Gwella Gwybodaeth, Cyngor a Gwasanaethau Tai ar gyfer Pobl Hŷn

Rydym yn helpu dinasyddion hŷn i gael mwy o ddewis am eu hopsiynau tai

Rydym yn helpu dinasyddion hŷn i gael mwy o ddewis am eu hopsiynau tai

Yr Her

Mae Ffrainc a'r DU yn wynebu her poblogaeth sy'n heneiddio. Gan fod pobl hŷn yn byw'n hirach, mae angen inni ddarganfod atebion i'r galw ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn sgîl y newid demograffaidd hwn, yn enwedig o ran darparu tai addas. Gwnaeth Dr Sarah Hillcoat-Nallétamby, mewn cydweithrediad â sefydliadau ymchwil a sefydliadau'r llywodraeth yn Ffrainc, arwain astudiaeth ar y cyd ynghylch sut mae'r DU a Ffrainc yn ceisio rheoli'r heriau hyn, a pha wersi y gellir eu dysgu o safbwynt cymharol

Y Dull

Gwnaeth y prosiect gymharu tystiolaeth o'r DU ac o Ffrainc ynghylch mentrau polisi, dylunio tai a datblygiadau gwasanaeth sy'n ymwneud ag anghenion poblogaeth sy'n heneiddio. Roedd darparu addasiadau tai fel ffordd o alluogi pobl hŷn i fyw bywydau mwy annibynnol, wrth wraidd yr ymchwil. 

Gan ganolbwyntio ar y DU, gwnaeth Dr  Hillcoat-Nallétamby gasglu a dadansoddi data gan ddefnyddio ffynonellau data eilaidd a chyfweliadau ansoddol gwreiddiol â rhanddeiliaid allweddol a gwblhawyd fel rhan o'r astudiaeth. Darparodd y gwaith waelodlin ar gyfer dadansoddiad cymharol o'r cyd-destun yn Ffrainc. 

Ar y cyfan, dangosodd y dadansoddiad fod y DU wedi bod yn gyflymach wrth gydnabod goblygiadau poblogaeth sy'n heneiddio o ran tai. Roedd y dystiolaeth o hyn yn cynnwys mentrau polisi sy'n anelu at ddatblygu a gwella egwyddorion dylunio tai, ar y cyd â gwasanaethau gwybodaeth sy'n arloesol ac yn hygyrch iawn, er mwyn gwella gwybodaeth pobl hŷn a'u hybu wrth wneud penderfyniadau am eu hopsiynau o ran byw yn annibynnol. 

Yr Effaith

Defnyddiwyd yr astudiaeth yn Ffrainc er mwyn dylanwadu ar:

  • Bolisi llywodraeth Ffrainc ynghylch anghenion tai a byw yn annibynnol ar gyfer ei phoblogaeth sy'n heneiddio.

  • Diwygio deddfwriaethol i sicrhau gwaith gweithredu polisi (Bil Seneddol a chyfraith statudol) ac ailstrwythuro gwasanaethau er mwyn i bobl hŷn allu elwa ar fynediad gwell at wybodaeth a chyngor ynghylch gwasanaethau byw'n annibynnol (e.e. addasiadau tai, budd-daliadau nawdd cymdeithasol, tai arbenigol).

Mae hyn wedi arwain at:

  • Ailstrwythuro gwasanaethau ar y lefel leol ledled 1 département ym mhob 5 yn Ffrainc, ar sail "hybiau gwybodaeth" (e.e. ffôn, ar-lein a gwasanaethau lleol yn y cnawd), sy'n darparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor ac asesu anghenion sy'n syml ac yn hygyrch, ar gyfer pobl hŷn a'r rhai sy'n byw ag anableddau.

  • Porth gwasanaethau cenedlaethol sy'n galluogi mynediad gwell at wybodaeth a gwasanaethau, gyda thros 250,000 o ymweliadau'r mis a'r mwyafrif helaeth yn fodlon â'r wybodaeth a ddarperir.

  • Tystiolaeth leol o wella lles ar gyfer darparwyr a defnyddwyr gwasanaethau.
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSDG 03
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe