Dur mewn ffatri

Dur mewn ffatri: mae arbenigwyr Abertawe'n archwilio ffyrdd o leihau ymhellach ôl troed carbon cynhyrchu dur.

Mae peirianwyr cemegol o Brifysgol Abertawe'n dod o hyd i ffyrdd newydd o ddal ac ailddefnyddio carbon drwy greu cynhyrchion newydd er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Gall dal a defnyddio carbon wneud cyfraniad hollbwysig at leihau allyriadau drwy atal biliynau o dunelli o garbon rhag cael eu rhyddhau i'r atmosffer. Ond dim ond drwy ddefnyddio'r carbon i greu cynhyrchion o werth y gall gyflawni ei botensial llawn.

Yn hyn o beth y mae peirianwyr cemegol Abertawe wedi bod yn arwain ymchwil arloesol.

Un enghraifft yw ailddefnyddio'r carbon sy'n rhan o'r broses o gynhyrchu dur. Mae angen dur ar economi gylchol, gwastraff isel gan y gellir ei ailgylchu'n ddiderfyn heb golli ansawdd – tun bwyd heddiw yw tyrbin gwynt yfory. Y broblem yw bod llawer o allyriadau carbon yn deillio o weithgynhyrchu dur o hyd, er bod y diwydiant wedi gwneud gwelliannau sylweddol.

Mae arbenigwyr Abertawe'n archwilio ffyrdd o leihau ymhellach ôl troed carbon cynhyrchu dur.

Maent yn arbrofi ag electrolysis, sy'n defnyddio gwefr drydanol er mwyn gwahanu elfennau. Yn hytrach na chael ei allyrru i'r atmosffer, byddai'r CO2 o ffwrnais chwyth y gwaith dur yn cael ei fwydo i beiriant electroleiddio alcalïaidd.

Byddai'r broses hon yn cynhyrchu grŵp mawr o gemegion y gellir eu hailddefnyddio’n ddiweddarach. Mae'r rhain yn cynnwys asid fformig, y gellir ei ddefnyddio mewn celloedd tanwydd, ac ethylen, defnydd crai allweddol ar gyfer cynhyrchu polymerau.

Mae'r gwaith yn cael ei wneud gan Hyb Ymchwil Gweithgynhyrchu Dur y Dyfodol SUSTAIN, a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol.

Esboniodd Dr Enrico Andreoli, pennaeth peirianneg gemegol ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n arwain y gwaith:

“Mae ein hymchwil yn cysylltu'r broses o gynhyrchu dur â'r diwydiant cemegol, y mae angen iddo leihau ei ddefnydd o danwyddau ffosil hefyd. Rydym yn ystyried sut i gyfuno'r ddau beth, gan fwydo'r cynhyrchion sy'n deillio o'r peiriant electroleiddio alcalïaidd i'r diwydiant cemegol. Mae ein gwaith wedi cyrraedd y labordy ond mae ganddo'r potensial i wneud gwahaniaeth mawr i ôl troed carbon y diwydiannau.”

Gwyliwch Dr Andreoli ac arbenigwyr eraill yn cyflwyno eu hymchwil yn y gynhadledd Sustainability in Steel, a drefnwyd gan SUSTAIN a arweinir gan Abertawe.

Darllenwch am y gynhadledd “Sustainability in Steel” yn “The Chemical Engineer”

Esboniodd yr Athro Dave Worsley, cyfarwyddwr hyb SUSTAIN, mai nod SUSTAIN yw darparu ymchwil gwyddoniaeth a pheirianneg o'r radd flaenaf y mae ei hangen er mwyn creu cadwyni cyflenwi dur niwtral o ran carbon ac effeithlon o ran adnoddau yn y DU.

“Rydym yn mynd i'r afael â datgarboneiddio'r broses o gynhyrchu dur o sawl cyfeiriad, gan gynnwys y defnydd o garbon deuocsid o allyriadau a nwyon cynhyrchu. Mae'n hollbwysig ein bod yn darparu dur gwyrdd cynaliadwy ar gyfer dyfodol sero net y diwydiant dur yn y DU ac yn fyd-eang. Mae ein gwaith ar electroleiddio CO2 yn rhan o ymdrech ehangach yn yr hyb i ddal a defnyddio carbon.”

Ynni, iechyd, bwyd, dŵr a'r amgylchedd – darllenwch fwy am ein graddau Peirianneg Gemegol

 

Rhannu'r stori