Yn ogystal â'r arolwg, mae prosiect ymchwil Freja (yn y llun) hefyd yn defnyddio gardiau ceg sy'n synhwyro trawiadau ac yn dadansoddi fideos er mwyn deall sut mae trawiadau i’r pen yn ystod gemau yn effeithio ar fenywod sy'n chwarae rygbi.

Yn ogystal â'r arolwg, mae prosiect ymchwil Freja (yn y llun) hefyd yn defnyddio gardiau ceg sy'n synhwyro trawiadau ac yn dadansoddi fideos er mwyn deall sut mae trawiadau i’r pen yn ystod gemau yn effeithio ar fenywod sy'n chwarae rygbi.

Wrth i gyfergydion yn y byd rygbi gael sylw helaeth, mae ymchwilydd o Brifysgol Abertawe'n gwahodd chwaraewyr rygbi ddoe a heddiw i'w helpu i ymchwilio i drawiadau i’r pen, drwy rannu eu profiadau'n ddienw drwy arolwg.

Y nod yw helpu i sicrhau bod chwaraewyr ar bob lefel yn elwa o'r dull gorau posib o atal a rheoli anafiadau.

Mae Freja Petrie yn ymchwilydd PhD yn yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n ymchwilio i brofiadau chwaraewyr rygbi – sef dynion a menywod – o drawiadau i’r pen a strategaethau a all leihau eu difrifoldeb.

Mae ymchwil wedi dangos bod trawiadau i’r pen yn cael effaith wahanol ar fenywod a dynion, a bod gyddfau menywod yn wannach, o ganlyniad i wahaniaethau o ran rhyw biolegol a rhywedd cymdeithasol. Mae menywod hefyd yn fwy tebygol o gymryd amser hwy i wella ar ôl cael cyfergyd na dynion.

Mae deall profiadau chwaraewyr rygbi'n ganolog i ymchwil Freja. Mae'n gobeithio y bydd yr arolwg yn rhoi gwybodaeth a data gwerthfawr am brofiadau chwaraewyr a'r adnoddau sydd ar gael iddynt, megis gofal iechyd wrth ochr y cae.

Y nod yw defnyddio'r data fel tystiolaeth i ddangos sut dylid llunio protocolau atal a rheoli anafiadau, er mwyn sicrhau eu bod yn addas i’r gamp ar bob lefel.

Bydd Freja yn dadansoddi data'r holiadur i nodi'r pynciau a'r themâu allweddol i feithrin dealltwriaeth allweddol.

Mae modd cwblhau'r arolwg nawr. Gall unrhyw un sy'n chwarae rygbi o hyd neu sydd wedi ymddeol o'r gamp yn y DU – ar unrhyw lefel – ei gwblhau.

  • Ar agor i bob chwaraewr rygbi'r undeb dros 18 oed
  • Chwaraewyr ddoe a heddiw
  • Lefelau proffesiynol a chymunedol

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth a dechreuwch yr arolwg

Disgrifiodd Freja Petrie yr arolwg a sut byddai'r canfyddiadau'n cael eu defnyddio:

“Nod y cwbl yw gwella ein dealltwriaeth o'r adnoddau hyfforddiant a gofal iechyd sydd ar gael i chwaraewyr rygbi a sut gall hyn effeithio ar eu gallu i fwynhau'r gamp yn ddiogel. Er mwyn sicrhau bod ein hymchwil yn berthnasol i sefyllfaoedd bywyd go iawn, mae angen i ni gyfuno ymchwiliadau biofeddygol â phrofiadau chwaraewyr.

“Bydd yr wybodaeth o'r arolwg yn cael ei defnyddio fel tystiolaeth bwysig ynghylch y dull gorau o atal a rheoli trawiadau i’r pen, er mwyn diogelu chwaraewyr ar bob lefel.

“Mae'r arolwg yn ddienw a gallwch ei gwblhau o fewn pum munud, yn eich amser eich hun. Gallwch hefyd gysylltu â ni os oes gennych gwestiynau – mae ein manylion yn yr arolwg.

“Rydyn ni hefyd wedi cynnwys dewis lle gall pobl ddweud a fyddent yn barod i ddarparu rhagor o wybodaeth mewn cyfweliad, wyneb yn wyneb neu ar-lein. Ond mae hyn yn gwbl ddewisol. Pe baech yn gwirfoddoli am gyfweliad, byddai hynny'n ddienw hefyd.”

Yn ogystal â'r arolwg, mae prosiect ymchwil Freja hefyd yn defnyddio gardiau ceg sy'n synhwyro trawiadau ac yn dadansoddi fideos er mwyn deall sut mae trawiadau i’r pen yn ystod gemau yn effeithio ar fenywod sy'n chwarae rygbi.

Mae hefyd yn cynnal hyfforddiant a phrofion ynghylch cryfder gyddfau chwaraewyr fel dull posib o leihau nifer y trawiadau i’r pen sy'n effeithio ar chwaraewyr. Mae'n defnyddio dyfais arloesol i brofi cryfder gyddfau, a gafodd ei dyfeisio gan Dr Elisabeth Williams, uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe. Gall hon gofnodi data amlgyfeiriad o safon uchel am gryfder ac anghydbwysedd cyhyrau gyddfau. Yn ogystal â helpu gyda'r ymchwil, gellir defnyddio'r data er mwyn cynnig adborth unigol i chwaraewyr.

Rhannu'r stori