfer dechrau'r ysgol.

Mae canfyddiadau allweddol yr astudiaeth yn datgelu'r canlynol:

  • Yn gyffredinol, cafodd 8,721 (0.87%) o'r plant yn yr astudiaeth eu trin am ADHD (0.84% yn yr Alban a 0.96% yng Nghymru).
  • Roedd y plant ieuengaf yn eu dosbarth yn fwy tebygol o gael diagnosis o ADHD.
  • Cafodd mwy o blant (7.66%) eu cadw'n ôl yn yr Alban nag yng Nghymru (0.78%).
  • Roedd plant a gadwyd yn ôl yn fwy tebygol o fod yn wrywaidd, o gefndiroedd cefnog, wedi'u geni cyn amser a phwyso'n isel adeg geni. Roeddent hefyd yn llai tebygol o gael eu geni drwy doriad Cesaraidd neu i famau a oedd yn smygu yn ystod beichiogrwydd.
  • Roedd plant a gafodd eu cadw'n ôl yn fwy tebygol o gael eu trin am ADHD, a byddai 81.18% o blant a gadwyd yn ôl wedi bod y rhai ieuengaf yn eu blwyddyn.
  • Roedd ADHD yn fwy cyffredin mewn bechgyn, a chynyddodd y gyfradd gan ddibynnu ar y ffactorau canlynol: smygu yn ystod beichiogrwydd, mamau iau, pwysau geni a sgôr APGAR (yn seiliedig ar wiriadau iechyd babanod adeg geni).

Meddai'r Athro Michael Fleming, Prif Gyd-awdur yr astudiaeth o Brifysgol Glasgow:

"Mae ein canfyddiadau wedi datgelu bod plant iau yn eu blwyddyn ysgol yn fwy tebygol o gael eu trin am ADHD, sy'n awgrymu y gall anaeddfedrwydd ddylanwadu ar ddiagnosis. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod y duedd hon yn cael ei chuddio mewn gwledydd â dyddiadau dechrau hyblyg, lle mae plant â phroblemau sylw neu ymddygiad yn fwy tebygol o gael eu cadw'n ôl flwyddyn.  Dyw hi ddim yn ymddangos bod cadw plant yn ôl yn dileu'r angen am feddyginiaeth ADHD. Serch hynny, mae'n bosib y gall cadw blant ag ADHD yn ôl wella canlyniadau eraill." 

Ychwanegodd Amrita Bandyopadhyay, prif gyd-awdur yr astudiaeth o’r adran Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe:

"Dylai clinigwyr sy'n asesu neu'n trin plant a phobl ifanc ar gyfer ADHD fod yn ymwybodol bod plant iau yn eu blwyddyn ysgol yn fwy tebygol o gael eu trin am ADHD, beth bynnag yw'r dyddiad cau ar gyfer dechrau'r ysgol. Serch hynny, mae'n bosib bod y duedd hon yn cael ei chuddio mewn gwledydd â pholisïau sy'n cynnig hyblygrwydd o ran y dyddiad dechrau, lle mae plant iau â phroblemau sylw neu ymddygiad yn fwy tebygol o gael eu cadw'n ôl flwyddyn os yw'r athrawon a'r rhieni'n cytuno bod hyn er lles gorau'r plentyn."

Gallwch ddarllen yr erthygl lawn yn BMC Public Health

Noddwyd yr elfen Albanaidd o'r astudiaeth gan Health Data Research UK.  Noddwyd yr ymchwil yng Nghymru gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth (NCPHWR).

Rhannu'r stori