Sgrinlun o dasg pellhau gwybyddol sy'n rhan o’r gêm ACTing Minds.

Mae ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi datblygu ffordd unigryw o helpu pobl ifanc i feithrin gwytnwch seicolegol, gan ddefnyddio gêm fideo at ddibenion ymyriadau iechyd meddwl a dysgu corfforedig.

Mae Dr Darren Edwards o'r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn unol â pholisïau iechyd meddwl Llywodraeth Cymru megis Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, wedi defnyddio a throsglwyddo'r wybodaeth sy'n gysylltiedig â Therapi Derbyn ac Ymrwymiad (ACT) i greu gêm fideo sydd ar gael i'r cyhoedd o'r enw ACTing Minds.

Mae'r gêm, a ariennir gan AgorIP drwy Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yn ceisio mynd i'r afael ag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys mynediad at gymorth iechyd meddwl, yn enwedig i bobl ifanc.

Yn ôl Canolfan Llywodraethiant Cymru, roedd nifer yr unigolion sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl difrifol wedi cynyddu o 11.7% cyn y pandemig i 28.1% erbyn mis Ebrill 2020, gan wneud adnoddau fel ACTing Minds yn amhrisiadwy.

Meddai'r prif ddatblygwr ac ymchwilydd, Dr Darren Edwards, Uwch-ddarlithydd mewn Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae angen i ni ddatblygu ymyriadau iechyd meddwl sy'n hygyrch i bobl ifanc ac sy'n gallu ennyn eu diddordeb.

“Mae meithrin sgiliau iechyd meddwl a gwytnwch o oedran ifanc yn hanfodol er mwyn lleihau'r broblem iechyd meddwl gyffredinol sy'n bodoli heddiw.”

Cydweithredodd Dr Edwards â Miracle Tea Studios Ltd, sef stiwdio gemau annibynnol ym Mhrydain, i ddatblygu'r gêm, sy'n cyflwyno stori hynod bersonol am rywun a gollodd ei wraig yn ddiweddar mewn damwain drasig.

Drwy gydol y gêm, mae'r chwaraewyr yn dysgu bod angen iddynt dderbyn eu colled a chanolbwyntio eu bywydau ar yr hyn sy'n ystyrlon iddynt yn hytrach na ffrwyno meddyliau ac osgoi atgofion poenus.

Mae'r chwaraewyr yn cael eu denu i ddeinameg y gêm, sy'n defnyddio dysgu drwy atgyfnerthu er mwyn gwobrwyo ymddygiadau sy'n arwain at hyblygrwydd seicolegol cynyddol. Dyma broses hollbwysig i Therapi Derbyn ac Ymrwymiad.

Caiff pwyntiau eu dyfarnu ar sail ‘Psychoflexameter’ – sef graddfa hyblygrwydd seicolegol.

Mae ymchwil i ACTing Minds yn parhau ac ar hyn o bryd mae wedi cyrraedd y cam dichonoldeb a ddisgrifir mewn protocol a gyhoeddwyd yn BMJ Open yn ddiweddar. Dyma fenter gydweithredol rhwng Dr Edwards a'r Athro Andrew Kemp o Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe.

Mae'r gêm wedi cael ymatebion ardderchog gan ddefnyddwyr, sef aelodau'r cyhoedd a chlinigwyr iechyd meddwl, ac mae eisoes yn cael ei rhoi ar waith mewn clinigau iechyd meddwl ledled y byd.

Meddai Dr Darren Edwards: “Mae ACTing Minds yn torri tir newydd drwy ddatblygu ymyriad seicolegol cymhleth llawn mewn gêm.

“Er bod gemau symlach megis deunydd ymwybyddiaeth ofalgar a Headspace wedi bod ar gael, rydyn ni ym Mhrifysgol Abertawe wedi ceisio gwthio'r ffiniau ym maes iechyd digidol.

“Mae problemau iechyd meddwl yn rhan o epidemig distaw. Felly, mae gemau fideo hygyrch ac ymyriadau eraill sy'n addysgu pobl ifanc am iechyd meddwl yn gynnar, ac sy'n lleihau stigma, yn bwysig.”

Er mwyn dysgu mwy am ACTing Minds a'i chwarae, ewch i siop apiau Apple.

Rhannu'r stori