Datblygu Arfer a Gyfoethogir Tystiolaeth

Rydym yn gwella'r defnydd o dystiolaeth mewn iechyd a gofal cymdeithasol

Rydym yn gwella'r defnydd o dystiolaeth mewn iechyd a gofal cymdeithasol

Yr Her

Caiff ymarfer ar sail ymchwil ei hyrwyddo’n eang ym maes gofal cymdeithasol ac iechyd.Fodd bynnag, mae ei droi’n realiti yn dal i fod yn her, yn rhannol oherwydd bod ymarferwyr yn gyffredinol yn ystyried bod gwybodaeth sy’n dod gan ymarfer yn fwy perthnasol nag ymchwil academaidd ac yn aml maent yn ystyried nad yw tystiolaeth ymchwil yn hygyrch, a’i bod yn guddiedig gan iaith a therminoleg gymhleth. Gwnaeth y prosiect DEEP, sef Datblygu Ymarfer a Gyfoethogwyd gan Dystiolaeth, geisio mynd i’r afael â hyn.Canlyniad yr astudiaeth oedd datblygu ymagwedd at ddefnyddio tystiolaeth ymchwil sy’n gyfranogol, yn ystyrlon ac yn effeithiol.

Y Dull

Ariannwyd y prosiect ymchwil weithredu gwreiddiol gan Sefydliad Joseph Rowntree ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Cynhaliwyd y prosiect rhwng 2014-16 mewn chwe safle ar draws Cymru a’r Alban, lle bu pobl hŷn, gofalwyr, ymarferwyr, rheolwyr ac ymchwilwyr yn gweithio’n gydweithredol, gan ddefnyddio ymagwedd hel straeon ag arddull sgyrsiol, er mwyn archwilio a mynd i’r afael â saith ‘Her’ ar sail ymchwil, sydd eisoes wedi’u cyhoeddi, ynghylch yr hyn sydd bwysicaf i bobl hŷn ag anghenion cymorth uchel. Gan gymryd ymagwedd gyfranogol, ofalgar a datblygol, gwnaeth cyfranogwyr ddarganfod a mynd i’r afael â phum elfen angenrheidiol wrth ddatblygu ymarfer a gyfoethogir gan dystiolaeth, sef:

  • creu amgylcheddau ymchwil ac ymarfer sy’n gefnogol ac yn seiliedig ar berthnasoedd;
  • gwerthfawrogi a chynnwys mathau amrywiol o dystiolaeth (h.y. gwybodaeth ymchwil, y profiad o fyw, gwybodaeth yr ymarferydd a’r sefydliad);
  • defnyddio naratifau gafaelgar er mwyn dal a rhannu tystiolaeth;
  • defnyddio ymagweddau at ddysgu a datblygu sy’n seiliedig ar ddeialog;
  • a chydnabod a datrys rhwystrau systemig i ddatblygu.

Er bod llenyddiaeth bresennol yn cynnwys pob elfen, roedd y prosiect hwn yn arloesol wrth archwilio a mynd i’r afael â’r pum elfen ar y cyd, ac o ran ei ddefnydd o sawl ffurf stori, a apeliodd at y galon a’r ymennydd.

Yr Effaith

Roedd y prosiect yn llwyddiannus iawn, ac arweiniodd at newidiadau o ran polisi ac ymarfer ar draws y gwahanol safleoedd.Er enghraifft, yn un lle (sefydliad trydydd sector sy’n darparu llety a chymorth) gwnaethant newid eu polisi ffiniau proffesiynol er mwyn cefnogi datblygiad perthnasoedd gofal dwyochrog rhwng defnyddwyr gwasanaethau a staff y gwnaethant wella lles pob un ohonynt.

Gwnaeth yr ymchwil arwain at raglen barhaus o waith dysgu a datblygu gan DEEP, a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae hyn wedi cynnwys datblygu:

O 2020-23, caiff ymagwedd DEEP ei rhoi ar waith yn strategol yng ngwaith dysgu, datblygu a pherfformiad sefydliadau cenedlaethol, e.e.Gofal Cymdeithasol Cymru.

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSG - Health
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe