Mat Zero - datblygu datrysiad gwresogi ar gyfer cymunedau ffoaduriaid

Datblygu datrysiad gwresogi ar gyfer cymunedau ffoaduriaid

Datblygu datrysiad gwresogi ar gyfer cymunedau ffoaduriaid

Yr Her

MAT Zero: dwylo oer, calon gynnes

Yn 2022, roedd mwy na 4.9 miliwn o unigolion wedi ceisio lloches ledled y byd. Mae 32.5 miliwn o bobl ychwanegol wedi derbyn statws ffoadur. Mae oddeutu 16 miliwn o'r ffoaduriaid hyn yn blant o dan 18 oed.

Gwres yw un o'r anghenion dynol sylfaenol. Nid oes gan lawer o'r ffoaduriaid a cheiswyr lloches fynediad at wres glân, dibynadwy ac effeithiol. Mae'r rhai hynny sy'n cael eu dadleoli yn y diwedd yn byw mewn pebyll neu gartrefi anaddas mewn cyflwr gwael gyda mynediad gwael at wres. Mae'r gwres fel arfer yn cael ei ddarparu gan generadur diesel sy'n swnllyd, yn ddrwg i'r amgylchedd ac yn berygl i fywyd.

Mae gwersylloedd ffoaduriaid yn aml yn agored i gyfnodau hir o dymereddau oer, yn benodol yn ystod misoedd y gaeaf a chyda'r nos. Heb ffynhonnell gwres ddibynadwy, mae ffoaduriaid mewn perygl o ddatblygu cyflyrau fel hypothermia, ewinrhew a hyd yn oed ddolur traed y ffosydd.

Mae'r prosiect Mat Zero yn creu technoleg flaengar i ddarparu gwres i'r rhai sy'n dioddef caledi eithafol. Mae'r prosiect wedi'i ariannu gan Innovate UK - Energy Catalyst Award: Rownd 10 a Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan Prifysgol Abertawe - MASI.

Y Dull

Mae MAT Zero yn ddatrysiad gwres diogel a chynaliadwy ar gyfer ffoaduriaid, lleddfu effeithiau trychinebau ac aneddiadau anffurfiol. Mae'r cynnyrch wedi'i wneud o mat wedi'i wresogi, Hyb Ynni a phaneli solar. Mae'r mat yn darparu gwres gan ddefnyddio technoleg gwresogi ffeibr carbon ddiogel a all gael ei osod mewn unrhyw loches.

Bydd y tîm - Dr Ashra Khanom, Dr Denis Dehenny, Sri Hollema, Dr Mark Spratt, Dr Eifion Jewell, Dr Aelwyn Williams, Dr Berni Sewell, Alix Bukkfalvi-Cadotte - yn gweithio gyda phartneriaid dramor, gan gynnwys yn Nepal ac yn Kenya, i wirio perfformiad y cynnyrch. Byddant hefyd yn asesu buddion dyngarol, arbed carbon, ac arbed cost yn erbyn datblygiad cymdeithasol, a mynediad at dechnoleg ynni hanfodol.

Bydd grwpiau ffocws a chyfweliadau'n cael eu cynnal gyda phobl mewn gwersylloedd ffoaduriaid, darparwyr gwasanaethau allweddol a Sefydliadau Anllywodraethol. Mae partneriaid allweddol yn cynnwys Mat Zero Heat limited, Solapak Systems limited, Pahar Trust Nepal a Global Refugee-led Network.

Yr Effaith

Bydd y prosiect hwn yn gwella bywydau'r rhai sy'n byw mewn gwersylloedd ffoaduriaid ar draws y byd yn sylweddol. Gan gyfrannu at gysur, iechyd a lles cyffredinol ffoaduriaid, yn enwedig y rhai sy'n agored i niwed.

Nodau'r prosiect yw:

Deall gwerth y cynnyrch ar gyfer buddiolwyr uniongyrchol sy'n byw mewn gwersylloedd ffoaduriaid a sefydliadau anllywodraethol fyddai mewn sefyllfa i ddosbarthu'r matiau.

Archwilio sut y gall Mat Zero ei weithredu mewn amgylchoedd amrywiol, e.e. gwersylloedd ffoaduriaid gyda chysylltiad â’r grid trydan neu hebddo, neu bebyll yn erbyn tai sefydledig.

Archwilio strategaethau o'r crud i'r crud dros gwrs bywyd y cynnyrch i leihau'r effaith amgylcheddol ar ddiwedd oes y cynnyrch.

Archwilio posibiliadau i greu'r mat yn lleol gan ddefnyddio deunydd argraffu carbon 3D yn lleol (o ddeunydd pren neu wastraff) a'r budd economaidd a chymdeithasol posib ar y gymuned a'r ecosystem ehangach.

Dr Ashra Khanom

Cwrdd â'r Arweinydd Ymchwil

Dr Ashra Khanom
Text Reads Nodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSDG 03
Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe
SU Health Innovation Research Theme.