Leinio i fyny o ddwy fenyw a dyn yr un yn dal medal

Mae tri academydd o Brifysgol Abertawe ymhlith enillwyr diweddaraf medalau Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mae dyfarnu'r medalau hyn yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn i'r Gymdeithas. Mae'r medalau’n cydnabod rhagoriaeth ymchwil ym meysydd gwyddoniaeth, addysg, y gwyddorau cymdeithasol a’r dyniaethau yng Nghymru. Maent yn dathlu cyfraniadau rhagorol at ymchwil ac ysgolheictod. 

Mae'r enillwyr eleni'n cynnwys: 

Yr Athro Ann John: Medal Frances Hoggan

Mae Medal Frances Hoggan yn dathlu ymchwil ragorol gan fenywod ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, meddygaeth a mathemateg (STEMM). 

Mae ymchwil yr Athro John yn canolbwyntio ar iechyd meddwl ac atal hunanladdiad a hunan-niweidio; mae ei gwaith rheolaidd yn y cyfryngau yn ddylanwadol wrth lunio'r ffordd y mae hunanladdiad yn cael ei bortreadu. 

Yn ogystal, cyflwynodd yr Athro John, sy'n dal cadair bersonol mewn iechyd cyhoeddus a seiciatreg yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, gyngor gwyddonol i gyrff llywodraethol yn ystod pandemig Covid. 

Meddai: “Mae'n anrhydedd i mi dderbyn Medal Frances Hogan am fy ngwaith ar iechyd meddwl plant ac atal hunanladdiad,  yn enwedig gan fod y fedal yn enw meddyg benywaidd arloesol a ganolbwyntiodd ar iechyd y boblogaeth ac atal.” 

Yr Athro Kenneth Morgan: Medal Menelaus

Mae Medal Menelaus yn dathlu rhagoriaeth mewn peirianneg.

Mae Kenneth Morgan, o'r Ysgol Peirianneg Awyrofod, Sifil, Drydanol, Gyffredinol a Mecanyddol, wedi gweithio ers sawl degawd ar ddatblygu modelau cyfrifiadurol at ddibenion dadansoddi peirianneg. Mae'r gwaith hwn wedi cael effaith neilltuol ar y ffordd y mae diwydiannau awyrofod yn defnyddio efelychiadau cyfrifiadurol ar gyfer dylunio a dadansoddi. 

Meddai: “Mae'n anrhydedd ac yn fraint i mi dderbyn y wobr uchel ei bri hon. Mae peirianneg gyfrifiadol bellach yn cael ei defnyddio ym myd diwydiant i lywio'r broses o greu dyluniadau newydd. 

“Cyfrannodd fy ngwaith ar ddatblygu technoleg gridiau distrwythur at wella'n sylweddol effeithlonrwydd peirianneg gyfrifiadol, yn enwedig yn y sector awyrofod.” 

Dr Hayley Young: Medal Dillwyn (Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg a Busnes)

Mae Medal Dillwyn yn dathlu ymchwilwyr gyrfa gynnar rhagorol Cymru.

Mae Dr Young yn athro cysylltiol yn yr Ysgol Seicoleg sy'n ymchwilio i ddatblygiad bwydydd sy'n hybu hwyliau a gwybyddiaeth, gyda goblygiadau i'r ffordd y mae plant yn dysgu a sut mae heneiddio'n effeithio ar y cof. Mae awdurdodau yng Nghymru ac ym mhedwar ban byd yn ceisio ei chyngor. 

Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru'n cefnogi Medalau Dillwyn. 

Meddai: “Mae'n anrhydedd ac yn fraint aruthrol i mi gael fy nghydnabod. Mae fy ymchwil yn ystyried effaith bwydydd ar hwyliau a gwybyddiaeth, gyda goblygiadau i'r ffordd mae plant yn dysgu a sut mae heneiddio'n effeithio ar y cof.

“Mae sicrhau bod gan bawb yng Nghymru a'r tu hwnt fynediad at fwyd iach a maethlon i gefnogi ei gorff a'i ymennydd yn hynod bwysig, ac rwyf mor falch o fod yn rhan o gymuned ymchwil sy'n ceisio gwireddu’r nod hwnnw.”

 

 

Rhannu'r stori