Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Platfform cronfa ddata a thechnoleg goruwch Cymru’n chwarae rhan fawr mewn cydweithrediad ymchwil Covid-19 rhyngwladol newydd

Mae’r Banc Data Diogel ar gyfer Cysylltiadau Gwybodaeth Ddienw (SAIL), y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n ei ariannu, wedi’i ddewis i chwarae rhan allweddol mewn cydweithrediad rhyngwladol i gyflymu ymchwil Covid-19.

Wedi’i sefydlu gan Ymchwil Data Iechyd y DU a phartneriaid, yn sgil cyhoeddi cyllid gan y Sbardunwr Therapiwteg Covid-19 a Sefydliad Gates, bydd y Gynghrair Ryngwladol Mainc Weithio ac Ymchwil Data Covid-19 newydd yn cefnogi datblygu therapïau’n gyflym i frwydro yn erbyn effeithiau byd-eang Covid-19.

Mae llawer o sefydliadau ledled y byd yn cynnal astudiaethau i Covid-19 ac yn cynhyrchu data a fydd, pan fyddan nhw’n cael eu cronni a’u hailddadansoddi, yn gallu arwain at fewnwelediadau grymus i helpu i gyflymu darganfod ymyriadau. Fodd bynnag, mae’r data yn aml wedi’u hynysu o ddata eraill, sy’n ei gwneud hi’n anodd i’r rheini sy’n cynhyrchu’r data gydweithio’n gyflym

Bydd y Gynghrair Ryngwladol Mainc Weithio ac Ymchwil Data Covid-19 yn darparu amgylchedd ar gyfer ymchwil gydweithredol â ffocws, gan gyfateb data gwerth uchel o lawer o ffynonellau â gwaith dadansoddi arloesol i gyflymu gwaith cydweithredu, darganfod a datblygu therapiwteg i frwydro yn erbyn Covid-19, y cyfan â phreifatrwydd a hygyrchedd mewn cof.

Dan arweiniad Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, mae Banc Data SAIL yn grŵp ymchwil sydd wedi’i gydnabod yn rhyngwladol ac sy’n gweithio i wneud data y mae’r GIG a ffynonellau eraill yn eu casglu fel mater o drefn yn ddienw, ac i gysylltu’r data hyn mewn modd diogel, er dibenion cefnogi ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.

Banc Data SAIL ydy’r Amgylchedd Ymchwil Sicr ar gyfer BREATHE, sef hyb Ymchwil Data Iechyd y DU ar gyfer iechyd anadlol, ac mae’n ganolbwynt ar gyfer casglu amrywiaeth eang o ddata’n ymwneud â Covid-19. Mae hyn yn cynnwys rheoli mynediad yr ap astudiaeth symptomau ZOE Covid-19 poblogaidd i ddata sydd wedi’u gwneud yn ddienw.

Mae tîm Banc Data SAIL Prifysgol Abertawe hefyd yn dod â’u platfform technegol SeRP (Platfform e-Ymchwil Diogel) i’r Gynghrair, sy’n darparu technoleg ‘addaswr’ newydd, gan ostwng y bar technegol i bartneriaid data pellach ymuno â’r Gynghrair.

Meddai’r Athro David Ford, Cyfarwyddwr Banc Data SAIL a SeRP (Platfform e-Ymchwil Diogel) a Phrif Swyddog data yn BREATHE:

“Rydyn ni wrth ein boddau bod Platfform e-Ymchwil Diogel (SeRP) Prifysgol Abertawe’n cyfrannu ei dechnoleg Addaswr i’r cydweithrediad pwysig hwn. Gan weithio gydag Aridhia, byddwn ni’n sicrhau bod modd i storfeydd data annibynnol, sydd wedi’u llywodraethu’n dda, gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil ffederal ar raddfa fawr y bydd y Gynghrair yn eu galluogi, heb orfod symud eu data allan o’u rheolaeth leol.”

Mae Banc Data SAIL wedi derbyn cyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r sefydliadau a oedd yn rhagflaenwyr iddo ers 2006, sydd wedi darparu sylfaen gadarn ar gyfer eu rôl yn cefnogi ymchwil Covid-19.

Meddai’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

“Rydyn ni wrth ein boddau’n gweld sut y mae parhau i ariannu a chefnogi Banc Data SAIL wedi arwain at Gymru’n gallu chwarae rhan allweddol yn yr ymdrech ymchwil Covid-19 ryngwladol. Mae gallu cael gafael ar ddata o ansawdd da yn ganolog i ymchwil a fydd yn cael effaith ar ein ffordd o ymateb i’r pandemig hwn.”

Meddai Dr Rob Orford, y Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd, Llywodraeth Cymru:

“Mae Banc Data SAIL yn ased gwerthfawr i’n cefnogi i ddeall sut y mae Covid-19 yn effeithio ar iechyd a llesiant pobl yng Nghymru. Rydyn ni wedi mynd ati i weithio ochr yn ochr â Banc Data SAIL ac annog cydweithredu ag ef, i adeiladu ar gryfder yr arbenigedd sydd ar gael yma yng Nghymru.”

Mae gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wefan am ymchwil Covid-19 yng Nghymru sy’n manylu ar yr holl astudiaethau ymchwil cysylltiedig sydd ar waith, neu ar y gweill, yng Nghymru.

Rhannu'r stori