Gŵyl y Gelli

Mae straeon byrion cwiar o Gymru, lleisiau pob dydd o bandemig Covid-19, a chyfrol fuddugol Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe eleni ymhlith y pynciau'n sy'n barod i ddifyrru cynulleidfaoedd yng Ngŵyl y Gelli wrth iddi gael ei chynnal am y 35ed tro  rhwng 26 Mai a 5 Mehefin.

Bydd rhaglen yr ŵyl, a gynhelir wyneb yn wyneb yn y gwanwyn am y tro cyntaf ers 2019, yn cynnwys mwy na 600 o ysgrifenwyr, llunwyr polisi byd-eang, arloeswyr a phobl flaengar arobryn mewn sgyrsiau, perfformiadau a thrafodaethau, a bydd digwyddiadau HAYDAYS yn rhoi'r cyfle i ddarllenwyr ifanc gwrdd â'u harwyr a bod yn greadigol.

Mae sawl academydd o Brifysgol Abertawe ar raglen yr ŵyl eleni, fel rhan o bartneriaeth barhaus y Brifysgol â'r achlysur diwylliannol a llenyddol uchel ei fri.

Yn ei ddarlith amser cinio, bydd Dr Michael Ward yn trafod sut lansiwyd y prosiect DyddiaduronCorona er mwyn cofnodi profiadau pob dydd pobl o bandemig Covid-19. Bydd yn dangos sut mae profiadau pobl o'r pandemig wedi bod yn wahanol iawn ym mhob rhan o'n cymdeithas.

Bydd yr Athro Kirsti Bohata, Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru ym Mhrifysgol Abertawe (CREW), yn ymuno â Dylan Huw, Crystal Jeans a David Llewellyn yn Queer Square Mile – Queer Short Stories from Wales wrth iddynt drafod pwysigrwydd y stori fer wrth ddatblygu a phortreadu diwylliant cwiar er mwyn dathlu cyhoeddiad antholeg arloesol o ysgrifennu cwiar o Gymru.

Bydd enillydd Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe (a gyhoeddir ar 12 Mai) yn sgwrsio ag Alan Bilton, awdur ac aelod o banel beirniadu'r wobr yn 2022. Dyfernir y wobr am y gwaith llenyddol cyhoeddedig gorau yn Saesneg gan awdur 39 oed neu'n iau. Mae'n dathlu ffuglen ryngwladol o bob math, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a dramâu. Enwyd y wobr ar ôl y llenor a anwyd yn Abertawe ac mae'n dathlu 39 o flynyddoedd o greadigrwydd a chynhyrchedd gan un o ysgrifenwyr mwyaf dylanwadol a rhyngwladol adnabyddus canol yr 20fed ganrif.

Ddydd Iau 2 Mehefin, bydd cyn-ysgrifennydd gwladol yr Unol Daleithiau ac un o gymrodorion er anrhydedd Prifysgol Abertawe Hillary Clinton yn ymuno â'r Farwnes Helena Kennedy, ymgyrchydd taer dros hawliau dinesig, a byddant yn trafod apêl barhaus Clinton, sut gallwn amgyffred heriau'r adeg hanesyddol bresennol gyda'n gilydd, ac, yn gysylltiedig â hynny, obeithion Clinton ar gyfer y dyfodol.

Mewn digwyddiad rhyngweithiol, bydd Eric Ngalle Charles, a raddiodd o Abertawe, yn rhannu straeon am leoedd, cofio ac iaith wedi'u hysbrydoli gan ei gasgliad cyntaf o gerddi, Homelands, a bydd Rebecca F John, cyn-fyfyriwr arall ac awdur a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Costa, yn archwilio sut mae ffuglen hanesyddol yn taflu goleuni ar y byd ar y Starlight Stage.

Gweler rhestr lawn Gŵyl y Gelli.

Mae tocynnau bellach ar werth (gostyngiad gwerth 25% ar gyfer myfyrwyr rhwng 18 a 25 oed) a chaiff nifer cyfyngedig o ddigwyddiadau dethol eu ffrydio. Cyhoeddir y rhestr, a bydd pasys ar-lein i'r ŵyl ar gael i'w prynu, o 17 Mai.

Rhannu'r stori