Llun o'r awyr o chwe aelod o dîm RICE a ROCKWOOL a ddangoswyd yn yr uned arddangos ar ôl iddi gael ei gosod yn llwyddiannus. Cedwir yr uned mewn cynhwysydd storio glas a chaets dur.

Fel rhan o drefniant cydweithio rhwng ymchwilwyr yn y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) ym Mhrifysgol Abertawe a’r cynhyrchydd inswleiddio ROCKWOOL Limited, bydd uned arddangos newydd ar gyfer carbon deuocsid yn cael ei osod ar safle gweithgynhyrchu’r cwmni ym Mhen-y-bont, De Cymru.

Mae’r ymchwil, sy’n ymwneud â chipio nwy carbon deuocsid, yn gyfraniad technolegol pwysig i alluogi Cymru a’r Deyrnas Unedig i gyflawni carbon sero net erbyn 2050.

Mae’r uned arddangos, a fydd yn cipio allyriadau carbon deuocsid (CO2) o brosesau gweithgynhyrchu cynnyrch inswleiddio, yn cael ei datblygu fel rhan o’r prosiect £11.5m Lleihau Allyriadau Carbon Diwydiannol (RICE), sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, gyda’r nod o greu arddangosiadau graddfa ddiwydiannol o dechnoleg newydd.

Deunydd inswleiddio sy’n deillio o gerrig yw inswleiddio ROCKWOOL, mae’n anorganig, ac yn ddelfrydol ar gyfer inswleiddio thermol, i amddiffyn rhag tân, ar gyfer rheolaeth acwstig ac at ddibenion amgylcheddol. Mae’n deillio o ddyddodion lafa toreithiog creigiau folcanig, sy’n cael eu toddi mewn ffwrnais cwpola sydd fel petai’n creu llosgfynydd rheoledig o waith pobl. Wrth i’r lafa sydd wedi aildoddi ddod allan o’r ffwrnais, mae’n cael ei wehyddu, a’i glymu i greu cnu tebyg i wlân cyn cael ei dorri, ei siapio a’i gyfuno yn llawer o wahanol gynhyrchion ar gyfer amrywiaeth eang o gymwysiadau, gan gynnwys adeiladau, systemau, gwasanaethau, defnyddiau morol ac oddi ar y lan.

Fel man sy’n ffynhonnell ar gyfer CO2, mae safle gwaith ROCKWOOL yn lleoliad gwerthfawr i ymchwilwyr RICE beilota eu technoleg. I gychwyn bydd yr ymchwilwyr yn gosod sbectromedr màs i ddadansoddi allyriadau nwy cyfleusterau gweithgynhyrchu ROCKWOOL, gan gasglu gwybodaeth fanwl a fydd yn llywio’r system wahanu. Trwy ddefnyddio gwahanol ddeunyddiau arsugno ac amrywiol amodau, bydd yr ymchwilwyr yn cynnal treialon i bennu’r trefniant mwyaf effeithiol ar gyfer tynnu’r carbon deuocsid. Bydd yr uned arddangos yn cynnwys uned Arsugno Osgiliad Gwasgedd (PSA) ar ôl ei gosod yn llawn, a bydd hynny’n gwahanu carbon deuocsid oddi wrth y gymysgedd o nwyon a allyrrir. 

Yn arwain y gwaith hwn mae Dr Enrico Andreoli a’i dîm, sy’n rhan o’r Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni.

“Mae hwn yn gyfle eithriadol i’n tîm fynd i’r afael ag allyriadau carbon yng Nghymru. Mae agwedd gefnogol a blaengar ROCKWOOL yn ein helpu i osod ein technoleg ar y safle, gyda’r nod o ddarparu ateb cipio carbon wedi’i deilwra, er mwyn llywio dichonoldeb cynyddu’r raddfa yn y dyfodol a phrofi deunyddiau lefel uwch.”

Bydd data o’r unedau ar safle ROCKWOOL ym Mhen-y-bont yn cael eu monitro gan ymchwilwyr RICE ar y safle i sicrhau bod y system yn gweithredu ar lefelau optimwm ac i ganfod gwelliannau posibl. Mae cael mynediad at gyfleusterau diwydiannol er mwyn cynyddu graddfa’r unedau arddangos yn rhan hanfodol o brosiect RICE, ac mae ROCKWOOL wedi bod yn bartner brwd yn y prosiect. 

Dywedodd Darryl Matthews, Rheolwr Gyfarwyddwr ROCKWOOL Ltd: “Mae ROCKWOOL Group yn ymroddedig i weithredu’n gynaliadwy ers meitin, ac ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddodd ROCKWOOL ymrwymiadau i gyflymu datgarboneiddio ein busnes, gyda thargedau hirdymor penodol a ddilyswyd ac a gymeradwywyd gan y fenter Targedau Seiliedig ar Wyddoniaeth. Fel rhan o’r ymgyrch hon rydym wrth ein bodd yn gweithio mewn partneriaeth â’r Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni ym Mhrifysgol Abertawe ac yn bod yn rhan o brosiect RICE, sy’n peilota technoleg newydd a luniwyd i gipio allyriadau CO2. Rydym yn gyffrous ynghylch ei botensial i gefnogi’r ymgyrch i gyrraedd sero net.”

Wedi i’r uned gael ei lleoli’n llwyddiannus ar safle ROCKWOOL, gallai unedau pellach gael eu lleoli ar safleoedd diwydiannol eraill.   

Crynhôdd yr Athro Andrew Barron, Prif Ymchwilydd prosiect RICE, y cyflawniad fel hyn,

“Wrth i 2050 nesáu’n gyflym, mae’r cyfnod ymchwil wedi mynd heibio, ac mae’n hanfodol bod y dechnoleg newydd yn cyrraedd safleoedd diwydiannol er mwyn dangos dichonolrwydd. Mae partneriaid fel Rockwool yn hollbwysig i gyflawni’r nod hwn.”

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi yn Llywodraeth Cymru:

“Dyma’r partneriaethau a fydd yn sbarduno economi gryfach a mwy gwyrdd yng Nghymru. Mae rhoi arbenigedd o’r radd flaenaf ar waith yn hanfodol ar gyfer ein taith at sero net, ac mae’r gwaith hwn yn golygu y bydd Pen-y-bont yn chwarae rhan arweiniol yn y datblygiadau cyffrous hyn. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu cefnogi’r prosiect trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.”

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma

Rhannu'r stori