Ni chyrchwyd gwasanaethau gan gynifer â phedwar o bob 10 person yng Nghymru roedd angen gofal cymdeithasol arnynt o bosib yn ystod pandemig Covid-19, yn ôl adroddiad newydd.

Archwiliodd yr astudiaeth, a gafodd ei chomisiynu gan Senedd Cymru a'i harwain gan Dr Simon Williams o Brifysgol Abertawe, agweddau'r cyhoedd a phrofiadau o ofal cymdeithasol yng Nghymru ddwy flynedd ar ôl dechrau'r pandemig.

Canfu'r astudiaeth, a oedd yn cynnwys arolwg o 2,569 o ymatebwyr yng Nghymru a chyfres o grwpiau ffocws, fod pandemig Covid-19 wedi cael effaith fawr ar ofal cymdeithasol, gan waethygu'r argyfwng yn y maes, a dwysáu'r pwysau ar y gweithlu.

Mae canfyddiadau allweddol yr astudiaeth yn datgelu'r canlynol:

  • Roedd pedwar o bob 10 person yng Nghymru a oedd yn teimlo bod angen gofal cymdeithasol arnynt hwy, ar aelod o'u haelwyd neu eu teulu agos heb dderbyn y gofal hwnnw neu heb wneud defnydd ohono.
  • Crybwyllwyd y pandemig fel rheswm mawr pam na chyrchwyd gofal cymdeithasol gan lawer o bobl roedd ei angen arnynt o bosib – naill ai oherwydd ofn dal Covid-19 neu oherwydd nad oeddent am fod yn faich ar wasanaethau gofal cymdeithasol a oedd dan bwysau sylweddol.
  • Roedd boddhad â gofal cymdeithasol yn amrywiol, gydag oddeutu un o bob tri pherson naill ai'n anfodlon iawn neu'n weddol anfodlon, ac ychydig yn fwy na hanner y bobl naill ai'n fodlon iawn neu'n weddol fodlon drostynt eu hunain neu aelod o'u haelwyd neu eu teulu agos.
  • Ymhlith y rhai a oedd yn teimlo na wnaeth rhywun yn eu haelwyd dderbyn gofal cymdeithasol neu wneud defnydd ohono er bod ei angen arno, roedd y canlynol ymysg y rhesymau mwyaf cyffredin a nodwyd gan bobl: diffyg argaeledd neu brinder staff (22%), nid oeddent yn bodloni'r meini prawf cymhwyso (17%), roeddent yn rhy falch i gyrchu gofal (15%), a'r ffaith bod y broses cyflwyno cais yn rhy gymhleth (10%).
  • Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr (86%) yn teimlo bod angen diwygio'r system gofal cymdeithasol yng Nghymru, a dywedodd 94% y dylai fod yn flaenoriaeth i lywodraethau'r DU a Chymru.

Yn y grwpiau ffocws, dadleuodd cyfranogwyr fod angen cysoni'r gofal cymdeithasol a ddarperir, rhoi gofal mwy personol, integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn well, a buddsoddi'n fwy mewn gofal cymdeithasol. Roedd rhai'n teimlo y dylai'r diwygiadau integreiddio gofal cymdeithasol yn y GIG, ond roedd eraill yn dadlau y dylid sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol ar wahân.

Meddai Dr Williams: “Mae'n destun pryder bod oddeutu pedwar o bob 10 person a oedd yn teimlo bod angen gofal cymdeithasol arnyn nhw heb dderbyn neu heb ddefnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol. Dylai llunwyr polisi a darparwyr geisio deall y prif rwystrau, ym marn pobl, i gyrchu neu ddefnyddio gofal cymdeithasol, gan gynnwys cynyddu darpariaeth i'r rhai y mae ei hangen arnyn nhw, annog a galluogi'r rhai sy'n teimlo bod angen gofal cymdeithasol arnyn nhw i gyflwyno cais amdano, ystyried ehangu'r meini prawf cymhwyso lle y bo'n briodol, a symleiddio'r broses cyflwyno cais.

“Yn yr un modd â gwasanaethau gofal iechyd, her arall i'r gwasanaethau gofal iechyd o bosib yw'r angen i fynd i'r afael â'r llwyth wrth gefn o bobl y mae angen gofal cymdeithasol arnyn nhw, nad oedden nhw wedi gallu cyrchu gwasanaethau o ganlyniad i gyfyngiadau neu brinder staff, neu nad oedden nhw am gyflwyno cais gan fod y risg o gael eu heintio'n destun pryder iddyn nhw neu nad oedden nhw am beri trafferth i wasanaethau.”

Darllenwch grynodeb o'r adroddiad ar wefan y Senedd

Darllenwch yr adroddiad llawn

Rhannu'r stori