Rheoli Clefydau Ffyngaidd

Rydym yn cynyddu rheolaeth ar glefydau ffwngaidd i wella Iechyd a Diogelwch Bwyd

Rydym yn cynyddu rheolaeth ar glefydau ffwngaidd i wella Iechyd a Diogelwch Bwyd

Yr Her

Bob blwyddyn, mae afiechydon ffwngaidd ledled y byd yn costio biliynau i'r diwydiant amaethyddol o ran cnydau wedi'u difa a'u difrodi. Yn yr un modd â chyffuriau gwrthffyngol ar gyfer meddygaeth, mae ffwngladdwyr hefyd yn dod yn llai effeithiol wrth i ymwrthedd gynyddu ymhlith y ffyngau a dargedir. Ym maes meddygaeth, mae baich dynol afiechydon ffwngaidd yn ddifrifol, fel yn achos graddfeydd TB neu falaria.

Y nod oedd gweithio gyda'r cwmni agrocemegol amlwladol BASF fel ei bartner byd-eang dewisol ar gyfer darganfod ffyngladdwyr a fyddai'n atal twf a/neu'n lladd yr afiechyd ffwngaidd mewn cnydau amaethyddol heb atal prosesau yn y planhigyn.

Ym maes meddygaeth, buom yn gweithio gyda Mycovia Pharmaceuticals i nodi modd gweithredu a detholedd ar gyfer ei gyffur newydd posibl a ddefnyddiwyd yn wreiddiol ar gyfer llindag rheolaidd. Mae hyn yn digwydd mewn 5-8% o fenywod, a chafodd ei gymeradwyo i'w ddefnyddio ym mis Ebrill 2022. Buom yn gweithio gyda Pulmocide Ltd i nodi dull gweithredu ei gemegyn newydd Opelconazole, sydd wedi'i gymeradwyo ar gyfer ei roi yn uniongyrchol yn ysgyfaint cleifion sydd wedi cael trawsblaniad ysgyfaint ac sydd â'r afiechyd ffwngaidd aspergilosis, sy'n peryglu bywyd.

Cafodd yr effeithiau hyn hefyd eu cefnogi gan brosiect BEACON ERDF, a ariennir gan Lywodraeth Cymru/yr UE.

Y Dull

Roedd yr ymchwil a wnaed yn canolbwyntio ar archwilio cytocrom P450 (uwch-deulu o ensymau a ganfyddir mewn bacteria, ffyngau, planhigion, protosoa, anifeiliaid ac, yn fwy diweddar, feirysau). Mae un o'r ensymau hyn yn darged i gyfansoddion gwrthffyngol ar gyfer meddygaeth ac amaethyddiaeth (cytocrom P45051) sy'n cymryd rhan yn y broses o gynhyrchu sterolau.

Yn gyffredinol, mae'r broses o gynllunio a datblygu set unigryw o offer protein cytocrom P45051 moleciwlaidd o bathogenau planhigion, wedi galluogi dull strategol penodol ar gyfer profi ffyngladdwyr newydd posibl gan BASF. Arweiniodd hyn at ddarganfod a datblygu Revysol®. Ar y cyd â Mycovia Pharmaceuticals, sefydlwyd atalydd grymus ar gyfer Candida albicans CYP51, ynghyd â diffyg llwyr o ran atal CYP51 dynol yn achos Oteseconazole.

Aeth Pulmocide Ltd ati i sefydlu Abertawe yn bartner dewisol i ymchwilio i ddull gweithredu Opelconazole mewn Aspergillus fumigatus lle roedd Abertawe wedi adrodd am yr unig fiobrawf biocemegol ar gyfer CYP51A yn y ffwng hwn.

Y pathogen dynol Aspergillus fumigatus

Aspergillus-funmigatus

Yr Effaith

  • Cynnydd o ran rheoli clefydau sbectrwm eang gan ddiogelu cnydau mewn dim llai na 40 o gnydau megis grawn, soi, india-corn, ffrwythau a llysiau. Effaith sylweddol ar gyfer Diogeledd Bwyd Byd-eang
  • Mae'r effaith fasnachol ar gyfer BASF yn fwy na $1 biliwn y flwyddyn, ac mae'n cael ei ddefnyddio mewn 60 o wledydd yng Ngogledd America, De America, Ewrop, y Dwyrain Canol, Affrica, Asia ac Awsralasia
  • Rheoli heintiau ffwngaidd, gan ddechrau gyda llindag rheolaidd mewn menywod yn cael ei drin ag Oteseconazole, ac yna ddefnydd gwrthffyngol pellach yn dilyn rhagor o dreialon
  • Defnyddio Opelconazole i drin aspergilosis sy'n peryglu bywyd ymhlith cleifion sydd wedi cael trawsblaniad ysgyfaint. Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan broses graffu briodol er mwyn ei ddefnyddio ar gyfer cleifion eraill ag imiwnedd gwan a chyflyrau eraill lle y gall aspergilosis ddigwydd. Er enghraifft COVID-19 ac aspergilosis, TB ac aspergilosis, ffeibrosis systig ac aspergilosis, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint ac aspergilosis, asthma alergaidd a achosir gan Aspergillus fumigatus
  • Ochr yn ochr ag ymchwil drosi ar ymchwil gwrthffyngau, y mae ymchwil i ymwrthedd gwrthffyngol ym maes meddygaeth ac amaethyddiaeth.
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSDG 02 - Zero Hunger (CYM)
UNSG - Health
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe