Menyw yn talu bil

Mae ymchwil newydd wedi canfod bod yr argyfwng costau byw'n cael effeithiau sylweddol ar iechyd meddwl a lles emosiynol pobl.

Canfu ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe fod yr argyfwng yn arwain at ragor o bryder a straen, a bod llawer o bobl, yn enwedig y rhai sy'n ennill incwm isel, yn poeni am yr ansicrwydd ynghylch y dyfodol.

Archwiliodd yr astudiaeth, gan Dr Simon Williams a Dr Kimberly Dienes o Brifysgol Abertawe, brofiadau pobl o'r argyfwng costau byw, sut roeddent yn meddwl ei fod yn effeithio ar eu hiechyd meddyliol a chorfforol, a'r hyn roeddent yn ei wneud i ymdopi â'r sefyllfa. Yn ogystal, ystyriodd yr astudiaeth, a gyhoeddir yn PsyArXiv*, sut roedd pandemig COVID-19 yn effeithio ar brofiadau pobl o'r argyfwng costau byw a'u barn amdano.

Mae'r ymchwilwyr wedi bod yn dilyn profiadau a lles pobl ers mis Mawrth 2020 fel rhan o astudiaeth Prifysgol Abertawe Barn y Cyhoedd am Bandemig y Coronafeirws.

Meddai Dr Williams: “Mae ein hastudiaeth yn dangos bod llawer o bobl yn cael problemau iechyd meddwl yn ystod yr argyfwng costau byw. Mae llawer o bryder ac ofn ynghylch y dyfodol, sy'n debygol o gynyddu wrth i'r argyfwng waethygu. Canfu ein hastudiaeth fod pobl yn gorfod cymryd camau eithafol i wresogi'r tŷ neu fwyta, er enghraifft, drwy ferwi'r tegell ac ychwanegu'r dŵr at ddŵr oer er mwyn cael bath cynnes, neu ddibynnu ar fanciau bwyd am fwyd.

“Dyw'r argyfwng costau byw ddim yn argyfwng cyfartal. Mae'r rhai sy'n ennill incwm isel neu ansicr neu sy'n byw mewn cymunedau difreintiedig yn profi lefelau uwch o bryder a'r ofn mwyaf ynghylch y dyfodol.  Meddai un cyfranogwr: “Beth yw'r bywyd hwn? Dydyn ni ddim yn byw. Mae'n debyg i fodoli. Dydyn ni ddim hyd yn oed yn bodoli.” 

Dyma rai o ganfyddiadau'r astudiaeth:

  • Mae pobl sy'n ennill incwm isel neu ansicr (trefniadau dim oriau) neu sy’n byw mewn cymunedau difreintiedig yn dioddef fwyaf, gan adrodd y lefelau uchaf o bryder, a'r ofn na fyddant yn gallu fforddio pethau hanfodol.
  • Mae'r rhai nad effeithir arnynt i'r un graddau eu hunain yn poeni am bobl eraill, yn enwedig aelodau o'u teulu neu eu cymuned sy'n agored i niwed, ac mae rhagor ohonynt yn rhoi arian neu fwyd i bobl y maent yn eu hadnabod yn hytrach nag elusennau.
  • Mae pobl yn teimlo nad oes ganddynt reolaeth dros eu bywydau ac yn poeni am ddyfodol ansicr neu lwm. Mae rhai'n profi diymadferthedd wedi'i ddysgu.
  • Mae'r argyfwng costau byw hefyd yn effeithio ar iechyd corfforol pobl a’u hymddygiad tuag at iechyd, gyda phobl yn adrodd eu bod yn bwyta bwyd llai iach (bwyd brys) neu eu bod yn methu fforddio eu bwydydd arferol.
  • Mae pandemig Covid-19 yn gwneud yr argyfwng costau byw'n anos i rai pobl, gan eu bod eisoes wedi profi dwy flynedd o bryder, straen ac ansicrwydd.
  • Yn achos rhai pobl eraill, efallai fod pandemig Covid-19 wedi eu paratoi i ymdopi'n well â'r argyfwng costau byw, naill ai drwy'r gwytnwch seicolegol roedd y pandemig wedi eu helpu i'w feithrin, neu drwy'r cymunedau a'r grwpiau cymorth cryfach roeddent wedi eu meithrin yn ystod y cyfnod hwnnw.

At ddibenion yr ymchwil, cynhaliwyd grwpiau ffocws ar-lein gyda chyfranogwyr yr astudiaeth rhwng 14 a 29 Medi 2022.

Ychwanegodd Dr Williams: “Mae angen i'r llywodraeth ac awdurdodau eraill ddod o hyd i ffyrdd o sianelu rhagor o adnoddau a chymorth i'r rhai sy’n fwyaf agored i niwed yn gymdeithasol ac yn economaidd gan y bydd yr argyfwng yn cael effeithiau dilynol ar iechyd, ac yn ehangu anghydraddoldebau iechyd.

“Mae'r ffaith ein bod ni'n ymgymryd â phandemig byd-eang wedi gwaethygu pethau. Mae pobl wedi profi dwy flynedd o bryder ac aberth. Mae ansicrwydd yn elfen allweddol o orbryder a gall straen cronig sy'n gysylltiedig â phryderon ariannol gael effeithiau sylweddol ar iechyd meddyliol a chorfforol dros amser.

“Fodd bynnag, mae rhywfaint o destun gobaith. Adroddodd rhai pobl, ond nid y bobl sy'n fwyaf agored i niwed gan amlaf, fod y profiad o fyw yn ystod pandemig wedi cynyddu eu gwytnwch, ac roedd rhai ohonynt yn bwriadu parhau â'r arferion iach, costeffeithiol megis coginio gartref neu ymarfer corff gartref a fabwysiadwyd ganddynt yn ystod argyfwng COVID. Roedd rhai'n teimlo bod eu cymunedau wedi dysgu i gyd-dynnu yn ystod y pandemig ac y gallen nhw wneud hynny eto yn ystod yr argyfwng costau byw.”

*Cyhoeddir yr adroddiad yn PsyArXiv, gwasanaeth rhagargraffu ar gyfer y gwyddorau seicolegol. Nid yw rhagargraffiadau wedi cael eu hardystio eto drwy adolygiad gan gymheiriaid ac ni ddylid eu defnyddio i lywio ymarfer clinigol.

Rhannu'r stori