Yr Her
Mae pandemig y coronafeirws yn peri’r her fwyaf i iechyd cyhoeddus o fewn cof. I geisio arafu ymlediad y feirws, cyflwynodd gwledydd ledled y byd – gan gynnwys y DU – gyfnod o reolau caeth ynghylch cadw pellter cymdeithasol, neu gyfyngiadau symud. Fodd bynnag, oherwydd ehangder digynsail y cyfyngiadau symud, mae’r effeithiau cymdeithasol a seicolegol yn anhysbys. Mae Dr Simon Williams o’r Ganolfan ar gyfer Pobl a Sefydliadau yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe’n ac mae Dr Kimberly Dienes, o'r Adran Seicoleg yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, yn arwain prosiet, ar y cyd â chydweithredwyr ym Mhrifysgol Manceinion a Sefydliad Iechyd y Byd, i archwilio barn cyhoedd y DU yn ystod y pandemig.