Brwydro yn erbyn camddefnyddio sylweddau gydag offer a thechnegau canfod cyffuriau datblygedig

Rydym yn ymladd yn erbyn camddefnydd o sylweddau

Rydym yn ymladd yn erbyn camddefnydd o sylweddau

Yr Her

Mae Dr Amira Guirguis o Brifysgol Abertawe'n fferyllydd ac yn arbenigwr o fri rhyngwladol ym maes camddefnyddio sylweddau a chanfod cyffuriau.  Mae hi'n disgrifio lledaeniad sylweddau seicoweithredol newydd fel ‘maes sy'n peri pryder cynyddol’. 

Mae sylweddau seicoweithredol newydd, y cyfeiriwyd atynt o'r blaen fel 'gwefrau cyfreithlon' (maent bellach yn anghyfreithlon), yn wahanol i gyffuriau niweidiol traddodiadol ac mae cannoedd ohonynt wedi llifo i'r farchnad fyd-eang yn ystod y degawd diwethaf.

Y Dull

Ymunodd Dr Guirguis ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ym mis Mawrth 2019, â'r nod o ganolbwyntio’n benodol ar sylweddau seicoweithredol newydd yn ei hymchwil. 

Ar y cyd â thîm newydd yn yr Ysgol Feddygaeth, mae hi'n sefydlu uned ymchwil newydd i ddadansoddi priodweddau ac effeithiau sylweddau seicoweithredol newydd a sylweddau eraill a gamddefnyddir, er mwyn eu deall yn well ac, yn hollbwysig, i gynnig cyngor i'r proffesiwn meddygol ar sut i drin pobl sydd wedi'u cymryd. 

Yr Effaith

  • Mae Dr Guirguis wedi arwain y gwaith o sefydlu'r gwasanaeth cyntaf i wirio cyffuriau yn y gymuned ac sydd wedi'i drwyddedu gan y Swyddfa Gartref. Mae'n rhan o wasanaeth camddefnyddio sylweddau, mewn cydweithrediad ag Addaction, un o elusennau mwyaf blaenllaw'r DU ym maes cyffuriau, alcohol ac iechyd meddwl.
  • Mae canfyddiadau ei hymchwil wedi cael eu cynnwys mewn cronfeydd cydnabyddedig, yn ogystal â llyfrau testun hanfodol ar gyfer israddedigion fferylliaeth yn y DU.
  • Hi yw'r arweinydd ar Gyffuriau a Reolir ar gyfer Bwrdd Gwyddoniaeth ac Ymchwil y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS) gan cynghori Prif Wyddonydd yr RPS. Ymgynghorir â hi ar unrhyw beth sy'n ymwneud â chyffuriau newydd ac mae ei hargymhellion yn dylanwadu ar bolisi'r DU ar gyffuriau ac yn cefnogi'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol.
  • Mae Dr Guirguis yn arwain grŵp ymchwil o bum myfyriwr PhD y mae eu hymchwil yn creu sylfaen ar gyfer ymagwedd gyfannol at ymdrin â Sylweddau Seicoweithredol Newydd. Mae'r myfyrwyr wedi cwblhau eu PhD yn llwyddiannus ac maent bellach yn cydweithio â'r grŵp ymchwil.

Gwobr

Cymrodoriaeth Meddygaeth Fanwl PHTA

Gwobr Meddygaeth Fanwl - Sophie Harding
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSG - Health
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe