Colomennod yn hedfan.

Mae astudiaeth newydd a arweiniwyd gan Brifysgol Abertawe wedi cynnig dealltwriaeth newydd o amodau amgylcheddol ar raddfa fanwl o safbwynt meteorolegol.

Er bod yr holl anifeiliaid sy'n hedfan yn gorfod ymateb i dyrfedd atmosfferig, ni wyddys llawer am sut mae hyn yn cael ei wneud, oherwydd bod dulliau traddodiadol o’i fesur ym myd natur yn anodd o ran logisteg ac yn ddrud.

Bu academyddion o Brifysgol Abertawe'n cydweithio ar ymagwedd newydd gyda Phrifysgol Leeds, Sefydliad Ymddygiad Anifeiliaid Max Planck a Phrifysgol Konstanz, a oedd yn cynnwys hedfan awyren fach ar hyd llwybr hedfan colomennod ac yn agos ato wrth iddynt deithio yn ôl i'w colomendy, gan fesur lefelau tyrfedd ar safle'r astudiaeth yn ystod pob taith.

Gan ddefnyddio GPS, gwasgedd barometrig a chofnodwyr data cyflymu a oedd wedi'u cysylltu â’r adar, bu’r tîm yn ystyried a allai newidiadau ar raddfa fanwl yn uchder hedfan a symudiad yr adar gael eu defnyddio fel dangosyddion o gryfder tyrfedd, gan gymharu hyn â thyrfedd a fesurir gan anemomedrau ar yr awyren.

Dengys y canlyniadau, a gyhoeddwyd yn y Cyfnodolyn Royal Society Interface, ansefydlogrwydd yr adar, wrth iddynt gael eu bwrw i fyny ac i lawr, a gellir defnyddio'r rhain i ddeall pa mor dyrfol yw'r amodau.

Mae'r ymchwil newydd hon yn datgloi'r posibilrwydd o ddefnyddio synwyryddion ar adar i gyfrifo tyrfedd llif rhydd mewn natur, a fyddai'n fantais fawr mewn ardaloedd ac amodau anhygyrch, fel mae synwyryddion ar forloi yn cael eu defnyddio i fesur halltedd a thymheredd y môr o dan y capiau iâ.

Meddai Dr Emmanouil Lempidakis, yr ymchwilydd arweiniol, a gynhaliodd yr ymchwil fel rhan o'i PhD:"Er mai'r adar sy'n dewis pryd a ble i hedfan, gall y dull hwn roi dealltwriaeth i ni o amodau amgylcheddol ar raddfa fanwl heb gost ymagweddau eraill, ac mae'n ein galluogi i edrych ar dyrfedd o safbwynt gwahanol."

Mae'r tîm eisoes yn edrych ar ffyrdd o ddefnyddio'r wybodaeth newydd hon i ymchwilio i sut gall tyrfedd ddylanwadu ar yr ymdrech hedfan a'r llwybr a ddewisir gan yr adar hyn.

Esboniodd yr Athro Emily L.C. Shepard, arbenigwr yn ecoleg symudedd anifeiliaid gwyllt: “Yr hyn a oedd yn ddiddorol oedd y gallai colomennod hedfan mewn amodau a oedd yn rhy stormus ar gyfer yr awyren tra ysgafn, ond cafwyd awgrym hefyd bod adar yn osgoi rhai llwybrau gyda thyrfedd uchel iawn. Mae hyn yn codi'r cwestiwn sut gall adar ymdopi â thyrfedd uchel a hefyd sut mae hyn yn effeithio ar eu costau hedfan."

Rhannu'r stori