Cefnogaeth Seicolegol i hyrwyddo Ffisiotherapi ar gyfer Camweithrediad Llawr Pelfig

Rydym yn helpu i atal a rheoli camweithrediad llawr y pelfis

Rydym yn helpu i atal a rheoli camweithrediad llawr y pelfis

Yr Her

Mae gwendid llawr y pelfis yn effeithio ar 25% o fenywod ledled y byd.  Mae hyfforddiant cyhyrau llawr y pelfis (PFMT) yn driniaeth effeithiol, ddiogel a chost-effeithiol. Serch hynny, nid yw llawer o fenywod yn mynychu neu'n cwblhau eu sesiynau. O ganlyniad, mae llawer o fenywod yn dibynnu'n ddiangen ar badiau anymataliaeth drud gan gyfyngu ar eu hansawdd bywyd, neu maent yn cael llawfeddygaeth.

Mae defnyddio padiau anymataliaeth yn costio £1 filiwn o bunnau'r flwyddyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, un bwrdd iechyd yn unig, ac mae pob llawdriniaeth yn costio rhwng £2000 a £5000 o'i chymharu â thua £50 am driniaeth ffisiotherapi.

Y Dull

Yn 2009, gwahoddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yr Athro Reed i gynnal ymchwil i'r rhesymau seicolegol a chymdeithasol dros beidio â chwblhau Hyfforddiant Cyhyrau Llawr y Pelfis. Byddai'r ddealltwriaeth well hon yn cael ei defnyddio i ddatblygu systemau cymorth er mwyn cynyddu cyfranogiad mewn triniaeth, grymuso menywod a gwella ansawdd eu bywydau. Byddai offer sgrinio seicolegol yn cael eu dyfeisio hefyd i nodi cleifion a fyddai'n elwa o'r systemau cymorth.

Canfu'r Athro Reed nad oedd 50% o fenywod â gwendid llawr y pelfis yn dod am driniaeth.  Roedd cleifion ag iselder ysbryd a gorbryder hefyd (tua 30% o'r grŵp hwn o gleifion) yn fwy annhebygol byth o beidio â chwblhau triniaeth a byddai canlyniadau eu PFMT yn waeth hyd yn oed ar ôl iddynt gwblhau triniaeth.

Pelvic Floor Muscles

Cafodd credoau a chymhellion a allai ragfynegi cyfranogiad mewn triniaeth eu harchwilio hefyd.  Bu cleifion â gwendid llawr y pelfis a oedd wedi dechrau newid eu hymddygiadau (camau 'gweithredol' a 'chynnal' cymhelliant) yn mynychu rhagor o sesiynau PFMT ac roedd eu canlyniadau clinigol yn well na rhai'r menywod nad oeddent wedi dechrau newid eu hymddygiadau eto. Roedd meddu ar gredoau, megis rhoi gwerth ar waith, teulu ac ysbrydolrwydd, yn ogystal â bod â gwerthoedd iechyd cryf, yn rhagfynegi cyfranogiad, ond dim ond y rhai a oedd yn rhoi gwerth ar iechyd er eu lles eu hunain (yn hytrach na'i effaith ar eraill) a oedd yn dangos buddion clinigol o PFMT.

Yr Effaith

  • Yn dilyn sgwrs fer dros y ffôn i gefnogi cleifion ar y rhestr aros, gwelwyd cynnydd o 75% mewn presenoldeb mewn sesiynau PFMT.
  • Gwelwyd cynnydd o 60% o ran cyfraddau cwblhau triniaeth PFMT yn dilyn sesiynau cymorth byr mewn grŵp a gynhaliwyd yn ystod y driniaeth, a gwelliant o 50% mewn canlyniadau clinigol, gan leihau'r angen am lawfeddygaeth ac arbed £1000 y claf ar draws 400,000 o gleifion i'r GIG.
  • Mae'r rhaglenni cymorth wedi cael eu mabwysiadu gan lawer o fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd eraill y GIG a chan ddarparwyr iechyd preifat.
  • Dyfarnwyd Medal y Llywydd am 'Gyfraniad Gwyddonol at Gymdeithas' i'r gwaith yn yr Eidal.
  • Estynnwyd canfyddiadau'r ymchwil hon at gyflyrau wrogynaecolegol eraill.
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSDG 03
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe