Ymchwil yn datgelu ymagwedd newydd at ddeall ein lles

Mae'r gallu i gysylltu â phobl a meithrin ymdeimlad o berthyn yn anghenion dynol sylfaenol ond mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe wedi archwilio sut mae'r rhain yn deillio o fwy na'n perthnasoedd personol yn unig.  

Mae ymchwil gan yr Athro Andrew Kemp, seicolegydd o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, yn tynnu sylw at bwysigrwydd mabwysiadu ymagwedd ehangach at les a sut gall materion megis anghydraddoldeb a newid anthropogenig yn yr hinsawdd ddylanwadu arno.

Bu'r Athro Kemp yn gweithio gyda'r myfyriwr PhD Jess Mead a'r seicolegydd clinigol ymgynghorol Dr Zoe Fisher, o Academi Iechyd a Llesiant y Brifysgol, ar yr astudiaeth, sy'n cyflwyno fframwaith trawsddisgyblaethol i helpu i ddeall a gwella lles.

Meddai'r Athro Kemp: “Rydym yn diffinio lles fel profiad seicolegol cadarnhaol, wedi'i hyrwyddo gan gysylltiadau personol, cymunedol ac amgylcheddol, a'i gefnogi gan weithrediad fagol iach, ac mae ffactorau cyd-destunol cymdeithasol sydd y tu hwnt i reolaeth yr unigolyn yn effeithio ar y cwbl.”

Mae'r ymchwilwyr yn dweud bod eu canfyddiadau diweddaraf, sydd newydd gael eu cyhoeddi yn Frontiers in Psychology, yn arbennig o berthnasol wrth i'n cymdeithas geisio adfywio a dysgu gwersi ar ôl Covid-19.

Meddai: “Mae ein fframwaith eisoes wedi cyfrannu at ddealltwriaeth well ynghylch sut i ddiogelu lles yn ystod y pandemig ac mae wedi arwain at ddatblygu dull ymyrryd gwyddonol blaengar, ar gyfer myfyrwyr prifysgol a phobl sydd wedi cael anaf i'w hymennydd.

Ychwanegodd yr Athro Kemp: “Rydym yn teimlo bod ein papur gwahoddedig yn amserol gan ei fod yn cyd-fynd â dyfodol wedi'r pandemig lle bydd yn rhaid trawsnewid ein cymdeithas, gan ystyried ymdrechion byd-eang i hyrwyddo lles y blaned hefyd.

“Oherwydd globaleiddio, trefoli a gwelliannau technolegol, mae pobl wedi colli cysylltiad â natur yn fwyfwy. Mae'r broses hon yn parhau er bod gwaith ymchwil yn dangos bod cysylltu â natur yn gwella lles.”

Mae'r ymchwil yn datgelu'r manteision i iechyd a lles sy'n deillio o gysylltu â'ch hun, pobl eraill a byd natur, ac yn pwysleisio bod angen canolbwyntio ymdrechion ar fynd i'r afael â materion cymdeithasol mawr sy'n effeithio ar ein gallu i gysylltu.

Ychwanegodd: “Mae heriau cymdeithasol mawr yn effeithio'n anghymesur ar y bobl dlotaf, gan gynnwys cynyddu baich clefydau cronig, unigrwydd cymdeithasol a newid anthropogenig yn yr hinsawdd.

“Mae anghydraddoldeb economaidd yn effeithio'n niweidiol ar y boblogaeth gyfan, nid pobl dlawd yn unig, felly mae lleihau anghydraddoldeb economaidd yn hollbwysig er mwyn gwella lles y boblogaeth.”

Mae ymagwedd drawsddisgyblaethol at les i'w gweld ar hyn o bryd ym mhob rhan o Brifysgol Abertawe, yn enwedig ers i Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (MASI), sy'n ymrwymedig i gefnogi gwaith ymchwil rhyngddisgyblaethol trawsnewidiol, gael ei agor.

Bydd Jess a dau o fyfyrwyr PhD eraill yr Athro Kemp yn arwain symposia Haf Gobaith ar les a ariennir gan MASI ym mis Gorffennaf.

Rhannu'r stori