Gweithgarwch corfforol ac iechyd ymhlith plan

Rydym yn gwella iechyd plant

Rydym yn gwella iechyd plant

Yr Her

Wrth i fwyfwy o bobl eistedd am ran fwyaf y dydd, mae’n bwysig annog pobl o bob oedran nid yn unig i fod yn fwy actif, ond hefyd i ddeall y rhesymau pam mae hyn mor bwysig. Caiff sicrhau gweithgarwch corfforol yn arfer dyddiol ei gydnabod fel her fawr, yn enwedig i blant nad ydynt yn rheoli eu hymddygiad yn llawn. Fodd bynnag, gallai gwreiddio gweithgarwch corfforol i fywydau dyddiol plant arwain at newid cenedliadol o ran symud yn ddyddiol.

Mae’n hollbwysig atgyfnerthu iechyd a lles drwy hyrwyddo gweithgarwch corfforol.

Y Dull

Rhoddodd Athro Kelly Mackintosh, Athro Melitta McNarry a thïm o ymchwilwyr fonitrwyr gweithgarwch i blant lleol eu gwisgo am wythnos. Aeth y plant yn eu blaenau gyda’u bywydau beunyddiol arferol, a oedd bellach yn cael eu recordio. Cafodd y data hwnnw ei uwchlwytho ac argraffwyd model 3D i’w roi i bob plentyn. Rhoddodd natur ddiriaethol y data hwn fewnwelediadau pwysig i’r plant ar eu symudiadau o ddydd i ddydd.

I’r ymchwilwyr, newidioodd hyn yr ymagwedd, o sicrhau ffordd arloesol o gasglu data sensitif iawn, i sicrhau arddangosiad syml o’r wybodaeth i’r boblogaeth gyda chymorthyn i'w helpu i’w deall. Nes i bobl ddeall yr hyn mae angen iddynt ei wneud, nid yw’r un ymyriad yn debygol o fod yn effeithiol.

Yr Effaith

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSG - Health
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe