John Hudson, second from right, receiving his chemistry award in the STEM for Britain competition in Parliament

Mae ymchwilydd PhD mewn cemeg wedi ennill dwy wobr yn STEM for BRITAIN, sef cystadleuaeth posteri gwyddonol fawr a gynhelir yn Senedd y DU, sydd â'r nod o roi dealltwriaeth i wleidyddion o'r gwaith ymchwil rhagorol y mae ymchwilwyr gyrfa gynnar yn ei wneud ym mhrifysgolion y DU.

Dyfarnwyd gwobrau am y perfformiad gorau wrth gyfleu gwyddoniaeth, peirianneg neu fathemateg lefel uchel i gynulleidfa heb arbenigedd yn y meysydd hynny.

Dyfarnwyd y Wobr Efydd am Gemeg i John Hudson ac enillodd wobr Dyson am ymchwil ragorol tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.

Mae ymchwil John i ddeunyddiau moleciwlaidd wedi datgelu mecanweithiau a allai arwain at oleuadau mwy effeithlon o ran ynni, ar gyfer unrhyw beth o oleuadau stryd i arddangosiadau LED. Gallai ei waith ar ymddygiad cwantwm hefyd helpu i ddatblygu platfformau newydd ar gyfer synwyryddion, er enghraifft, y rhai a ddefnyddir i fesur meysydd trydanol a magnetig gwan ar gyfer delweddu biofeddygol.

STEM for Britain 

Adran Gemeg Prifysgol Abertawe

Dyma sylwadau John Hudson am ei brofiad:

“Roedd esbonio fy ymchwil i gynulleidfa heb arbenigedd gwyddonol yn gyfle gwych – gan ei bod hi'n fwyfwy pwysig meithrin gwybodaeth aelodau’r cyhoedd am ymchwil wyddonol a'u hymddiriedaeth ynddi. Mae'n anrhydedd go iawn bod ein hymchwil i foleciwlau cysefin wedi cael ei gwobrwyo yn STEM for BRITAIN. Fel rhan o grŵp ymchwil ifanc a'r ymdrech i ddatblygu lled-ddargludyddion a deunyddiau uwch o dde Cymru, mae'n gadarnhaol iawn bod ein hymdrechion wedi cael eu cydnabod ar lwyfan cenedlaethol.”

Meddai Dr Emrys Evans, goruchwylydd PhD John yn Adran Gemeg Prifysgol Abertawe:

“Dyma gamp fawr ac rydyn ni'n falch iawn o John, sydd wedi rhannu ei ymchwil ragorol ym maes cemeg a gwyddoniaeth gynaliadwy o Brifysgol Abertawe â’n harweinwyr yn Senedd y DU.”

Meddai Stephen Metcalfe AS, Cadeirydd y Pwyllgor Seneddol a Gwyddonol:

“Mae'r Pwyllgor Seneddol a Gwyddonol yn falch o drefnu a chynnal STEM for BRITAIN. Mae'r gystadleuaeth flynyddol hon yn ddyddiad pwysig yn y calendr seneddol, gan ei bod yn rhoi'r cyfle i aelodau seneddol siarad ag amrywiaeth eang o ymchwilwyr ifanc gorau'r wlad.

“Peirianwyr, mathemategwyr a gwyddonwyr gyrfa gynnar fel y rhain yw penseiri ein dyfodol, a STEM for BRITAIN yw cyfle gorau ein gwleidyddion i gwrdd â nhw a deall eu gwaith.”

Rhannu'r stori