Tair dynes yn gwenu yn eistedd

Yn y llun (o'r chwith i'r dde): Susie Moore, Bydwraig Arweiniol dros Addysg a Phennaeth Addysg Bydwreigiaeth, Uwch Ddarlithydd mewn Bydwreigiaeth, Lucy Evans, a oedd yn rhan o'r tîm datblygu a Nicky Court, Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer y radd Bydwreigiaeth.

Roedd gan bedair bydwraig reswm arbennig i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Fydwraig eleni – wrth iddynt ddod yn enillwyr cyntaf erioed anrhydedd mawreddog newydd.

Derbyniodd Nicky Court, Cyfarwyddwr Rhaglen y radd bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, y wobr ynghyd â’i chydweithiwr Susie Moore sy’n fydwraig arweiniol ar gyfer addysg ac yn bennaeth addysg bydwreigiaeth, Helen Etheridge, arweinydd bydwraig y Ganolfan Geni a chydlynydd ward esgor ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac Elizabeth Rees, bydwraig ymgynghorol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. 

Dyma'r tro cyntaf i Goleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM) yng Nghymru a Gwobr Gwella Ansawdd y Prif Swyddog Nyrsio gael eu gwobrwyo. 

Roedd eu prosiect llwyddiannus yn canolbwyntio ar gefnogi merched i gael profiadau mwy cadarnhaol wrth roi genedigaeth. Un o'r ffyrdd allweddol yr aethpwyd i'r afael â hyn oedd trwy gefnogi a meithrin hyder mewn myfyrwyr a bydwragedd cymwys. Canolbwyntiodd y tîm ar sicrhau bod sgiliau bydwreigiaeth craidd yn ganolog i ymarfer bydwreigiaeth, gyda ffocws ar wella’r cymorth i fenywod sy’n cael genedigaeth drwy’r wain. 

Dywedodd Helen Rogers, Cyfarwyddwr RCM Cymru: “Cawsom gymaint o argraff gyda’r ffordd yr oedd y bartneriaeth yn gweithio, gan ddod â’r rhai sy’n gweithio ym myd addysg bydwreigiaeth ynghyd, ac allan mewn ysbytai a’r gymuned, i gyflawni’r prosiect gwych hwn. Amlyga manteision cydweithio i wella gwasanaethau ac ansawdd gofal i fenywod. Mae Nicky a’r holl dîm sy’n ymwneud â hyn yn enillwyr teilwng.” 

Mae Nicky, wnaeth gyflwyno’r cais, wrth ei bodd: “Mae ein menter gwella ansawdd yn rhywbeth sy’n agos at galonnau pawb. Mae wedi bod yn bleser gweithio ar y cyd â’n byrddau iechyd partner i roi’r prosiect hwn ar waith,” meddai.  

“Bwriad ein menter yw cefnogi ein myfyrwyr a’n cydweithwyr yn ymarferol i gynyddu eu hyder ymhellach drwy roi sgiliau bydwreigiaeth wrth wraidd gofal geni. Bydd hyn yn cefnogi genedigaeth ffisiolegol ac yn y pen draw, gwella profiadau geni i bob menyw lle bynnag y mae’n dewis rhoi genedigaeth.” 

Datblygodd y tîm y prosiect trwy fentrau megis gweithdai ar y cyd gan ganolbwyntio ar wella hyfforddiant ac addysg bydwragedd, fel y gallant hwythau yn eu tro gynnig cymorth gwell fyth i fenywod.  

Dywedodd Prif Swyddog Nyrsio Cymru, Sue Tranka: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi gweithio gyda’r RCM i lansio’r wobr hon. Mae bod yn rhan o dîm yn sail i rôl y fydwraig ac mae’n amlwg iawn yng ngwaith Nicky a’r tîm i wella gwasanaethau i deuluoedd a bydwragedd ar wahanol gamau o’u gyrfa.”

 

Rhannu'r stori