Dyn a menyw'n gwisgo siwtiau gwlyb wrth sefyll ar fwrdd syrffio yn y môr

Ben Clifford, prif gyfarwyddwr a phrif hyfforddwr Surfability, gyda Lowri Wilkie, aelod o'r tîm ymchwil, ym Mae Caswell.

Mae cenedlaethau o syrffwyr yn gwybod nad oes unrhyw beth tebyg i ddal y don berffaith, ond mae ymchwil newydd bellach wedi archwilio pa mor llesol y mae pŵer y môr.

Archwiliodd astudiaeth Prifysgol Abertawe sut elwodd grŵp o oedolion a oedd yn byw gyda chanlyniadau anafiadau i'r ymennydd o therapi syrffio mewn grŵp ar arfordir Gŵyr.

Meddai'r prif ymchwilydd, Katie Gibbs, myfyrwraig PhD yn ei blwyddyn olaf: “Mae natur wedi dangos ers amser maith y gallai hwyluso lles. Yn fwyfwy, defnyddir ymyriadau sy'n ymwneud â'r amgylchedd naturiol er mwyn helpu agweddau ar les ymhlith poblogaethau clinigol.

“Ond roedden ni am ddysgu sut gellid defnyddio ymyriadau sy'n seiliedig ar natur megis therapi syrffio i hybu lles yng nghyd-destun niwroadsefydlu.”

Cyfwelodd Katie a'i chydweithwyr o'r Ysgol Seicoleg â 15 o oedolion sydd wedi cael anafiadau i'r ymennydd yn dilyn ymyriad pum wythnos lle buont yn gweithio gyda Surfability UK, cwmni buddiannau cymunedol ar benrhyn Gŵyr sy'n arbenigo mewn darparu profiadau syrffio i bobl ag anghenion ychwanegol.

Mae eu canfyddiadau newydd gael eu cyhoeddi gan PLOS ONE, y cyfnodolyn ar-lein.

Mae gwyddonwyr yn y Brifysgol wedi bod yn cydweithio'n agos â chlinigwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae AbertaweBwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ailarchwilio ein ffordd o feddwl am iechyd a lles ac ystyried sut gellid defnyddio'r canfyddiadau hyn er mwyn cefnogi pobl sy'n byw gyda nam treiddiol ar ôl cael strôc neu anaf i'r ymennydd.

Meddai Katie: “Rydyn ni'n gwybod bod llawer o bethau, gan gynnwys bwyta'n iach, cysgu'n dda a gwneud ymarfer corff, yn dylanwadu ar iechyd a lles seicolegol. Ond mae ymdeimlad o ystyr, pwrpas a llwyddiant, yn ogystal ag ymdeimlad o berthyn, yn ein bywydau hefyd yn dylanwadu ar ein hiechyd a'n lles, a gall hyd yn oed dibynnu ar ba mor gysylltiedig rydym yn ei deimlo â'n hamgylcheddau naturiol.”

Un grŵp sy'n cael problemau'n aml wrth brofi'r elfennau hynny sy'n hybu lles yw pobl sydd wedi cael anafiadau i'r ymennydd. Yn ogystal â chael anawsterau emosiynol, gwybyddol a chorfforol, mae llawer ohonynt yn teimlo'n ynysig ac nid ydynt yn gallu ailintegreiddio yn eu cymunedau.

Mae'r mwyafrif o bobl sy'n goroesi anafiadau i'r ymennydd yn cael problemau wrth ddychwelyd i'r gwaith a chymryd rhan yn y gweithgareddau hamdden roeddent yn eu mwynhau o'r blaen, sy'n golygu bod cyfleoedd i gael cysylltedd cymdeithasol, pleser, ystyr a phwrpas yn brin.

Er mwyn mynd i'r afael â hyn, edrychodd y clinigwyr ar ffyrdd amrywiol o roi cyfleoedd i bobl sydd wedi cael strociau neu anafiadau i'r ymennydd gael profiad o les yn eu hamgylcheddau lleol a naturiol. Arweiniodd hyn at y bartneriaeth â Surfability UK, cwmni a gafodd ei gynnwys ar raglen DIY SOS BBC1 o ganlyniad i'w waith yn cynnig profiadau syrffio ym Mae Caswell.

Ers ymuno oddeutu tair blynedd yn ôl, mae hyd at 50 o bobl sydd wedi goroesi strociau neu anafiadau i'r ymennydd wedi mwynhau sesiwn syrffio dwy awr o hyd am gyfnodau o hyd at bum wythnos.

Mewn cyfweliadau a gynhaliwyd â 15 o'r unigolion hynny, dysgodd Katie a'r tîm i ba raddau roedd y profiad wedi newid eu bywydau.

Meddai: “Yn anad dim byd arall, gwnaethon ni ganfod bod syrffio'n meithrin y gred y gallai'r cyfranogwyr, er eu bod yn sigledig mewn rhai mannau, deimlo lles.

“Dywedodd llawer ohonyn nhw fod eu profiad wedi rhoi rheswm dilys dros fod yn fyw iddyn nhw.”

Edrychodd yr ymchwil ar y newidiadau cadarnhaol i'r cyfranogwyr dros y pum wythnos hynny a'r tu hwnt, wrth iddynt fwynhau buddion bod yn rhan o fyd natur a chysylltu â'r eiliad bresennol mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

Roedd y gweithgarwch mewn grŵp hefyd yn golygu y gallent gysylltu â phobl eraill mewn sefyllfa debyg, gan feithrin ymdeimlad o berthyn a chymuned roedd yn anodd iddynt ei gael yn rhywle arall. Yn y gymuned hon, gwnaethant ddechrau ailystyried eu gwerth eu hunain a'r hyn y gallent ei wneud, gyda chymorth y clinigwyr a oedd yn gweithio gyda hwy i osod nodau ystyrlon.

Ychwanegodd Katie: “Mae ein themâu'n dangos sut gall amgylcheddau naturiol ddarparu'r cyd-destun i alluogi unigolion sydd wedi goroesi strociau ac anafiadau i'r ymennydd deimlo pileri amrywiol lles sydd yn aml, gwaetha'r modd, y tu hwnt i'w cyrraedd.” 

Ar gyfer ei hymchwil, mae Katie wedi bod yn gweithio gyda'r Athro Andrew Kemp a Dr Zoe Fisher, sydd wedi cyhoeddi ymchwil yn y gorffennol i bwysigrwydd mabwysiadu ymagwedd ehangach at les ac ystyried sut gall ein hamgylchoedd ddylanwadu arno.

 

Rhannu'r stori