Gwella palmentydd ffordd asffalt gan ddefnyddio nanogyfansoddion mwynol wedi’u peiriannu

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Dechnegol Braunschweig wedi datblygu rhwymydd asffalt newydd ac ecogyfeillgar ar y lefel nano.

Mae’r cynnyrch yn creu dosbarth newydd o ychwanegion asffalt cymysgedd cynnes (WMA) sy’n lleihau’r ynni a ddefnyddir yn sylweddol ac ar yr un pryd yn lleiafu anweddau ac allyriadau nwyon tŷ gwydr wrth gynhyrchu cymysgeddau asffalt o gymharu ag asffalt confensiynol, yn ogystal â gweithio’n effeithiol ar raddfa fawr.

Er mwyn cyflawni allyriadau carbon sero net, mae Highways UK yn cynyddu’r defnydd o WMA fel safon ar draws y gadwyn gyflenwi. O’u cymharu ag asffalt cymysgedd poeth confensiynol, gall technolegau WMA fod yn fwy effeithlon a lleihau’r carbon a gynhyrchir, gyda gostyngiad o hyd at 15% mewn lefelau CO2. Cynhyrchir WMAs ar dymereddau sydd hyd at 40°C yn is nag asffalt cyffredin a thrwy newid i’r rhain felly, byddai modd arbed oddeutu 61,000 o dunelli o CO2 bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig, sy’n cyfateb i arbed 300 miliwn o filltiroedd o deithiau moduro. 

Er mwyn rhoi sylw i’r materion hyn mewn technoleg WMA, mae tîm o Ganolfan Peirianneg Palmentydd Braunschweig (ISBS) yn Technische Universität Braunschweig a’r Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) ym Mhrifysgol Abertawe wedi darganfod y potensial i ddefnyddio nanogyfansoddion clai/silica mygedig wedi’u peiriannu fel rhwymwyr gwrth-heneiddio sydd nid yn unig yn gallu lleihau tymheredd ond hefyd oresgyn cyfyngiadau sylweddol a achosir yn sgîl bod yn agored i leithder.

Dywedodd yr ymchwilydd arweiniol, Dr Gِoshtasp Cheraghian:

"Mae’r astudiaeth a gyflwynwyd yn ymdrin â’r bwlch technegol sy’n bodoli mewn technoleg WMA. Mae ein nanogyfansawdd yn sylwedd cost-effeithiol a diwenwyn a all gael effaith sylweddol ar sefydlogrwydd WMA.

“Yn nodweddiadol, mae rhwymwyr asffalt yn gallu heneiddio oherwydd gwres, aer, golau’r haul a dŵr, sy’n cael effaith negyddol ar ansawdd y palmant ac yn eu gwneud yn llai gwydn.” medd Dr Sajad Kiani, “Gwelson ni fod ychwanegu gronynnau wedi’u hatgyfnerthu â mwynau nid yn unig yn lleihau ocsidiad a heneiddiad asffalt ond hefyd yn ymestyn oes palmant ffordd ac yn lleihau allyriadau cysylltiedig ag asffalt." 

Dywedodd yr Athro Andrew Barron, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr ESRI a Chadeirydd Ynni ac Amgylchedd Carbon Isel Sêr Cymru ym Mhrifysgol Abertawe:

“O gymharu â deunyddiau masnachol, mae ein datrysiad ni yn defnyddio crynodiadau is (llai na 0.3 wt.%) am ei fod yn gweithio’n well ar yr arwyneb, ac felly mae potensial iddo ddatrys rhai o’r heriau sy’n gysylltiedig â ffyrdd llai gwydn.” 

I grynhoi, dywedodd Dr Cheraghian:

"Gallai ein canlyniadau ar y rhyngweithiad moleciwlaidd rhwng nanoronynnau a rhwymwyr asffalt agor llwybrau newydd ar gyfer defnyddio nanodechnoleg newydd mewn peirianneg asffalt."

Mae modd darllen yr erthygl yn y Nanotechnology Reviews.

Rhannu'r stori