Mae pedwar plentyn yn chwarae pêl-droed mewn parc o flaen perth a dwy fainc.

Mae adroddiad am lefelau gweithgarwch corfforol cyffredinol plant a phobl ifanc wedi dyfarnu gradd F i Gymru – ac yn peri pryderon y gallai hyn arwain at oblygiadau tymor hir i'w hiechyd a'u lles.

Mae 2021 Active Healthy Kids (AHK) Wales Report Card yn graddio gweithgarwch corfforol pobl ifanc ar draws 11 o ddangosyddion ansawdd drwy gonsensws arbenigwyr a chyfuno'r dystiolaeth orau sydd ar gael o ddata cyn Covid-19. Yn ôl yr adroddiad, dim ond hanner y plant a’r bobl ifanc rhwng 3 a 17 oed yng Nghymru sy'n cael o leiaf 60 munud o weithgarwch corfforol bob dydd, sef y lefel a argymhellir. Ar ben hynny, dim ond rhwng 13% a 17% o blant rhwng 11 ac 16 oed sy'n cael y lefel o weithgarwch corfforol a argymhellir, sy'n golygu bod lefelau gweithgarwch corfforol ac amser segura yng Nghymru ymysg y rhai gwaethaf yn y byd.

Yn ôl yr adroddiad blaenorol yn 2018, dim ond naw o wledydd yn fyd-eang a gafodd sgoriau gwaeth na Chymru. Erbyn hyn, mae'r graddau wedi gwaethygu ymhellach, gyda phob gradd ond tair yn aros yr un peth neu'n gwaethygu. Pan fydd y data am weithgarwch corfforol mewn gwledydd eraill ar gael, bydd y canlyniadau'n cael eu cymharu â rhai Cymru. Fel yng Nghymru, mae'n debygol bod y graddau wedi gwaethygu o ganlyniad i'r cyfyngiadau a osodwyd ar weithgarwch corfforol plant yn ystod y pandemig.

Cyhoeddir 2021 Active Healthy Kids (AHK) Wales Report Card yn International Journal of Environmental Research and Public Health. Dyma'r bedwaredd fersiwn, yn dilyn adroddiadau yn 2014, 2016 a 2018, a luniwyd fel rhan o'r AHKGA (Active Healthy Kids Global Alliance), sef rhwydwaith o ymchwilwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol o fwy na 60 o wledydd, gyda'r nod o wella gweithgarwch corfforol plant a phobl ifanc ledled y byd.

Gwnaed yr ymchwil ar gyfer yr adroddiad gan dîm dan arweiniad Prifysgol Abertawe ar y cyd â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Edge Hill, Chwarae Cymru, Sustrans, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Chwaraeon Cymru. Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o’r gwledydd eraill yn y fenter fyd-eang, defnyddiodd tîm ymchwil AHK-Wales ddata cyn Covid-19 wrth lunio adroddiad 2021 ond y bwriad bellach yw dadansoddi data am weithgarwch corfforol ar gyfer cyfnod Covid-19 dros y misoedd nesaf. 

Meddai prif awdur yr adroddiad, Amie Richards o Ganolfan Ymchwil Chwaraeon, Technoleg, Ymarfer Corff a Meddygaeth Gymhwysol (A-STEM) Prifysgol Abertawe:

“Mae'r adroddiad hwn yn peri pryder am iechyd a lles pobl yng Nghymru yn y dyfodol, yn enwedig gan fod tystiolaeth rymus bellach fod gweithgarwch corfforol wedi lleihau ymhellach yn ystod pandemig Covid-19. Rydyn ni'n gobeithio y bydd canlyniadau'r adroddiad hwn yn cael eu defnyddio i lywio penderfyniadau llunwyr polisi, ymarferwyr ac addysgwyr i wella lefelau a chyfleoedd gweithgarwch corfforol plant a phobl ifanc ac i leihau anghydraddoldebau gweithgarwch corfforol.”

Meddai Marianne Mannello, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Polisi, Cymorth ac Eiriolaeth Chwarae Cymru:

“Mae chwarae yn cael effeithiau cadarnhaol ar ganlyniadau iechyd tymor hir, gan gynnwys gweithgarwch corfforol cynyddol, gwella lles plant a helpu i ddatblygu gwytnwch. Mae'r pleser uniongyrchol y mae plant a'u teuluoedd yn ei gael o ganlyniad i chwarae yr un mor bwysig. Mae'r data ar gyfer y dangosydd chwarae actif yn dangos bod plant yn parhau i ofyn am leoedd gwell i chwarae ynddyn nhw yn yr awyr agored ac yn crybwyll rhwystrau tebyg ’i chwarae bob blwyddyn. Mae'n hollbwysig ein bod ni'n gwrando ar farn plant ac yn cael gwared ar y rhwystrau i chwarae. Bydd hyn yn eu helpu i gefnogi eu lles, ac i fwynhau plentyndod hapus ac iach.”

Meddai Amie Richards:

"Mae llawer o gamau gweithredu y gall teuluoedd eu cymryd i gynyddu gweithgarwch corfforol plant er mwyn gwella a chryfhau eu lles ar ôl pandemig Covid-19 ac i archwilio'r amgylchedd naturiol hyfryd y mae Cymru'n ei gynnig i'w holl gymunedau."

Roedd y graddau a ddyfarnwyd fel a ganlyn:

  • Gweithgarwch Corfforol Cyffredinol—F
  • Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon wedi'u Trefnu —C
  • Chwarae Actif—C+
  • Cludiant Llesol—C−
  • Ymddygiad Llonydd—F
  • Ffitrwydd Corfforol—C−
  • Dylanwadau Teulu a Chyfoedion—D+
  • Ysgolion—B−
  • Y Gymuned a'r Amgylchedd Adeiledig— C
  • Llywodraeth a Pholisi Cenedlaethol—C
  • Llythrennedd Corfforol—C−

Rhannu'r stori