Banc Data SAIL - Gwyddor Data Poblogaethau

Rydym yn galluogi ymchwil data ar raddfa'r boblogaeth.

Rydym yn galluogi ymchwil data ar raddfa'r boblogaeth.

Yr her

Yn hanesyddol, mae data gofal iechyd a data gweinyddol wedi bodoli ar wahân i'w gilydd, heb yr isadeiledd i'w cysylltu a chasglu gwybodaeth ar lefel y boblogaeth. Mae diffyg cysondeb o ran safonau data ar draws y dirwedd hon wedi ychwanegu at y cymhlethdodau cynhenid.  

Yr her i Fanc Data SAIL oedd sut gellir casglu data ar raddfa fawr iawn mewn modd diogel, sydd yn diogelu'n gadarn breifatrwydd yr unigolion hyn sy'n cael eu cynrychioli yn y data?  

Y brif her arall oedd sut gellir sicrhau mai dim ond ymchwilwyr dilys sy'n cael mynediad at y data, yn ogystal â darparu llwyfan technoleg uwch sy'n caniatáu i ddefnyddwyr awdurdodedig o bell i wneud y mwyaf o'r data er budd y gymdeithas?  

Y prawf olaf oedd sut gellir cyflawni hynny i gyd wrth gynnal hyder rhanddeiliaid ac, yn hollbwysig, ymddiriedaeth y cyhoedd? 

Ers iddo gael ei sefydlu, mae Banc Data SAIL wedi elwa'n fawr o bartneriaeth â chorff Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) GIG Cymru, gyda chyllid craidd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae DHCW yn rhoi cymorth hanfodol gyda throsglwyddo data, ac arbenigedd i ddatblygu egwyddor gwahanu ar gyfer anonymeiddio data.  

Mae Banc Data SAIL wedi datblygu cyfres soffistigedig o fesurau diogelwch gwybodaeth sy'n cwmpasu rheolaethau ffisegol, technegol a gweithdrefnol. Mae'r nodweddion hyn yn cyfrannu at achrediad Deddf yr Economi Ddigidol 2017 gan Awdurdod Ystadegau y DU ac ardystiad ISO27001. Mae hyn yn golygu bod Banc Data SAIL yn bodloni'r safonau rhyngwladol mwyaf llym.  

Sefydlwyd Panel Adolygu Dulliau Llywodraethu Gwybodaeth annibynnol i adolygu cynigion i weithio gyda'r data. Mae'r panel yn cynnwys cynrychiolwyr cyrff proffesiynol a rheoleiddiol a'r cyhoedd. Os caiff ymchwil ei chymeradwyo gan y panel, caiff defnyddwyr fynediad at y platfform pwerus SeRP. Mae SeRP yn caniatáu i berchnogion data ac ymchwilwyr storio, cyrchu, rhannu, dadansoddi a chysylltu data, ar raddfa fawr, mewn amgylchedd a lywodraethir wrth gynnal rheolaeth lawn ar y data bob amser.  

Yn olaf, er mwyn meithrin ymddiriedaeth y cyhoedd yn y ffordd rydym yn rheoli data cyhoeddus, sefydlwyd y Panel Defnyddwyr gennym – dyma banel gweithredol sy'n cynnwys aelodau'r cyhoedd sy'n cynghori ac yn llywio ein holl brosiectau ymchwil sy'n rhoi pwyslais ar ddata.

Canolfan Ymchwil

Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
Good Health & Well-being Welsh
Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe
Health Innovation Welsh