Menyw yn eistedd y tu allan yng nghefn gwlad gyda'i chefn at y camera

Gallai astudio gwyddor lles fel rhan o'u cyrsiau fod yn ffordd allweddol o wella sut mae myfyrwyr heddiw yn ymdopi â'r llu o bethau sy'n achosi straen iddynt, yn ôl ymchwil. 

Mae afiechyd meddwl yn risg fawr i fyfyrwyr wrth iddynt wynebu gofynion academaidd cynyddol, lefelau uchel o unigrwydd a phwysau ariannol parhaus, a all effeithio'n niweidiol ar iechyd meddwl.

Mae tîm o Brifysgol Abertawe bellach wedi bwrw golwg agosach ar ba effaith y byddai modiwl gwyddor lles dewisol a gynigir i israddedigion yn ei chael ar les myfyrwyr.

Mae'r ymchwil, gan yr Athro Andrew Kemp a'i gyd-awduron, Dr Zoe Fisher, seicolegydd clinigol ymgynghorol o Academi Iechyd a Lles y Brifysgol a Jessica Mead, myfyrwraig PhD, newydd gael ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn Teaching of Psychology.

Meddai'r Athro Kemp, sy'n arweinydd ymchwil yn yr Ysgol Seicoleg: “Mae lles myfyrwyr prifysgol yn gwaethygu, gan amlygu bod gan sefydliadau rôl hollbwysig wrth gefnogi lles myfyrwyr yn well.”

Mae astudiaethau blaenorol wedi archwilio effaith seicoleg gadarnhaol ar les myfyrwyr, ond aeth y modiwl hwn a grëwyd gan y tîm y tu hwnt i seicoleg gadarnhaol, gan ganolbwyntio ar hyrwyddo ymdeimlad o gysylltiad â'r hun, eraill, a natur.

Meddai: “Mae ymchwil yn dangos y gall materion megis anghydraddoldeb a newid anthropogenig yn yr hinsawdd ddylanwadu ar les. Mae ein modiwl yn annog pobl i fyfyrio ar y materion hyn a'r hyn y gallai myfyrwyr ei wneud i fynd i'r afael â materion cymdeithasol o bwys mawr.

“Er bod gallu unigolion i hyrwyddo eu lles eu hunain yn fwy na'u gallu i hyrwyddo lles torfol a lles y blaned, mae posibiliadau aruthrol o hyd i unigolion hyrwyddo lles torfol a lles y blaned ochr yn ochr ag ymdrechion cydweithredol, drwy wirfoddoli ac ymgyrchu effeithiol, er enghraifft.”

Defnyddiodd y tîm holiaduron er mwyn asesu lles myfyrwyr cyn y modiwl ac ar ôl ei gwblhau, ochr yn ochr â chanlyniadau grŵp rheoli cyfatebol na chwblhaodd y modiwl. Drwy gymariaethau â normau cyhoeddedig, amlygwyd ymhellach effaith fuddiol y modiwl.

Mae'r tîm yn datgan bod ei ymchwil yn arwyddocaol am sawl rheswm allweddol:

  • mae myfyrwyr yn wynebu risg uchel o ddatblygu anawsterau iechyd meddwl;
  • dangoswyd bod gwella lles yn lleihau costau gofal iechyd yn y dyfodol; ac
  • mae'r canfyddiadau'n dangos y gellir gwella lles er gwaethaf caledi a dioddefaint mawr.

Esboniodd yr Athro Kemp fod amseru'r astudiaeth yn arbennig o berthnasol: “Cynhaliwyd ein hastudiaeth yn ystod pandemig Covid ac mae'n dangos gallu modiwlau sydd wedi'u dylunio'n strategol i wella lles myfyrwyr ar adegau heriol.

“Mae gan y canfyddiadau hyn oblygiadau pwysig o ran meddwl am y ffordd y gallai'r sector addysg gefnogi lles ochr yn ochr â materion cymdeithasol eraill sy'n achosi straen, megis trychineb yr hinsawdd.”

Darllenwch ragor am ymchwil flaenorol y tîm i les

Rhannu'r stori