Meddyg gyda brechlyn: nid yw gwaith ymchwil newydd wedi nodi unrhyw achosion o anhwylder gwaed prin ymhlith y bobl yng Nghymru sydd wedi cael eu brechu yn erbyn Covid-19.

Nid yw gwaith ymchwil newydd wedi nodi unrhyw achosion o anhwylder gwaed prin ymhlith y bobl yng Nghymru sydd wedi cael eu brechu yn erbyn Covid-19.

Gwnaed gwerthusiad cyflym o ddata gofal iechyd yng Nghymru mewn ymateb i gais ar frys am wybodaeth am glotiau gwaed sy'n gysylltiedig â brechiadau yn erbyn Covid-19.

Roedd pwyslais y gwaith dadansoddi ar ddeall a gafwyd unrhyw adroddiadau am anhwylder clotiau gwaed prin (thrombo-emboledd sinysau gwythiennol) ymhlith unigolion yng Nghymru sydd wedi cael eu brechu, fel y nifer bach a gafwyd yn Norwy a'r Almaen.

Gwnaeth gwyddonwyr ym manc data SAIL ym Mhrifysgol Abertawe'r gwaith dadansoddi gan ddefnyddio data dienw am gleifion mewn amgylchedd ymchwil diogel sydd wedi'i achredu hyd at y safon ryngwladol uchaf (ISO 27001) o ran rheoli data.

Dadansoddwyd data’r cyfnod rhwng 1 Ionawr 2019 a 31 Ionawr 2021 er mwyn cadarnhau a fu unrhyw gynnydd yn nifer yr achosion o'r anhwylder clotiau gwaed prin a gofnodwyd ar ôl i'r brechiadau gael eu cyflwyno yn y lle cyntaf. Yn ystod y cyfnod hwnnw o 25 mis, cofnodwyd cyfanswm o 19 o achosion o'r anhwylder.

Ni chofnodwyd unrhyw achosion newydd o thrombo-emboledd sinysau gwythiennol ymhlith yr unigolion a gafodd eu brechu yn ystod y cyfnod hwn.

Roedd saith unigolyn a oedd wedi dioddef o'r anhwylder hwn o'r blaen wedi cael eu brechu erbyn 31 Ionawr 2021.

Rhwng 4 Rhagfyr 2020 a 31 Ionawr 2021, roedd 440,000 o bobl wedi cael eu brechu o leiaf unwaith yn ôl y data am frechiadau yn erbyn Covid-19 yng Nghymru. O'r rhain, roedd 180,000 o bobl wedi cael brechlyn Rhydychen/AstraZeneca ac roedd 260,000 wedi cael brechlyn Pfizer.

Meddai Ronan Lyons, Athro Iechyd Cyhoeddus a Chyfarwyddwr Banc Data SAIL ym Mhrifysgol Abertawe:

“Mae hwn yn ddarganfyddiad pwysig ynghylch diogelwch y brechlynnau sy'n cael eu defnyddio yng Nghymru. Ni welsom unrhyw achosion o'r anhwylder clotiau prin hwn ymhlith y 440,000 o bobl a oedd wedi cael eu brechu hyd at ddiwedd mis Ionawr. Byddwn yn parhau i archwilio mwy o ddata wrth i fwy o bobl gael eu brechu. Dyma newyddion da iawn i'n hymdrechion cyfunol i oroesi'r pandemig hwn ac achub mwy o fywydau drwy'r rhaglen frechu.”

Darllenwch y cyhoeddiad llawn yma ar dudalennau Cell Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru

Rhoddir diagnosisau o anhwylder thrombo-emboledd sinysau gwythiennol mewn ysbytai. Ceir oedi wrth godio cofnodion ysbytai yn fanwl a dyna'r rheswm pam mae'r gwaith dadansoddi wedi cael ei gwblhau hyd at ddiwedd mis Ionawr 2021, ond caiff ei ddiweddaru maes o law.

Mae'r anhwylder hwn yn brin a cheir llai nag un diagnosis y mis ym mhoblogaeth Cymru o 3.2 filiwn o bobl.

Mae gwaith yn parhau yng Nghymru i fonitro data'r rhaglen frechu, gan ddefnyddio'r asedau data cysylltiedig sydd gennym yng Nghymru.

Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe

Arloesi ym Maes Iechyd - ymchwil Abertawe

 

Rhannu'r stori