The National Covid Memorial Wall yn Llundain

Mae astudiaeth gan Brifysgol Abertawe yn chwilio am gyfranogwyr i archwilio profiadau'r cyhoedd o brofedigaeth yn ystod pandemig Covid-19 a gofyn am eu barn ynghylch sut ymdriniwyd â'r pandemig, a'r cymorth, neu'r diffyg cymorth, a gawsant.

Dr Simon Williams, Darlithydd mewn Seicoleg yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe, sy'n arwain yr ymchwil.

Mae Dr Williams yn chwilio am oedolion sy'n teimlo eu bod wedi cael profedigaeth o ganlyniad i bandemig Covid-19 i gymryd rhan yn yr astudiaeth. Gall cyfranogwyr gyflwyno eu sylwadau naill ai drwy gymryd rhan mewn arolwg ar-lein byr, grŵp ffocws ar-lein neu gyfweliad drwy Zoom, neu drwy e-bostio eu dogfennau eu hunain megis cofnod mewn dyddiadur neu flog. Mae cyfranogiad yn y prosiect yn gwbl wirfoddol.

Caiff yr holl ddata a gesglir ar gyfer yr astudiaeth ei storio a'i ddefnyddio'n gyfrinachol, a bydd yr ymatebion yn aros yn ddienw mewn adroddiadau, cyhoeddiadau neu storfeydd data.

I fod yn gymwys i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon, rhaid i gyfranogwyr fod yn 18 oed neu'n hŷn, byw yn y DU a theimlo eu bod wedi cael profedigaeth o ganlyniad i Covid-19 (e.e. wedi colli aelod teulu, ffrind neu berthynas agos i Covid-19).

Meddai Dr Williams: “Mae'r prosiect Coronavoices yn ceisio lleisio gwirionedd y bobl i'r rhai sydd mewn grym. Wrth i'n cymdeithas geisio deall ac wrth i'r ymchwiliadau swyddogol i Covid-19 barhau, mae ymchwil academaidd annibynnol sy'n ceisio archwilio straeon y cyhoedd am y pandemig, a phrofiadau pobl o golled a'u myfyrdodau am y cymorth, neu'r diffyg cymorth, a gawson nhw yn hanfodol.

“Yn ystod dwy flynedd o'r pandemig, bu Covid-19 yn gyfrifol am fwy na 200,000 o farwolaethau yn y DU. Gall ymchwil ansoddol helpu i archwilio'r straeon sy'n gysylltiedig â'r anawsterau, yr heriau a'r dioddefaint y gall pandemig byd-eang eu hachosi, a darparu'r 'profiadau byw' sydd y tu ôl i farwolaeth, o safbwynt ffrindiau agos ac aelodau teulu. Bydd yr ymchwil hon yn cofnodi, yn archwilio ac yn dadansoddi straeon pobl am golled, profedigaeth a galar yn ystod pandemig Covid-19. Bydd hefyd yn archwilio eu myfyrdodau am y ffordd yr ymdriniwyd â'r pandemig, y cymorth, neu'r diffyg cymorth, a gawson nhw a'r hyn a allai fod wedi cael ei wneud yn wahanol.”

Mae'r ymchwil hon wedi cael ei chymeradwyo gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am yr astudiaeth, e-bostiwch Dr Simon Williams.

Cwblhewch yr arolwg ar-lein.

Rhannu'r stori