Rydym yn trawsnewid polisi mewn perthynas â’r diwydiant rhyw

Rydym yn trawsnewid polisi mewn perthynas â’r diwydiant rhyw

Yr Her

Bydd pobl yn ymgymryd â gwaith rhyw am nifer helaeth o resymau, o’r hyn a elwir yn aml yn ‘rhyw goroesi’, neu yn sgil cam-fanteisio rhywiol, neu’n syml iawn oherwydd bod penderfyniad yn cael ei wneud i ennill bywoliaeth drwy werthu gwasanaethau rhywiol. Yn anffodus, mae gweithwyr rhyw wedi bod y tu allan i’r fframwaith polisi ac arferion yng Nghymru, sy’n golygu bod gweithwyr yn hynod o agored i niwed ac nid yw eu hanghenion lliaws wedi derbyn sylw. Oherwydd union natur gwaith rhyw a’r cyd-destun moesol ynghlwm wrth y diwydiant rhyw, her sylweddol yw gweddnewid ymatebion polisi ac arferion i waith rhyw yng Nghymru. 

Y Dull

Mae’r Athro Tracey Sagar a’r Athro Debbie Jones yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton wedi gweithio gydag asiantaethau, llunwyr polisi a gweithwyr proffesiynol ar y rheng flaen yng Nghymru i roi argymhellion a chynlluniau gweithredu yn eu lle sydd wedi gweddnewid polisi ac arferion. 

Yr Effaith

Mae’r effeithiau wedi bod yn rhai pellgyrhaeddol. Er enghraifft, gan weithio mewn cydweithrediad â phartneriaid arweiniodd yr argymhellion at ymyriadau sydd wedi gwyro gweithwyr rhyw i ffwrdd o’r system cyfiawnder troseddol yn ogystal â chreu Timau Gweithredol Gweithwyr Rhyw ac asesiadau risg amlasiantaethol. Cafodd protocolau rhannu gwybodaeth eu datblygu a gwasanaethau allgymorth eu rhoi yn eu lle mewn lleoedd oddi ar y stryd.

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
Nod Cynaliadwy CU - Cyfiawnder
Themau ymchwil prifysgol abertawe