Mae ein cymuned ymchwil yn gweithio'n agos gyda chymunedau lleol a byd-eang, gan ddylanwadu ar bolisi ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Rydym yn edrych ar y gorffennol a'r presennol er mwyn creu dyfodol mwy cyfiawn, cyfartal a theg i bawb.

Rydym wedi:

  • Helpu i greu cyfraith newydd ar hawliau dynol plant a phobl ifanc yng Nghymru drwy ddarparu canllawiau ar gyfer eiriolwyr dros newid polisi ar gyfer Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac Aelodau'r Cynulliad. Drwy'r ymchwil hwn, mae Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc wedi gosod dyletswydd gyfreithiol unigryw ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i ofynion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
  • Darparu sail uniongyrchol i bolisi ar gyfer lleihau anghydraddoldebau yn y farchnad lafur drwy ddatgelu anghydraddoldebau yn y farchnad lafur sydd wedi ymwreiddio'n ddwfn yng Nghymru a'r DU, a'r anghyfartaledd sgiliau yn yr UE. Defnyddiwyd y gwaith ymchwil hwn yn helaeth gan Lywodraeth Cymru i asesu effaith cyllideb Cymru ar gydraddoldeb yn ogystal â dylanwadu'n rhyngwladol drwy lywio dadleuon polisi yn Awstralia a'r Undeb Ewropeaidd
  • Darparu cyngor ac arweiniad yn ymwneud â gofal, lles ac ansawdd bywyd pobl hŷn. Mae prif ganolfan astudiaethau heneiddio Cymru, y Ganolfan Heneiddio Arloesol, yn cynnal gwaith ymchwil trawsnewidiol, a ategir gan y diweddaraf mewn syniadau gwreiddiol a dyfeisgar.
  • Ail-fframio'r ffordd y sonnir am bolisi cyffuriau. Mae'r Arsyllfa Polisi Cyffuriau Byd-eang wedi arloesi gyda chysyniadau megis hyrwyddo arferion lleihau niwed fel rhaglenni cyfnewid nodwyddau a therapi amnewid opioidau.

 

Sut mae ein hymchwil yn sefyll dros gyfiawnder a chydraddoldeb

Y Cyfadrannau

Dysgwch fwy am y gwaith ymchwil sy'n cael ei wneud ym mhob un o'r cyfadrannau sy'n ymwneud â Chyfiawnder a Chydraddoldeb

Cysylltwch â ni am Ymchwil

Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bobl a sefydliadau i gynnal ymchwil ar y cyd, i wireddu syniadau, i wella cynnyrch, ac i helpu i newid y byd.

01792 606060 

Cysylltwch â ni i gael gwybod sut y gallwn ni weithio gyda chi.

Dysgwch fwy