Llaw estynedig yn cyffwrdd â rhisgl coeden

Amlygwyd pwysigrwydd lles a'i gyfraniad at iechyd mewn papur newydd gan academyddion o Brifysgol Abertawe. 

Prosiect ymchwil cydweithredol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a'r Brifysgol yw GENIAL Science, a sefydlwyd ar y cyd gan yr Athro Andrew Kemp, o'r Ysgol Seicoleg. Mae'n cynnwys academyddion, clinigwyr, myfyrwyr PhD ac MSc ac mae'n ymrwymedig i ddatblygu damcaniaethau ac ymarferion sy'n ymwneud â lles.

Meddai'r Athro Kemp: “Mae ein cymdeithas yn wynebu sawl her gysylltiedig fawr a fydd yn cael effaith gynyddol sylweddol ar iechyd byd-eang ac mae'n ddyletswydd arnom yn y sector prifysgolion ac ymchwil i weithio tuag at oresgyn heriau o'r fath er mwyn hyrwyddo iechyd a lles unigolion, cymunedau a'r blaned.

“Rydym wedi nodi pwysigrwydd hyrwyddo lles wrth geisio gwella iechyd, yn enwedig mewn perthynas â phobl sy'n byw gyda chyflyrau cronig y mae'n rhaid eu rheoli, ac nad yw'n bosib iddynt gael eu hiacháu yn y rhan fwyaf o achosion.”

Yn y papur, mae'r Athro Kemp a'r seicolegydd clinigol ymgynghorol Dr Zoe Fisher, o Academi Iechyd a Lles y Brifysgol, yn amlinellu fframwaith trawsddisgyblaethol GENIAL a ddatblygwyd ganddynt er mwyn helpu i ddeall a gwella ‘iechyd cyfan’.

Meddai'r Athro Kemp: “Rydym yn dangos sut mae ein damcaniaeth wedi cael ei rhoi ar waith er mwyn gwella ‘iechyd cyfan’ mewn poblogaethau amrywiol, gan gynnwys myfyrwyr prifysgol a phobl sy'n byw gyda chyflyrau cronig."

Mae'r papur newydd gael ei gyhoeddi yn y cofnodolyn Global Advances in Health and Medicine ac mae'n amlinellu sut mae GENIAL Science wedi arwain at y canlynol:

  • Ailfynegi cysyniad cymhleth lles – a ddisgrifir yn aml fel ‘problem ddieflig’ – gan hwyluso cyfleoedd a fyddai'n cael eu colli fel arall;
  • Gwella profiad y myfyrwyr drwy fodiwl gwyddor lles a gynigir yn yr Ysgol Seicoleg sy'n ceisio hyrwyddo ymdeimlad o gysylltiad â'r hunan, pobl eraill a natur; a.
  • Gwella iechyd a lles drwy bartneriaethau strategol, gan oresgyn trefniadau gweithio ynysig hirsefydlog sydd wedi cyfyngu ar gyfleoedd i wella iechyd a lles yn y gorffennol.

O ganlyniad i waith y tîm, sydd wedi cael ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, cipiodd Dr Fisher y wobr uchel ei bri am gyfraniad rhagorol at gyflawni ymchwil yn y Gwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd.

Ychwanegodd yr Athro Kemp: “Rydym wedi gosod y sylfeini ar gyfer model gwyddonol trawsddisgyblaethol i ymdrin â lles sy'n cynnig potensial nas gwireddwyd eto i hyrwyddo ‘iechyd cyfan’ unigolion, cymunedau a natur, yng nghyd-destun llawer o'r heriau sylweddol sydd bellach yn wynebu'r ddynolryw, gan gynnwys trychineb yr hinsawdd.”

Darllenwch y papur Wellbeing, Whole Health and Societal Transformation: Theoretical Insights and Practical Applications yn ei gyfanrwydd.

 

Rhannu'r stori