Rydym yn lleihau'r stigma ac yn gwella lles myfyrwyr sy'n weithwyr rhyw

Rydym yn lleihau'r stigma ac yn gwella lles myfyrwyr sy'n weithwyr rhyw

Yr Her

Cynhaliodd y Prosiect Gwaith Rhyw gan Fyfyrwyr (TSSWP) yr astudiaeth gyntaf ar raddfa fawr a ymchwiliodd i natur gwaith rhyw yn y DU a’r graddau y bydd myfyrwyr yn cymryd rhan ynddo.

Ymhlith amcanion allweddol y prosiect roedd creu gwasanaethau arloesol i wella lles gweithwyr rhyw sy’n fyfyrwyr, gan ddefnyddio data’r prosiect i gefnogi datblygiad y gwasanaethau’n fwy cyffredinol (e.e. cymorth i fyfyrwyr ac iechyd rhywiol), yn ogystal â ffyrdd arloesol o ledaenu data’r prosiect a fyddai’n gallu chwalu’r stigma ynghlwm wrtho a gwella’r gwasanaethau cymorth.

Ym mhob agwedd ar y prosiect, yr amcan cyffredinol oedd creu cyfleoedd a llwybrau i sicrhau bod gweithwyr rhyw sy’n fyfyrwyr yn cael eu grymuso a bod eu lleisiau'n cael eu clywed.

Y Dull

Bu’r Athro Tracey Sagar a’r Athro Debbie Jones yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton yn gweithio mewn partneriaeth â'r elusen iechyd rhywiol Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr ac yn bwysig iawn, â’r myfyrwyr sy'n ymgymryd â gwaith rhyw. Derbyniodd arolwg y prosiect fwy na 6,700 o ymatebion gan fyfyrwyr, ac yn ei dystiolaeth rhoddodd wybod bod tua 5% o fyfyrwyr yn ymgymryd â gwaith rhyw a bod tua 22% yn ystyried gwaith rhyw.

Gan ddefnyddio methodolegau arloesol, sefydlodd y prosiect ei wefan e-iechyd a'i wasanaeth cyrhaeddiad rhwyd ei hun - gan gynnig lle diogel i aelodau'r prosiect siarad (rhoddwyd hefyd wybodaeth am ddiogelwch, cyngor a chwnsela ynghylch iechyd rhywiol). Bu’r gwneuthurwr ffilmiau dogfen cymdeithasol yr Athro Christopher Morris hefyd yn gweithio gyda'r tîm i greu rhaglen ddogfen gymdeithasol annibynnol a chyfres o ffilmiau byrion a dynnwyd yn uniongyrchol o brofiad gweithwyr rhyw sy’n fyfyrwyr; ar ben hyn, atgynhyrchodd y prosiect ddyddiaduron fideo myfyrwyr. Ymgorfforwyd y ffilmiau creadigol hyn yn rhan o becynnau hyfforddi (wyneb yn wyneb ac ar-lein) gan sicrhau bod lleisiau gweithwyr rhyw yn llunio arferion proffesiynol.

Yr Effaith

Arweiniodd strategaeth TSSWP, sef estyn allan at y cyhoedd drwy'r cyfryngau print ac ar-lein, gan ei annog i feddwl ac i ddeall myfyrwyr sy'n ymgymryd â gwaith rhyw, at 71 achos o sylw rhyngwladol o’r 5 cyfandir a chafwyd adroddiadau am y strategaeth mewn 23 gwlad.

Daeth gwaith rhyw gan fyfyrwyr yn ffocws allweddol gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr am y tro cyntaf ac mae'r Undeb bellach wedi ymgorffori cymorth i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â gwaith rhyw yn ei bolisïau. Mae canfyddiadau'r prosiect wedi hysbysu gwasanaethau Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn ogystal â darparwyr gwasanaethau rheng flaen eraill, ac mae mwy na 600 o weithwyr proffesiynol a gweithwyr rheng flaen wedi derbyn yr hyfforddiant a ddatblygwyd gan y prosiect.

Cafodd gweithwyr rhyw sy’n fyfyrwyr eu grymuso yn sgîl gweld eu hunain yn cael eu cynrychioli ar ffilm a hefyd yn sgîl y broses o gyd-gynhyrchu’r hyfforddiant. Mae'r rhaglen ddogfen gymdeithasol a'r ffilmiau byrion wedi cael eu gweld mwy na 17 miliwn o weithiau.

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
Nod Cynaliadwy CU - Cyfiawnder
Themau ymchwil prifysgol abertawe