Ffiseg

Mae'r grŵp Ffiseg Gronynnau a Chosmoleg Ddamcaniaethol yn Adran Ffiseg Prifysgol Abertawe yn un o 25 sefydliad yn y DU y dyfarnwyd mwy nag £20m iddynt er mwyn ehangu a phrofi damcaniaethau ynghylch sut mae'r bydysawd yn gweithio.

Mae ffisegwyr gronynnau damcaniaethol y DU wedi arwain y ffordd yn fyd-eang ers amser maith, gan gynnwys enillwyr Gwobr Nobel, ac maent yn parhau i wneud hynny mewn meysydd megis damcaniaeth mater tywyll.

Mae STFC wedi dyfarnu'r grantiau i ymchwilwyr sy'n ymchwilio i bum thema allweddol ym maes ffiseg ddamcaniaethol:

  • Cosmoleg – y ddamcaniaeth rydym yn ei defnyddio er mwyn ceisio disgrifio eiliadau cynharaf y bydysawd a sut esblygodd y bydysawd.
  • Damcaniaeth maes dellt – mae'r ddamcaniaeth hon yn ymwneud â phrofi terfynau'r Model Safonol drwy ganfod, er enghraifft, fàs ffisegol gronynnau a phrofi sut maent yn cymharu â'r Model Safonol.
  • Ffenomenoleg – astudio blociau adeiladu elfennol yr holl fater yn y bydysawd a'r grymoedd sylfaenol sy'n gweithredu rhyngddynt.
  • Damcaniaeth maes cwantwm – fframwaith damcaniaethol sy'n cyfuno llawer o egwyddorion er mwyn esbonio ymddygiadau gronynnau isatomig a'u rhyngweithiadau.
  • Damcaniaeth linynnol – astudio sut mae gronynnau'n rhyngweithio, gan dybio bod gronynnau'n debycach i linynnau un dimensiwn na phwyntiau.

Bydd y grant yn galluogi'r grŵp yn Abertawe i benodi o leiaf chwe ymchwilydd ôl-ddoethurol yn y meysydd ymchwil y mae'r grŵp yn gweithredu ynddynt: damcaniaeth linynnol/damcaniaeth M, tyllau duon cwantwm a holograffeg; cosmoleg a thonnau disgyrchiant; ffiseg cyplysu cryf y tu hwnt i'r Model Safonol; a QCD o dan amodau eithafol, damcaniaeth maes dellt a dysgu peirianyddol. Yn ogystal, bydd y grant yn talu am deithiau, nwyddau traul ac amser staff cymorth.

Meddai Karen Clifford, Pennaeth Rhaglen Ffiseg Gronynnau STFC: “Mae damcaniaethwyr yn hanfodol i sylfaen wyddonol gyfan y DU, yn ogystal â'n dealltwriaeth o'r bydysawd. Maen nhw'n gwneud cyfraniad hollbwysig wrth hyrwyddo gwyddoniaeth, gan helpu i ysbrydoli ymchwilwyr y genhedlaeth nesaf.

“Mae ffisegwyr damcaniaethol hefyd yn gwneud cyfraniad hollbwysig at addysgu mewn adrannau mathemateg a ffiseg oherwydd eu gwybodaeth eang a'u gallu i esbonio pynciau cymhleth mewn modd clir.

“Drwy'r cyllid hwn, rydyn ni'n gobeithio y bydd rhagoriaeth fyd-eang y DU yn y maes hwn yn parhau.”

Meddai'r Athro Gert Aarts, Prif Ymchwilydd: “Mae'r grant newydd yn gam ymlaen o Grant Cyfunol blaenorol STFC, o 2020 i 2023, wrth i'w werth gynyddu o £1.3m i £1.6m ac wrth i flynyddoedd y cynorthwywyr ymchwil ôl-ddoethurol gynyddu o saith i 13. Mae hyn yn tanlinellu cryfder y grŵp ar draws amrywiaeth eang o bynciau ym maes ffiseg gronynnau a chosmoleg ddamcaniaethol.”

Meddai'r Athro Prem Kumar, Cyd-bennaeth yr Adran: “Mae ffisegwyr damcaniaethol yn ceisio deall y rheolau mwyaf sylfaenol sy'n llywio ein bydysawd, o elfennau isorweddol mater a grymoedd natur i strwythur gofod ac amser ei hun, o'r patrymedd is-niwclear i dyllau duon a'r bydysawd cynnar. Mae'r dyfarniad hwn yn cydnabod cryfder traddodiadol grŵp ffiseg ddamcaniaethol Abertawe, yr unig un o'i fath yng Nghymru, ac yn tanlinellu cyfraniad canolog ymchwil heb gyfyngiadau sy'n seiliedig ar chwilfrydedd at wyddoniaeth fodern.”

Bydd y grant ar waith am dair blynedd o fis Hydref 2023.

Mae'r sefydliadau eraill a fydd yn elwa o'r cyllid grant tair blynedd fel a ganlyn:

  • Prifysgol Caergrawnt
  • Prifysgol Dinas Llundain
  • Y Sefydliad Ffenomenoleg Ffiseg Gronynnau, Prifysgol Durham
  • Prifysgol Caeredin
  • Prifysgol Glasgow          
  • Coleg Imperial, Llundain          
  • Coleg y Brenin Llundain
  • Prifysgol Lerpwl
  • Prifysgol Manceinion
  • Prifysgol Newcastle
  • Prifysgol Nottingham
  • Prifysgol Rhydychen
  • Prifysgol Plymouth           
  • Prifysgol y Frenhines Mair, Llundain
  • Prifysgol Southampton   
  • Prifysgol Surrey  
  • Coleg Prifysgol Llundain
  • Consortiwm Prifysgol Durham a Phrifysgol Newcastle
  • Prifysgol Sheffield a Phrifysgol Caerhirfryn
  • Consortiwm Prifysgol Sussex
  • Consortiwm Deppisch Coleg Prifysgol Llundain

Rhannu'r stori