Menyw feichiog mewn fferyllfa yn edrych ar feddyginiaeth

Mae ymchwilwyr o Fanc Data SAIL a Phrifysgol Abertawe’n gwneud cyfraniad allweddol at brosiect rhyngwladol gwerth miliynau o bunnoedd i wella diogelwch meddyginiaethau a roddir i ddarpar famau a mamau sy'n bwydo babanod ar y fron. 

Maent wedi ymuno â chydweithwyr o bob rhan o Ewrop i lunio eu cyhoeddiad cyntaf fel rhan o brosiect ConcePTION y Fenter Meddyginiaethau Arloesol (IMI).

Ariennir y prosiect ledled Ewrop gwerth £28m gan IMI, sef menter ar y cyd sy'n cael cymorth gan raglen ymchwil ac arloesi Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd ac EFPIA (Ffederasiwn Diwydiannau a Chymdeithasau Fferyllol Ewrop).

Mae IMI yn ceisio pontio'r bwlch yn yr wybodaeth a'r data am ddiogelwch meddyginiaethau sy'n cael eu rhagnodi yn ystod beichiogrwydd ac i famau sy'n bwydo babanod ar y fron. Mae'n bwriadu gwneud hyn drwy greu ecosystem o wybodaeth y gellir ymddiried ynddi, gan ddefnyddio data dienw o ffynonellau rhyngwladol.

Yng Nghymru, yr Athro Sue Jordan o'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd yw arweinydd tîm ConcePTION, sy'n defnyddio arbenigedd Tîm Gwasanaethau Dadansoddol Banc Data SAIL mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae canlyniadau'r astudiaeth ddiweddaraf hon yn helpu i ddod â data ynghyd o 21 o ffynonellau yn Ewrop drwy greu model data cyffredin.

Meddai'r Athro Jordan: “Mae llawer o fenywod yn pryderu am ddiogelwch meddyginiaethau a gymerir yn ystod beichiogrwydd ac wrth fwydo babanod ar y fron, ac nid yw gwybodaeth ar gael bob amser.

“Mae banciau data ledled Ewrop yn cydweithio i fynd i'r afael â'r broblem hon drwy archwilio'r buddion a'r niweidiau i fenywod a phlant pan gaiff meddyginiaethau eu rhagnodi yn ystod y cyfnodau hollbwysig hyn.

“Mae ein grŵp yn hynod falch o gyfrannu at arweiniad dylanwadol ENCePP ar ddulliau ymchwil. Cyfeirir at waith SAIL ar anomaleddau cynhenid fel enghraifft gynhwysfawr o nodi adweithiau niweidiol i gyffuriau a ffactorau eraill sy'n effeithio ar ganlyniadau amenedigol niweidiol.”

Mae canfyddiadau'r grŵp newydd gael eu cyhoeddi gan y cyfnodolyn ar-lein Clinical Pharmacology & Therapeutics.

Gan weithio yn yr Adeilad Gwyddor Data yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, mae tîm Banc Data SAIL wedi helpu i ddatblygu sgriptiau cyffredin y mae eu hangen i gefnogi'r swyddogaeth dadansoddi data. Dyma linellau o gôd cyfrifiadurol sy'n galluogi data iechyd arferol a gaiff ei storio mewn tablau strwythuredig mewn banciau data ledled Ewrop i gael ei gasglu.

Yna gall ymchwilwyr a gwyddonwyr data cymeradwy gael gafael ar y data hwn yn ddiogel ym mhob storfa ddata at ddibenion cysylltu a dadansoddi.

Mae'r canfyddiadau'n darparu gwybodaeth er mwyn gwella diogelwch meddyginiaethau ar gyfer teuluoedd a llywio ymarferwyr gofal iechyd yn well. Yna caiff canlyniadau pob dadansoddiad eu cronni gan ConcePTION yng Nghanolfan Feddygol Utrecht (UMC), pencadlys y fenter yn yr Iseldiroedd, gan eu galluogi i gael eu harchwilio ar raddfa Ewropeaidd fwy o lawer.

Mae'r ymagwedd gydweithredol, ffederal hon yn golygu na chaiff data ‘craidd’ ei esgeuluso ac y caiff ei ddiogelu'n dda gan brotocolau llywodraethu a mynediad at ddata pob storfa.

Mae Banc Data SAIL yn gweithredu fel yr amgylchedd ymchwil y gellir ymddiried ynddo ar gyfer Cymru ac mae'n un o'r adnoddau data poblogaethau gorau yn y byd. Mae ei setiau data am feddygon teulu, ysbytai, genedigaethau a marwolaethau, mamolaeth ac iechyd plant ymysg ei asedau data helaeth sy'n ategu ymchwil ConcePTION.

Yn ogystal, mae set ddata'r Gwasanaeth Cofrestr a Gwybodaeth Anomaleddau Cynhenid (CARIS), a gynhelir gan SAIL ond sydd wedi'i chasglu a'i chyflenwi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn hanfodol er mwyn galluogi dadansoddiadau ConcePTION.

Meddai David Tucker, rheolwr CARIS: “Bu hwn yn brosiect cyffrous. Mae'n defnyddio'r data arferol a gesglir gan CARIS i'w botensial llawn. Mae'r ymchwil hon yn ateb cwestiynau a ofynnwyd ers amser maith am oroesiad, ansawdd bywyd a chyflawniadau addysgol plant. Mae pob rhiant yn gofyn y cwestiynau hyn ond rydym bellach yn dechrau darparu rhai atebion.”

Mae Tîm Gwasanaethau Dadansoddol SAIL hefyd wedi gwneud cysylltiadau arloesol rhwng CARIS, rhagnodi gan feddygon teulu a data am addysg.

Ychwanegodd Dan Thayer, Uwch-wyddonydd Data SAIL: “Oherwydd adnoddau data unigryw o gyfoethog SAIL, yn ogystal â diddordeb ein tîm mewn datblygu technoleg i gefnogi mentrau ymchwil cydweithredol, mae'r prosiect hwn yn ddelfrydol i ni. Dylai ConcePTION fod yn gam pwysig ymlaen wrth lenwi bylchau hollbwysig yn y dystiolaeth ynghylch diogelwch meddyginiaethau yn ystod beichiogrwydd.”

Y gobaith erbyn hyn yw y bydd prosiect ConcePTION yn llywio'r broses o ddatblygu tystiolaeth newydd drwy gydweithio rhwng partneriaid diwydiannol a phrifysgolion yn y Fenter Meddyginiaethau Arloesol.

Mae Gareth Davies, Ieuan Scanlon, Anna Rawlings, Carys Jones a Huda Abd yn gweithio ochr yn ochr â'r Athro Jordan, Dan Tucker a Dan Thayer yn y tîm yng Nghymru.

Mae'r prosiect yn dilyn EuroMediCat, a fu'n archwilio'r risgiau cynyddol o anomaleddau cynhenid sy'n gysylltiedig â gwrth-iselyddion a meddyginiaethau i ymdrin ag asthma. Wrth wneud y gwaith hwn, nododd yr Athro Jordan a thîm SAIL fod cyfraddau bwydo babanod ar y fron yn llai pan gaiff gwrth-iselyddion eu rhagnodi yn ystod beichiogrwydd. 

Rhannu'r stori