Darlith Zienkiewicz Flynyddol Prifysgol Abertawe'n dychwelyd.

Nos Fercher, 9 Tachwedd, bydd Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe'n cynnal Darlith Zienkiewicz am y chweched tro, gyda'r Athro Syr Jim McDonald, BSc, MSc, PhD, DSc, CEng, un o beirianwyr mwyaf medrus yr Alban, yn siaradwr gwadd uchel ei fri.

Cyflwynwyd y gyfres er cof am yr Athro Olek Zienkiewicz, arbenigwr rhyngwladol ym maes mecaneg gyfrifiadol, a'r dull elfen feidraidd yn benodol.

Eleni, yn ogystal â chinio ffurfiol yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, caiff Darlith Zienkiewicz ei ffrydio'n fyw ar YouTube, gan roi cyfle unigryw i ddisgyblion chweched dosbarth, myfyrwyr prifysgol a'r cyhoedd wrando ar siaradwr sydd â chysylltiad agos â byd diwydiant, llywodraeth a'r byd academaidd.

Meddai'r Athro Perumal Nithiarasu, Deon Cysylltiol Ymchwil, Arloesi ac Effaith yng Nghanolfan Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe a Chadeirydd Pwyllgor Darlith Zienkiewicz: “Mae Prifysgol Abertawe'n arwain y ffordd yn fyd-eang ym maes mecaneg gyfrifiadol a sefydlwyd yr enw da hwnnw drwy waith arloesol yr Athro Olek Zienkiewicz.

“Mae Darlith Zienkiewicz, a gynhelir bob blwyddyn, yn gyfle gwych i groesawu ymchwilwyr a dylanwadwyr uchel eu parch o ran gwyddoniaeth a pheirianneg amlddisgyblaethol i gyflwyno eu barn am bwysigrwydd y sector, sy'n tyfu o hyd, wrth geisio mynd i'r afael â heriau byd-eang eithafol, megis newid yn yr hinsawdd.

“Bydd y ddarlith eleni, a draddodir gan yr Athro Syr Jim McDonald, yn hwyluso trafodaeth hollbwysig am y weledigaeth o ddyfodol heb garbon a newid parhaol tuag at ynni adnewyddadwy cyn 2050.

Bydd yr Athro Syr McDonald yn traddodi darlith o'r enw ‘A Whole Systems Approach to achieving Net Zero: a 21st Century Energy System’.

Bydd y ddarlith yn trafod yr angen i ailgynllunio a gweithredu system ynni newydd sy'n gwreiddio amcanion sero net yn y broses galw a chyflenwad er mwyn mynd i'r afael â her newid yn yr hinsawdd.

Bydd yr ateb i’r broblem driphlyg o ddatgarboneiddio ynni, costau a diogelwch – yn ogystal â’r angen am dderbyniad cymdeithasol a gwerth economaidd – yn ganolog i hyn.

Bydd y sgwrs hefyd yn cyflwyno fframwaith ar gyfer ymagwedd systemau cyfan at dechnoleg, arloesi, polisi, sgiliau a buddsoddi, gydag enghreifftiau dan sawl thema ynni, gan gynnwys gwynt ar y môr, gridiau clyfar, DC ac awtonomaidd, hydrogen, yr amgylchedd adeiledig ac ynni niwclear.

Mae gan yr Athro Syr McDonald raddau BSc, MSc a PhD ym maes peirianneg drydanol, systemau pŵer ac economeg ynni.

Ers 2009, mae wedi bod yn Bennaeth ac yn Is-ganghellor Prifysgol Strathclyde, ar ôl gweithio mewn swyddi allweddol yn Rolls-Royce, gan arwain at fod yn Ddirprwy Bennaeth dros Ymchwil a Chyfnewid Gwybodaeth.

Ym mis Hydref 2019, cafodd yr Athro Syr McDonald ei ethol yn Llywydd yr Academi Frenhinol Peirianneg (RAEng). Ef oedd yr Albanwr cyntaf i ddal y swydd honno.

Meddai'r Athro Syr Jim McDonald: “Mae'n anrhydedd cael traddodi Darlith Zienkiewicz a thrafod mater mwyaf heriol y ganrif hon, sef newid yn yr hinsawdd.

“Drwy fabwysiadu ymagweddau peirianneg a systemau cyfan at nodi atebion a'u rhoi ar waith, mae gennym ni gyfle i symud ar raddfa fawr ac ar frys i gyflymu'r gwaith o gyflawni sero net.

Gwyliwch Ddarlith Zienkiewicz 2022 yn fyw yn Saesneg ar YouTube nos Fercher, 9 Tachwedd am 6pm.

Rhannu'r stori