Mae technoleg (e.e. dronau - yn y llun) - wedi trawsnewid maes rheoli plâu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae technoleg (e.e. dronau - yn y llun) - wedi trawsnewid maes rheoli plâu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Cynhelir y gynhadledd o 12 tan 14 Medi.

Mae bwydo poblogaeth sy'n tyfu wrth leihau'r effaith ar yr amgylchedd yn her ddybryd, ond bydd cynhadledd ryngwladol fawr ym Mhrifysgol Abertawe'n helpu drwy ddod ag arbenigwyr ym maes rheoli plâu integredig at ei gilydd. Byddant yn trafod ymagweddau newydd at reoli pryfed sy'n blâu a fydd yn lleihau'r ddibyniaeth ar bryfladdwyr cemegol niweidiol.

Mae plâu'n difa hyd at 40 y cant o gnydau'r byd, gan arwain at golledion gwerth $220 biliwn, yn ôl Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig. Mae newid yn yr hinsawdd yn cynyddu'r bygythiad ymhellach gan ei fod yn ei gwneud hi'n fwy tebygol y bydd plâu ymledol yn gallu symud i dir newydd.

Mae rheoli plâu mewn modd integredig yn seiliedig ar yr egwyddor bod cysylltiad annatod rhwng materion amgylcheddol a chynhyrchu bwyd.

Ei nod yw annog y defnydd o gnydau iach a tharfu cyn lleied â phosib ar ecosystemau amgylcheddol. Mae'n canolbwyntio ar fecanweithiau naturiol ar gyfer rheoli plâu ac yn cynnwys defnyddio adnoddau biolegol, diwylliannol, ffisegol a chemegol mewn ffordd sy'n lleihau risgiau i'r economi, iechyd a'r amgylchedd.

Er mwyn i reoli plâu mewn modd integredig fod yn effeithiol, mae'n rhaid i sectorau gwahanol weithio gyda'i gilydd, yn enwedig byd diwydiant, y byd academaidd ac awdurdodau rheoleiddio.

Mae technoleg wedi trawsnewid maes rheoli plâu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae dronau, synwyryddion electronig, robotiaid sy'n archwilio cnydau a delweddau lloeren yn dechrau cael eu defnyddio er mwyn diogelu cnydau.

Yn erbyn y cefndir hwn, mae'r digwyddiad yn Abertawe yn hynod amserol. Y nod yw dod â phawb sy'n rhan o'r gadwyn busnesau amaethyddol ynghyd, er mwyn cyflwyno a thrafod mentrau arloesol a sut maent yn cael eu rhoi ar waith i ddiogelu cnydau.

Cynhelir y gynhadledd, sef “New IPM: A Modern and Multidisciplinary approach to Crop Protection, o 12 tan 14 Medi. Caiff ei chynnal a'i threfnu gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth ag IBMA UK (International BioControl Manufacturers Association UK).

Bydd y canlynol ymysg y pynciau a gaiff eu trafod:

• Monitro plâu a chlefydau
• Cynyddu twf a gwytnwch planhigion
• Bioblaladdwyr – dewisiadau naturiol amgen i blaladdwyr cemegol
• Sut gall mesurau naturiol ar gyfer rheoli plâu weithio gyda'i gilydd i gael effaith fwy
• Straeniau o ficrobau sydd wedi cael eu nodi ond heb i'w potensial gael eu hasesu'n llawn
• Rhwydweithio a chyfleoedd i gael cyllid

Cynhelir rhaglen y brif gynhadledd ar 12 a 13 Medi. Caiff ei dilyn ar 14 Medi gan ddigwyddiad rhwydweithio, a drefnir gan Wasanaethau Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Abertawe, a fydd yn gyfle i academyddion a busnesau feithrin cysylltiadau, gyda sesiynau ar gyfleoedd i gael cyllid drwy ffynonellau yn y DU a'r Undeb Ewropeaidd.

Meddai'r Athro Tariq Butt o Brifysgol Abertawe, sy'n trefnu'r digwyddiad:

“Mae'n hanfodol rheoli plâu mewn modd integredig er mwyn diogelu ein cyflenwad bwyd a'n hamgylchedd, sef dwy ochr i'r un geiniog.

“Y broblem yw bod gormod o drafodaethau ynghylch rheoli plâu mewn modd integredig yn canolbwyntio ar elfennau unigol, megis rôl bioblaladdwyr neu rywogaethau llesol, yn hytrach na'r darlun cyfan.

“Ar lefel ymarferol, mae rheoli plâu mewn modd integredig yn dibynnu ar drosglwyddo amrywiaeth eang o wybodaeth gywir, amserol a phriodol i rywun hyfforddedig i wneud penderfyniad sydd, yn y pen draw, yn gallu cael gafael ar becyn cymorth rheoli plâu sy'n addas at y diben.

“Er mwyn rhoi hyn i gyd ar waith, rhaid cael ymdrech gyfunol a chydweithrediad byd diwydiant, y byd academaidd a'r awdurdodau rheoleiddio.

“Bydd y gynhadledd hon yn cynnig cyfle i gynrychiolwyr yr holl randdeiliaid hyn gyfathrebu a meithrin perthnasoedd cynhyrchiol. Bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu ymagwedd newydd at reoli plâu mewn modd integredig, sy'n hanfodol er mwyn llwyddo i ddiogelu ein bwyd a'n hamgylchedd.

“Byddwn hefyd yn datgelu cynlluniau ar gyfer BioHYB Cynhyrchion Naturiol cyntaf y rhanbarth, sef cydweithrediad rhwng diwydiant a'r byd academaidd i ddatblygu cynhyrchion naturiol a busnesau newydd, gan greu swyddi a chyfleoedd hyfforddiant.”

Meddai Dr Ian Baxter o IBMA UK:

“Mae IBMA UK yn falch o drefnu'r digwyddiad hwn ar y cyd â Phrifysgol Abertawe. Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn arbennig o heriol i ni i gyd, ond nid yw cyfradd mabwysiadu'r dechnoleg gan dyfwyr wedi arafu o ganlyniad i hyn – os rhywbeth, mae'r pwysau amlwg ar adnoddau wedi cyflymu'r broses hon.

“Dyma adeg berffaith i ddod ynghyd a chyfnewid gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf o ran dulliau newydd o reoli plâu mewn modd integredig.’’

Gwybodaeth am y gynhadledd

Cofrestrwch eich diddordeb

 

Rhannu'r stori